The essential journalist news source
Back
13.
May
2021.
'Pam rydym yn gofalu' - Straeon gan Ofalwyr Maeth Caerdydd i ddathlu Pythefnos Cenedlaethol Gofal Maeth (10-23 Mai 2021


13/5/2121

Y mis hwn, bydd rhai o ofalwyr maeth Caerdydd yn rhannu eu straeon i nodi Pythefnos Cenedlaethol Gofal Maeth, yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth a recriwtio flynyddol ledled y DU a gefnogir gan Gofal Maeth Caerdydd.

Mae'r digwyddiad sy'n parhau tan 23 Mai yn dathlu ymroddiad gofalwyr maeth a'r effaith gadarnhaol a gânt ar ein cymunedau lleol.

Gan mai ‘#Pamrydymyngofalu' yw'r thema eleni, mae rhai o ofalwyr maeth mwyaf ymroddedig Caerdydd yn rhannu eu profiadau ar ofal maeth ac yn apelio ar fwy o bobl i ystyried ymgymryd â'r rôl.

Mae Kevin Powell wedi bod yn ofalwr maeth ers 15 mlynedd, ac mae 12 ohonynt wedi bod gyda Gofal Maeth Caerdydd.

Dywedodd Kevin: "Mae bod yn ofalwr maeth yn bwysig i mi oherwydd fy mod am roi'r hyder i bobl ifanc mewn angen ffynnu fel oedolion."

"Mae'r Gefnogaeth gan Gaerdydd heb ei hail a phan fyddwch yn maethu ar ran Cyngor Caerdydd cewch eich cydnabod a'ch trin fel gweithiwr allweddol. Mae nifer o gyfleoedd a manteision hyfforddi, hyd yn oed ar ôl 15 mlynedd rwy'n dal i ddysgu ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd meddwl a chymorth cyntaf plant.

"Gallaf godi'r ffôn ac mae gen i gefnogaeth ar unwaith. Am y rheswm hwnnw, fyddwn i ddim yn gadael, byth."

cid:150DC701-04FB-4C5A-836E-190FDDB5EA1C

Kevin Powell

 

Dechreuodd Marion ac Alastair Pinkney eu taith faethu ym mis Rhagfyr 2019 ar ôl rhedeg cwmni llogi partïon llwyddiannus.

Pan ofynnwyd iddynt am eu profiad, dywedon nhw: "Mae gofal maeth wedi dod yn yrfa i'r ddau ohonon ni ac rydyn ni'n teimlo'n wirioneddol fod popeth yn ein bywydau wedi arwain at y pwynt hwn. Mae pob bywyd yn bwysig ac mae'r boddhad a'r llawenydd rydyn ni wedi'u profi o gefnogi person ifanc pan fydd angen arnyn nhw fwyaf, wedi bod yn wych. Roedd dewis maethu gyda Chyngor Caerdydd yn teimlo fel y dewis amlwg a byddwn yn parhau i helpu i newid Caerdydd, un bywyd ar y tro."

Marion and Alastair

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey: "Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un anodd i lawer ac er bod llawer ohonom wedi cael teulu a ffrindiau yno i'n cefnogi yn ystod yr adeg hon, mae angen y gefnogaeth honno ar rai plant a phobl ifanc ledled Caerdydd nawr, yn fwy nag erioed o'r blaen.

"Dros y blynyddoedd, rwyf wedi cael y fraint o gwrdd â nifer o ofalwyr maeth yn y ddinas, rhai ohonyn nhw yn bobl sy'n newydd i'r rôl a rhai sydd wedi bod yn maethu ers blynyddoedd. Mae wedi bod yn bleser llwyr gennyf glywed am eu profiadau ac mae Pythefnos Gofal Maeth yn gyfle i ddangos ein diolchgarwch i'r holl ofalwyr maeth hynny sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a phobl ifanc. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch yn fawr i bob un ohonynt, maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel bob dydd."

Ychwanegodd y Cynghorydd Hinchey: "Mae Gofal Maeth Caerdydd wedi parhau i recriwtio gofalwyr maeth drwy gydol y pandemig ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd am gael gwybod mwy am faethu ac sy'n meddwl y gall ddefnyddio ei sgiliau, ei wybodaeth a'i arbenigedd i helpu i gyfoethogi a gwella bywydau plant a phobl ifanc Caerdydd. Gall hyn fod naill ai ar gyfer seibiannau byr, gofal seibiant neu ofal hirdymor."

Yn ddweddarach y mis hwn, bydd rhai o adeiladau mwyaf eiconig Caerdydd yn cael eu goleuo'n oren, lliw nodweddiadol Gofal Maeth Caerdydd.  Ddydd Iau 20 Mai bydd Neuadd y Ddinas, Canolfan Mileniwm Cymru a Morglawdd Bae Caerdydd yn disgleirio'n lliwgar i ddathlu gwaith gofalwyr maeth. Rydym hefyd yn annogeraill i ddangos cefnogaethdrwy roi lamp yn eu ffenestr ddydd Iau 20 Mai ac ymuno i oleuo'r wlad yn oren.

P'un a ydych yn briod, yn byw gyda phartner, yn berson sengl, LHDT+ neu'n anabl, mae angen gofalwyr maeth ar Gyngor Caerdydd, sydd mor egnïol ac amrywiol â'r ddinas rydym yn byw ynddi

Mae Gofal Maeth Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o wobrau a buddion hael i sicrhau bod gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi, yn ariannol, yn broffesiynol ac yn emosiynol. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ewch iwww.gofalmaethcaerdydd.co.ukneu ffoniwch 029 2087 3797.

Ewch i sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor a rhannu ein cynnwys i helpu mwy o bobl i ddeall a gwerthfawrogi maethu a'r gwahaniaeth cadarnhaol y gall ei wneud i fywydau pobl ifanc.

Ymunwch â'r sgwrs a defnyddiwch yr hashnod #PGM2021 #PamRydymYnGofalu