The essential journalist news source
Back
3.
April
2021.
Datganiad Cyngor Caerdydd ar Fae Caerdydd

03/04/21 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Unwaith eto, mae ein timau wedi wynebu'r dasg enfawr o lanhau swm sylweddol o sbwriel a adawyd ar ôl gan grwpiau mawr o bobl sy'n benderfynol o dorri cyfyngiadau COVID-19. 

"Neithiwr, roedd biniau wedi'u gadael heb eu defnyddio a sbwriel ymhobman.  Mae staff y Cyngor wedi bod ar y safle ers oriau mân y bore, gan weithio'n galed i glirio a glanhau'r ardal. 

"Er gwaethaf y mesurau ataliol a roddwyd ar waith gan y cyngor, mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru, torrwyd rheoliadau coronafeirws Llywodraeth Cymru unwaith eto gan nifer sylweddol o bobl yn ymgasglu'n anghyfreithlon ym Mae Caerdydd. 

"Mae'r rheolau'n glir, mae chwech o bobl, o ddwy aelwyd yn cael cyfarfod yn yr awyr agored, gan gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr. Mae torri'r rheolau hyn yn cynyddu'n sylweddol y siawns y bydd achosion COVID-19 yn codi yn y ddinas. Rydym yn annog pawb i ddilyn y cyngor, cynnal pellter cymdeithasol, a chadw Caerdydd yn ddiogel."