Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU nawr ar agor; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dychwelyd ar 24 Ebrill.
Cronfa Adfywio Cymunedol y DU
Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU nawr ar agor,gyda £220m o gyllid gan Lywodraeth y DU ar gael i sefydliadau ledled y DU wneud cais amdano.
Mae'r cyllid newydd yn bwriadu cefnogi cymunedau drwy fynd i'r afael â heriau, meithrin sgiliau a chreu cyfleoedd sy'n cyfrannu at yr economi leol.
Cyngor Caerdydd fydd y sefydliad arweiniol yng Nghaerdydd fydd yn cyflwyno'r prosiectau y cytunwyd arnynt drwodd i Lywodraeth y DU i'w hystyried. Mae'r gronfa'n agored i amrywiaeth o ymgeiswyr, gan gynnwys cynghorau cymuned, y sector gwirfoddol a chymunedol, ysgolion a phrifysgolion a busnesau lleol.
Bydd ceisiadau llwyddiannus yn:
- Adeiladu ar wybodaeth a mewnwelediad lleol
- Cyd-fynd â chynlluniau strategol hirdymor ar gyfer twf lleol
- Targedu'r bobl fwyaf anghenus
- Cefnogi adfywiad cymunedol
- Ategu darpariaeth gwasanaethau cenedlaethol a lleol arall
Blaenoriaethau buddsoddi'r cynllun hwn yw:
- Buddsoddi mewn sgiliau
- Buddsoddi mewn busnesau lleol
- Buddsoddi mewn cymunedau a lleoedd
- Cefnogi pobl i mewn i waith
Mae 90% o'r gronfa yn gyllid refeniw, felly ni chefnogir prosiectau sy'n canolbwyntio'n bennaf ar godi neu adnewyddu adeiladau, prynu tir neu brynu darnau mawr o offer.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut i wneud cais, ewch i:
www.caerdydd.gov.uk/cronfaafdywiocymunedol
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 20 Ebrill
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:330,048(Dos 1: 243,629, Dos 2: 86,401)
- 80 a throsodd: 21,107 (Dos 1) 14,791 (Dos 2)
- 75-79: 15,038 (Dos 1) 5,009 (Dos 2)
- 70-74: 21,375 (Dos 1) 17,409 (Dos 2)
- 65-69: 21,415 (Dos 1) 4,290 (Dos 2)
- 60-64: 25,634 (Dos 1) 9,036 (Dos 2)
- 55-59: 28,777 (Dos 1) 5,770 (Dos 2)
- 50-54: 28,055 (Dos 1) 5,242 (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 2,034 (Dos 1) 1,860 (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 11,161 (Dos 1) 8,663 (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 43,229 (Dos 1) 3,454 (Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (09 Ebrill - 15 Ebrill)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
19 Ebrill 2021, 09:00
Achosion: 85
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 23.2 (Cymru: 15.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,382
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 921.8
Cyfran bositif: 2.5% (Cymru: 1.7% cyfran bositif)
Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dychwelyd ar 24 - 25Ebrill
Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn dychwelyd ar gyfer 2021 gyda llwyfan rhithwir newydd cyffrous a rhaglen ysbrydoledig o 25 o ddigwyddiadau, a gaiff eu cyflwyno gan awduron a darlunwyr poblogaidd, dros un penwythnos - a hyd yn oed yn well na hynny, eleni mae pob digwyddiad yng Ngŵyl Llên Plant Caerdydd yn rhad ac am ddim!
Y 2 act olaf, sydd newydd eu cyhoeddi ar gyfer yr ŵyl deuluol arobryn, yw'r awdur Anna Wilson ac yn olaf, ond nid lleiaf o bell ffordd, darlunydd ein gŵyl sef Huw Aaron.
Hoffech chi wybod sut mae gwneud traethau bychain a bydoedd dan y dŵr? Ymunwch ag Anna Wilson i ddysgu mwy a darganfod ei llyfr lluniau ysbrydoledig newydd, ‘The Wide, Wide Sea', a dysgu am bwysigrwydd ailgylchu a chadw ein traethau'n lân.
Mae Anna Wilson yn byw ym Mhennsans yng Nghernyw, gyda'i theulu, ei chathod, ieir, hwyaid a chrwban o'r enw Hercules. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau lluniau a theitlau ffuglen gwych ar gyfer Pan Macmillan, HarperCollins, Stripes a Nosy Crow. Mae hi'n nofiwr gwyllt brwd, ac mae angerdd Anna dros anifeiliaid a'r byd naturiol yn disgleirio yn ei holl waith.
Ymgollwch ym myd Chwedlau Cymreig gyda Boc y ddraig fach goll. Ymunwch â'r awdur/darlunydd Huw Aaron wrth iddo ddwdlan a sgwrsio am ei lyfr newydd, ‘Ble mae Boc? Ar Goll yn y Chwedlau'. Cadwch bapur a phensil wrth law - efallai bydd yn eich annog i ddarlunio hefyd!
Mae Huw Aaron yn byw yng Nghaerdydd gyda'i deulu ac mae'n gartwnydd ac yn ddarlunydd. Mae wedi darlunio nifer o lyfrau plant a chomics ac mae'n gyfrannwr cyson i Private Eye, The Oldie a'r Spectator.
Dysgwch fwy am ddigwyddiadau'r ŵyl, awduron a darlunwyr, yma:https://www.cardiffkidslitfest.com/cy/