Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: ailagor cyfleusterau hamdden yng Nghaerdydd; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.
Ailagor cyfleusterau hamdden yng Nghaerdydd
Bydd Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd yn ail-agor ddydd Llun (3 Mai). Bydd Ysgol Farchogaeth Caerdydd a Chanolfan Hamdden Trem y Môr a weithredir gan y cyngor yn ailagor o ddydd Mawrth (4 Mai) wrth i gyfyngiadau Coronafeirws gael eu llacio.
Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd -mae'r holl weithgareddau (gan gynnwys Parcio a Chwarae a Sesiynau Padlfyrddio cymdeithasol) ar gael i'w trefnu ymlaen llaw ar ar-lein drwy https://www.dgrhc.com/l le gallwch weld pa sesiynau sydd ar gael yn fyw a chael rheolaeth lawn o'r amser a'r dyddiadau o'ch dewis. Os oes angen i chi drafod trefniant (neu os oes gennych daleb rhodd i'w gwario, e-bostiwch: info@ciww.com
Canolfan Hamdden Trem y Môr -mae'n bosib gwneud trefniadau ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol ar waith a slotiau campfa awr o hyd yn Nhrem y Môr ddim mwy na 7 diwrnod ymlaen llaw drwy ffonio 02920 378161. Mwy o wybodaeth yn https://www.cf11fitness.co.uk/cy/
Ysgol Farchogaeth Caerdydd- o 4 Mai bydd yr Ysgol Farchogaeth yn cynnig gwersi preifat hanner awr o hyd a reidiau ar ferlod. Rhaid trefnu a thalu am bob gwers ymlaen llaw drwy ffonio 02920 383908.
Mae Canolfannau Hamdden a weithredir gan fentrau cymdeithasol dielwGLL/Better Caerdyddbellach ar agor ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau ffitrwydd awyr agored. Mae gweithgareddau dan do gan gynnwys nofio, badminton, sboncen, dosbarthiadau ffitrwydd a sesiynau campfa, yn ailgychwyn o 3 Mai. Rhaid trefnu'r holl weithgareddau ymlaen llaw. Rhagor o wybodaeth yma: https://www.better.org.uk/leisure-centre/cardiff/news/re-opening-of-leisure-facilities-in-cardiff
Bydd gan yr holl gyfleusterau a weithredir gan y cyngor a GLL/Better Caerdydd fesurau diogelwch Covid ar waith. I gael manylion llawn, holwch y cyfleusterau unigol cyn ymweld â nhw.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 28 Ebrill
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 375,248 (Dos 1: 276,237 Dos 2: 98,990)
- 80 a throsodd: 21,115 / 94% (Dos 1) 18,161 / 80.8% (Dos 2)
- 75-79: 15,069 / 95.6% (Dos 1) 11,250 / 71.3% (Dos 2)
- 70-74: 21,400 / 95% (Dos 1) 18,211 / 80.8% (Dos 2)
- 65-69: 21,459 / 92% (Dos 1) 5,523 / 23.7% (Dos 2)
- 60-64: 25,688 / 91.1% (Dos 1) 9,303 / 33% (Dos 2)
- 55-59: 28,862 / 88.8% (Dos 1) 6,008 / 18.5% (Dos 2)
- 50-54: 28,249 / 85.8% (Dos 1) 5,441 / 16.5% (Dos 2)
- 40-49: 51,532 / 76.7% (Dos 1) 8,944 / 13.3% (Dos 2)
- 30-39: 41,220 / 52.7% (Dos 1) 7,997 / 10.2% (Dos 2)
- 18-29: 20,185 / 21% (Dos 1) 7,972 / 8.3% (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 2,030 / 97.7% (Dos 1) 1,862 / 89.6% (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 11,189 / 92.2% (Dos 1) 9,229 / 76.1% (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 43,493 / 86.5% (Dos 1) 3,655 / 7.3% (Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (18 Ebrill - 24 Ebrill)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
28 Ebrill 2021, 09:00
Achosion: 43
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 11.7 (Cymru: 12.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,249
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 885.5
Cyfran bositif: 1.3% (Cymru: 1.4% cyfran bositif)