The essential journalist news source
Back
19.
April
2021.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 19 Ebrill

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a Trefnwch i bori drwy ein llyfrau.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 19 Ebrill

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  327,529(Dos 1: 242,440, Dos 2: 85,071)

 

  • 80 a throsodd: 21,104 (Dos 1) 14,008 (Dos 2)
  • 75-79: 15,035 (Dos 1) 4,464 (Dos 2)
  • 70-74: 21,368 (Dos 1) 17,395 (Dos 2)
  • 65-69: 21,413 (Dos 1) 4,282 (Dos 2)
  • 60-64: 25,613 (Dos 1) 9,032 (Dos 2)
  • 55-59: 28,744 (Dos 1) 5,771 (Dos 2)
  • 50-54: 27,976 (Dos 1) 5,237 (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,034 (Dos 1) 1,860 (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,150 (Dos 1) 8,661 (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 43,057 (Dos 1) 3,459 (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (08 Ebrill - 14 Ebrill)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

18 Ebrill 2021, 09:00

 

Achosion: 94

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 25.6 (Cymru: 15.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,491

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 951.5

Cyfran bositif: 2.7% (Cymru: 1.7% cyfran bositif)

 

Trefnwch i bori drwy ein llyfrau!

Bellach mae hybiau a llyfrgelloedd ar draws y ddinas yn cynnig cyfle i aelodau'r llyfrgell bori drwy'r silffoedd llyfrau am y tro cyntaf mewn mwy na blwyddyn, fel rhan o'r broses barhaus o adfer gwasanaethau cymunedol yn y ddinas.

O heddiw, ddydd Llun 19 Ebrill, gall cwsmeriaid gadw slot i ymweld â'u hyb neu lyfrgell o ddewis a chael 25 munud i weld a dewis y llyfrau yr hoffent eu benthyg.

Gellir cadw slotiau trwy gysylltu â Llinell y Llyfrgell ar 029 2087 1071, opsiwn 2. Hefyd gall aelodau barhau i ddefnyddio Llinell y Llyfrgell i ddewis a threfnu casglu eitemau fel rhan o'r gwasanaeth Clicio a Chasglu llyfrau, neu drwy ymweld â:
https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/card_cy/

Mae'n rhaid i gwsmeriaid sydd â slot a drefnwyd ymlaen llaw ymweld â'u hyb neu lyfrgell o ddewis ar eu pennau eu hunain, oni bai bod plentyn neu ofalwr yn mynd gyda nhw. Gall plant dros 11 oed drefnu apwyntiad ymlaen llaw i ddewis eu llyfrau ar eu pennau eu hunain.

Bydd angen i bob ymwelydd wisgo gorchudd wyneb y tu mewn i'r cyfleusterau oni bai ei fod wedi'i eithrio, defnyddio'r glanweithydd dwylo cyn mynd i mewn i'r adeilad, a dilyn mesurau ymbellhau cymdeithasol ac unrhyw systemau un-ffordd sydd ar waith pan fyddant y tu mewn.

Bydd mesurau glanhau gwell ar waith yn yr adeilad er mwyn cadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd wedi cynnal gwasanaeth i aelodau'r llyfrgell drwy gydol y flwyddyn diwethaf - yn gyntaf drwy fuddsoddi mwy yn ein cynnig digidol ac annog cwsmeriaid i roi cynnig ar ein hystod eang o e-adnoddau a fu'n hynod lwyddiannus a phoblogaidd ac yna gyda lansiad ein gwasanaeth Clicio a Chasglu llyfrau.

"Er hynny, rydym yn gwybod, ar gyfer rhai cwsmeriaid, nid oes dim i'w gymharu â phori'r silffoedd yn eu llyfrgell neu hyb a dewis y teitlau maent am eu benthyg felly.  Mae hyn yn gam arall ymlaen yn ein cynllun adfer ac rydym yn edrych ymlaen at weld cwsmeriaid yn ein hadeiladau ar gyfer eu slotiau a drefnwyd ymlaen llaw o'r wythnos nesaf ymlaen."

I gael gwybodaeth am oriau agor hybiau a llyfrgelloedd, ewch i
https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/hybiau-a-swyddfeydd-tai/Pages/Hybiau.aspx