12/04/21
Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cynnwys cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer yr achosion a phrofion COVID-19 yng Nghaerdydd, gwybodaeth am Gastell Caerdydd a Marchnad Caerdydd; a chyngor ar deithio i Gaerdydd, wrth i siopau nad ydynt yn siopau hanfodol ailagor yng nghanol y ddinas.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd lechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro- 12 Ebrill
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 302,407(Cyfanswm ddoe:3,349)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4
- Staff cartrefi gofal:4,346 (Dos 1)3,815(Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal:2,180(Dos 1)1,835(Dos 2)
- 80 a throsodd:19,163(Dos 1)6,556(Dos 2)
- Staff gofal iechyd rheng flaen:27,102(Dos 1)22,864(Dos 2)
- Staff gofal cymdeithasol:9,769(Dos 1)7,598(Dos 2)
- 75-79:14,158(Dos 1) 2,203(Dos 2)
- 70-74: 20,484(Dos 1)16,437(Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed:9,686 (Dos 1)7,598(Dos 2)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7
- 65-69:17,292(Dos 1)801(Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol:43,516(Dos 1)3,870(Dos 2)
- 60-64:13,342(Dos 1)3,194(Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (1Ebrill-7Ebrill)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
11Ebrill2021, 09:00
Achosion: 116
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 31.6 (Cymru:17.5achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,309
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 901.9
Cyfran bositif: 3.5% (Cymru:2%cyfran bositif)
Marchnad Caerdydd yn ailagor I gwsmeriaid (a'u cŵn)
Mae Marchnad Caerdydd yn ail-agor heddiw (12 Ebrill) gydag amrywiaeth o stondinau yn barod i groesawu cwsmeriaid yn ôl yn ddiogel ac, fel rhan o dreial newydd a gynlluniwyd i ddenu mwy o gwsmeriaid, eu cŵn.
Mae'r mesurau sydd ar waith i sicrhau diogelwch cwsmeriaid yn cynnwys:
- system un ffordd
- mesurau ymbellhau cymdeithasol
- gofyniad i wisgo masg
- gorsafoedd diheintio dwylo.
Mae nifer o stondinau newydd hefyd yn agor ym Marchnad Caerdydd, gan gynnwys: Spirit Infusions; Casa Agape;a Bloomfield Handmade.
Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26313.html
Tiroedd Castell Caerdydd yn ailagor fel mannau cyhoeddus am ddim
Mae tiroedd Castell Caerdydd wedi ailagor heddiw (dydd Llun 12 Ebrill), fel man cyhoeddus â mynediad am ddim.
Bydd gwasanaeth caffi tecawê ar gael ar y tir ac mae croeso i ymwelwyr ddod â phicnic ac ymlacio yn erbyn tirnod mwyaf eiconig Caerdydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae tŵr y castell a'r prif dŷ yn dal ar gau o dan reoliadau'r Coronafeirws, ond mae tîm y Castell yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i'r tiroedd, am ddim, i fwynhau rhywfaint o fannau gwyrdd ychwanegol gwerthfawr yng nghanol y ddinas."
Mae croeso i gŵn ond rhaid iddynt fod ar dennyn. Mae raciau beiciau ar gael ar dir y Castell i ddarparu diogelwch ychwanegol i unrhyw un sy'n beicio i ganol y ddinas.
Oriau agor y Castell yw Lluniau (10am-4pm) a Gwe-Sul (9am - 6pm).
Mae tŵr y castell a'r prif dŷ yn parhau ar gau i ymwelwyr o dan ddeddfwriaeth y Coronafeirws.
Manwerthu nad yw'n hanfodol yn agori'r cyhoedd yng Nghaerdydd heddiw - dydd Llun Ebrill 12
Croeswir ymwelwyr a thrigolion i Ganol Dinas Caerdydd heddiw wrth i fanwerthu nad yw'n hanfodol gael y golau gwyrdd i ailagor i'r cyhoedd.
Wrth i'r siopau wneud eu cynlluniau i agor eu busnesau dros yr wythnosau diwethaf, mae staff o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi bod yn ymweld â'r safleoedd hyn i roi cyngor ac arweiniad ar sut y gall siopau yng nghanol y ddinas weithredu'n ddiogel yn unol â chyfyngiadau parhaus COVID.
Bydd stiwardiaid hefyd yn gweithio ar y stryd i helpu busnesau manwerthu i reoli'r cyhoedd sy'n ciwio i fynd i mewn i'r siopau.
O ystyried nifer y bobl yr ydym yn disgwyl iddynt ddod i Gaerdydd, wrth i'r ddinas ddechrau ailagor, anogir pawb sy'n gallu teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, beicio neu gerdded, yn gryf i wneud hynny. Gellir gweld yr holl wybodaeth am amserlenni a gwasanaethau ar wefan Traveline Cymruyma.
Fel arall, os ydych yn teithio mewn car, ystyriwch y cyfleuster Parcio a Theithio ym Mhentwyn, neu'r cyfleuster Parcio a Cherdded o Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.
Mae canllaw llawn i ymwelwyr ar sut i deithio i Gaerdydd ar gael ar wefan Croeso Caerdyddyma.
Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26317.html