The essential journalist news source
Back
9.
April
2021.
Llyfr Cydymdeimlad ar Gyfer Dug Caeredin

09/04/21 


Mae’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Rod McKerlich, wedi arwain y teyrngedau o brifddinas Cymru, yn dilyn cyhoeddi marwolaeth Ei Uchelder Brenhinol, Dug Caeredin.

Mae baneri ar adeiladau’r Cyngor ar draws y ddinas bellach yn chwifio ar hanner mast.

Dywedodd yr Arglwydd Faer, Y Cyng Rod McKerlich: "Cefnogodd Dug Caeredin ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II yn gadarn drwy gydol ei theyrnasiad hanesyddol ac roedd yn gymar ffyddlon am dros 70 o flynyddoedd o briodas. 

"Caiff ei gofio am ei wasanaeth ymroddedig i'r wlad hon, ei nawdd am gannoedd o elusennau ac wrth gwrs y Gwobrau Dug Caeredin ysbrydoledig sydd wedi annog ac ysgogi cymaint o bobl ifanc dros y blynyddoedd. 

"Ar ran pobl Caerdydd, rwy'n cydymdeimlo'n ddwys â'r Teulu Brenhinol ar yr adeg drist iawn hon."