The essential journalist news source
Back
1.
April
2021.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 1 Ebrill

Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Gaerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a mae amser ar ôl o hyd i gwblhau Cyfrifiad 2021.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 1 Ebrill

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:262,299

 

  • 80 a throsodd: 19,103 (Dos 1) 1,531 (Dos 2)
  • 75-79: 14,123 (Dos 1) 1,861 (Dos 2)
  • 70-74: 20,362 (Dos 1) 13,949 (Dos 2)
  • 65-69: 17,123 (Dos 1) 728 (Dos 2)
  • 60-64: 13,135 (Dos 1) 2,221 (Dos 2)
  • 55-59: 13,866 (Dos 1) 202 (Dos 2)
  • 50-54: 4,851 (Dos 1) 179 (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,164 (Dos 1) 1,771 (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 9,524 (Dos 1) 6,260 (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 40,654 (Dos 1) 3,318 (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (21 Mawrth - 27 Mawrth)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

31 Mawrth 2021, 09:00

 

Achosion: 112

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 30.5 (Cymru: 35.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,493

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,497.1

Cyfran bositif: 2.0% (Cymru: 2.5% cyfran bositif)

 

Mae amser ar ôl o hyd i gwblhau Cyfrifiad 2021

Bydd pedwar hyb yng Nghaerdydd yn cynnig cymorth i breswylwyr sydd heb gwblhau ffurflenni'r Cyfrifiad 2021 o'r wythnos nesaf ymlaen.

Bydd Canolfannau Cymorth y Cyfrifiad yn Hyb y Llyfrgell Ganolog, Hyb Trelái a Chaerau, Hyb Llaneirwg a Hyb Grangetown o dydd Mawrth, 6 Ebrill, 10am i 4pm. Gall preswylwyr sydd angen cymorth i lenwi'r ffurflen wneud apwyntiad am gymorth wyneb-yn-wyneb gyda swyddog hyb.

Diwrnod y Cyfrifiad oedd dydd Sul 21 Mawrth 2021. Mae gwybodaeth a gesglir yn yr arolwg, sy'n digwydd bob 10 mlynedd, yn helpu i benderfynu sut y caiff gwasanaethau eu hariannu mewn ardaloedd lleol. Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob aelwyd gwblhau'r cyfrifiad ond mae gan breswylwyr amser i lenwi eu ffurflen o hyd ac mae ystod eang o gymorth ar gael i gynorthwyo'r rhai sydd ei angen.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda'r Cyfrifiad i sicrhau bod preswylwyr yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt i lenwi'r ffurflen ar ran eu cartref.

"Mae'r Cyfrifiad eleni yn ddigidol am y tro cyntaf a bydd llawer o bobl eisoes wedi cwblhau eu rhai nhw, ar ôl derbyn cod mynediad unigryw drwy'r post i fynd ar-lein. Bydd yn well gan eraill lenwi ffurflen bapur neu bydd angen cymorth arnynt mewn gwahanol ieithoedd.

"Mae'n bwysig bod unrhyw un sydd angen cymorth yn gwneud apwyntiad yn gyntaf. Mae'r pedwar hyb sy'n darparu cymorth ar agor ar gyfer apwyntiadau sydd wedi'u trefnu ymlaen llaw yn unig ar hyn o bryd, gan ein bod yn rheoli'r broses o ailgychwyn gwasanaethau gyda mesurau diogelwch coronafeirws ychwanegol."

Gall preswylwyr gael cymorth drwy ffonio 029 2087 1071 neu e-bostio  cyngorimewniwaith@caerdydd.gov.uk  Gellir ymdrin â llawer o ymholiadau heb fod angen apwyntiad wyneb-yn-wyneb ond gall aelodau'r tîm drefnu dyddiad ac amser addas ar gyfer apwyntiad hyb pan fo angen.

Mae pob hyb yn dilyn canllawiau diogelwch y llywodraeth o ran y coronafeirws. Rhaid i breswylwyr wisgo gorchudd wyneb y tu mewn i'r adeiladau, oni bai eu bod wedi'u heithrio.

Mae cymorth Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i gwblhau'r cyfrifiad yn cael ei gydlynugan Deaf Hub Wales yn 163 Heol Casnewydd. Mae gwasanaethau'n rhithwir yn unig ar hyn o bryd. E-bostiwch census@deafhub.wales  am ragor o wybodaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i lenwi ffurflen y cyfrifiad ewch i  www.cyfrifiad.gov.uk/help