The essential journalist news source
Back
25.
April
2021.
Newyddion gan Gyngor Caerdydd dros y 14 diwrnod diwethaf y gallech fod wedi'i golli 26/04/21

 

23/04/21 - Dyfodol disglair i Tudor Lane gyda murlun newydd

Mae lôn lai adnabyddus yng nghanol y ddinas wedi gweld ychydig o waith gweddnewid arni fel rhan o raglen adfywio gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer yr ardal ehangach.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26393.html

 

20/04/21 - Cronfa Adfywio Cymunedol y DU

Agorodd Cronfa Adfywio Cymunedol y DU ddoe - gyda £220m o gyllid gan Lywodraeth y DU ar gael i sefydliadau ledled y DU wneud cais amdano. Mae'r cyllid newydd yn bwriadu cefnogi cymunedau drwy fynd i'r afael â heriau, meithrin sgiliau a chreu cyfleoedd sy'n cyfrannu at yr economi leol.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26374.html

 

16/04/21 - Trefnwch i bori drwy ein llyfrau!

Bellach mae hybiau a llyfrgelloedd ar draws y ddinas yn cynnig cyfle i aelodau'r llyfrgell bori drwy'r silffoedd llyfrau am y tro cyntaf mewn mwy na blwyddyn, fel rhan o'r broses barhaus o adfer gwasanaethau cymunedol yn y ddinas.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26352.html

 

15/04/21 - Daw Tenis Bwrdd i Barc Bute er cof am gyn-fyfyriwr o Gaerdydd a fu farw'n sydyn, yn 29 oed

Mae bwrdd tenis bwrdd awyr agored wedi'i osod ym Mharc Bute er cof am gyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd a fu farw'n sydyn yn ei gwsg pan oedd ond yn 29 oed, ar ôl mynd i'r gwely gyda thwymyn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26344.html

 

12/04/21 - Tiroedd Castell Caerdydd yn ailagor fel mannau cyhoeddus am ddim

Mae tiroedd Castell Caerdydd wedi ailagor heddiw (dydd Llun 12 Ebrill), fel man cyhoeddus â mynediad am ddim.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26315.html

 

12/04/21 - Marchnad Caerdydd yn ailagor i gwsmeriaid (a'u cŵn)

Mae Marchnad Caerdydd yn ail-agor heddiw (12 Ebrill) gydag amrywiaeth o stondinau yn barod i groesawu cwsmeriaid yn ôl yn ddiogel ac, fel rhan o dreial newydd a gynlluniwyd i ddenu mwy o gwsmeriaid, eu cŵn.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26313.html