The essential journalist news source
Back
18.
May
2021.
Disgyblion Ysgol Gynradd Mount Stuart yn plannu 1,000 o goed ar gyfer Caerdydd Un Blaned
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Mount Stuart yn chwarae eu rhan yn siwrnai Caerdydd tuag at ddod yn garbon niwtral erbyn 2030 drwy helpu i blannu 1,000 o goed yn yr ysgol.

Rhoddwyd y coed ifanc i'r ysgol i nodi lansiad ymateb Caerdydd Un Blaned y Cyngor i'r argyfwng hinsawdd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Bydd y camau rydyn ni i gyd yn eu cymryd nawr yn effeithio’n sylweddol ar genedlaethau'r dyfodol felly mae'n wych gweld disgyblion Mount Stuart yn cymryd rhan ac yn helpu i wthio Caerdydd yn nes at ein nod o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030."

Dywedodd Helen Borley, Pennaeth Ysgol Gynradd Mount Stuart: "Y bwriad yw i bob plentyn yn yr ysgol blannu coeden. Yna bydd pob plentyn yn clymu rhuban o amgylch y goeden gyda'i enw arno neu er cof am aelod o'i deulu. Wrth i ni adfer o’r pandemig mae'r plant wedi dod yn llawer mwy ymwybodol a gwerthfawrogol o'r awyr agored ac mae plannu'r swm hwn o goed yn gydnabyddiaeth fach o hyn."

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "Gall coed chwarae rhan bwysig yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd, dyna pam, ymhlith amrywiaeth o brosiectau eraill, er enghraifft creu rhwydwaith gwres carbon-isel, a chynyddu cynhyrchiant bwyd lleol, rydym yn anelu at blannu miloedd yn fwy o goed a chynyddu’r gorchudd coed trefol yn y ddinas i 25%."

Nododd strategaeth Caerdydd Un Blaned 7 thema allweddol i fynd i'r afael â nhw: Ynni, Rheoli Gwastraff, yr Amgylchedd Adeiledig ac Ansawdd Tai, Bwyd, Seilwaith Gwyrdd, Dŵr a Thrafnidiaeth a galwodd ar drigolion i ymuno â'r Cyngor, drwy addo gwneud y newidiadau, (fel cerdded a beicio pan fydd yn bosibl, newid i dariff ynni gwyrdd, a bwyta mwy o fwyd ffres tymhorol a gynhyrchir yn lleol) sy'n angenrheidiol i wneud Caerdydd yn garbon niwtral erbyn 2030.

I gael gwybod mwy am sut y gallwch helpu, ewch i: https://www.caerdyddunblaned.co.uk/#addewidion