The essential journalist news source
Back
7.
May
2021.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 7 Mai

07/05/21

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Gaerdydd, sy'n cwmpasu:cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd a chyfyngiadau dros dro ar yr eitemau y gellir mynd a nhw i Ganolfan Ailgylchu Ffordd Lamby.

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 7 Mai

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:408,877(Dos 1:297,160 Dos 2:  111,700)

 

  • 80 a throsodd:21,105 / 94.1% (Dos 1)19,287 /  86% (Dos 2)
  • 75-79: 15,090 / 95.7% (Dos 1)13,646 /  86.6% (Dos 2)
  • 70-74:21,432 / 95.2%(Dos 1)20,412 / 90.6% (Dos 2)
  • 65-69:21,627 /  92.7%  (Dos 1)9,573 / 41%(Dos 2)
  • 60-64:25,730  /  91.2%(Dos 1)12,027 / 42.6% (Dos 2)
  • 55-59:28,919 / 88.9% (Dos 1)6,281 /  19.3% (Dos 2)
  • 50-54:28,350 /  86%(Dos 1)5,681 /  17.2% (Dos 2)
  • 40-49:52,238 /  77.6% (Dos 1)9,326 / 13.9% (Dos 2)
  • 30-39:47,124 / 60% (Dos 1)8,377 /  10.7% (Dos 2)
  • 18-29:35,382  / 36.4%(Dos 1)8,326 / 8.6% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal:2,018 / 97.7%(Dos 1)1,882 /  91.1%(Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed:11,212 /  92.5% (Dos 1)9,848 / 81.2% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol:43,894 /  86.8%(Dos 1)4,801 / 9.5%(Dos 2)

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (26 Ebrill-2Mai)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

6Mai 2021, 09:00

Achosion:48

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth:13.1(Cymru: 9.7achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi:3,495

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth:952.6

Cyfran bositif:1.4%(Cymru:1%cyfran bositif)

Gwaith Gwella Canolfan Ailgylchu Ffordd Lamby

O 10 Mai nes y clywir yn wahanol, rydym yn cynnal gwelliannau i safle Canolfan Ailgylchu Ffordd Lamby, gan effeithio ar argaeledd sgipiau a chynhwysyddion.

Yn sgil y gwaith gwella hwn, ni fyddwn yn gallu derbyn yr eitemau canlynol yn Ffordd Lamby:

Batris y cartref/car

Sgriniau cyfrifiadurol/setiau teledu

Olew injan

Tiwbiau fflworoleuol

Oergelloedd/Rhewgelloedd ac eitemau trydanol mawr e.e. peiriannau golchi llestri

Cemegau cartref

Cyfryngau cymysg (llyfrau, cryno ddisgiau ac ati)

Paent

Plastrfwrdd

Rwbel

Tecstilau

Tetra Pak

Ôl ew llysiau

Ein nod yw ail-agor y gwasanaethau hyn ddiwedd mis Mai.

Os oes gennych unrhyw un o'r eitemau hyn uchod, archebwch slot yng Nghanolfan Ailgylchu Clos Bessemer yn lle hynny.

Os ydych eisoes wedi trefnu slot ar gyfer yr eitemau hyn yn Ffordd Lamby gallwch ei ganslo a gwneud un newydd ar gyfer Clos Bessemer ar App Cardiff Gov neu'r wefanwww.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchu

Mwyyma.