The essential journalist news source
Back
1.
April
2021.
Peidiwch â cholli'r cyfle – cwblhewch eich cyfrifiad y Pasg hwn


1/4/21

Mae'r ymateb i Gyfrifiad 2021 wedi bod yn wych, ond i wneud yn siŵr mai Cwningen y Pasg fydd yn ymweld â chi y penwythnos hwn ac nid un o swyddogion maes y cyfrifiad, ewch ati i gyflwyno eich holiadur nawr.

Mae miliynau o gartrefi ledled Cymru a Lloegr eisoes wedi gwneud yn siŵr y byddan nhw'n cael eu cyfrif pan ddaw'r amser i gynllunio a darparu'r gwasanaethau allweddol rydym ni i gyd yn dibynnu arnynt, fel meddygfeydd, lleoedd mewn ysgolion a gwelyau mewn ysbytai, drwy lenwi holiadur ar-lein y cyfrifiad.

 

Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod pawb nad ydynt wedi ymateb eto yn gwneud hynny cyn gynted â phosibl nawr bod Diwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth, wedi mynd heibio.

 

Mae swyddogion maes eisoes yn mynd o gwmpas a byddan nhw'n ymweld â chartrefi nad ydynt wedi cyflwyno eu cyfrifiad y penwythnos hwn. Bydd y cyfnod gweithredol yn dod i anterth yr wythnos nesaf, felly bydd mwy o swyddogion yn curo ar ddrysau lle mae ein cofnodion yn dangos nad ydym wedi cael ymateb.

 

"Mae Cyfrifiad 2021 wedi mynd yn wych hyd yma," meddai cyfarwyddwr gweithrediadau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Pete Benton. "Mae'r mwyafrif helaeth o bobl ledled Cymru a Lloegr eisoes wedi cymryd rhan ac rydym ni wedi clywed rhai straeon gwych: o'r rhai a oedd yn cwblhau eu 10fed cyfrifiad i'r rhai a oedd yn ei gwblhau am y tro cyntaf."Ond, er mwyn i ni gael y darlun mwyaf cywir o'r boblogaeth gyfan, mae angen i bawb lenwi eu holiadur. Drwy wneud hyn byddwch chi'n helpu i lunio'r gwasanaethau lleol yn eich cymuned - o lwybrau bysiau i leoedd mewn ysgolion a gwelyau mewn ysbytai. Gallwch chi ei lenwi yn hawdd ar lein, ond i'r rhai y mae angen help arnynt, mae amrywiaeth o ganolfannau cymorth y cyfrifiad ar agor ledled Cymru a Lloegr, ac mae ffurflenni papur ar gael os bydd angen.

 

"Mae'n rhaid i bawb gwblhau'r cyfrifiad yn ôl y gyfraith ac os byddwch chi'n

gwneud hynny nawr ni chewch ddirwy."

 

Mae holiadur y cyfrifiad yn syml ac mae'n ddiogel i'w gwblhau ar lein. Dim ond

10 munud fesul unigolyn mewn cartref mae'n ei gymryd i'w gwblhau.

 

Rôl swyddogion maes yw helpu ac annog y rhai nad ydynt wedi llenwi holiadur y cyfrifiad ar lein nac ar bapur eto ar ôl Diwrnod y Cyfrifiad, a'u cyfeirio at y gwasanaethau cymorth sydd eu hangen arnynt. Ni fydd byth angen i staff maes fynd i mewn i dai pobl; byddant bob amser yn cadw pellter cymdeithasol, bydd ganddynt gyfarpar diogelu personol a byddant

yn gweithio yn unol â holl ganllawiau'r llywodraeth.

 

Byddant yn gweithredu yn yr un ffordd â gweithwyr post neu gwmnïau danfon bwyd. Bydd ganddynt fathodyn adnabod hefyd i ddangos eu bod yn gweithio ar y cyfrifiad.

 

Arolwg unigryw o'r holl gartrefi yng Nghymru a Lloegr yw'r cyfrifiad. Er mwyn

cynrychioli pawb, mae angen i bawb gael eu cyfrif.

 

"Mae hynny'n cynnwys pobl ag ail gartrefi," dywedodd Benton. "Os nad ydych chi wedi bod i'ch carafán, eich tŷ gwyliau neu eich fflat cymudo yn y Ddinas oherwydd y cyfyngiadau symud, mae dal angen i chi gwblhau cyfrifiad ar gyfer pob eiddo rydych chi'n berchen arno - hyd yn oed os nad oes neb yno - fel ein bod ni'n cael darlun cywir o'r stoc dai gyfan.

"Ac os ydych chi wedi symud allan o gartref yn Llundain neu ddinas arall ac I mewn i ail gartref mewn lleoliad mwy gwledig yn ystod y pandemig, mae angen i chi gwblhau cyfrifiad ar gyfer y ddau eiddo.

 

"Mae angen cynnwys pob myfyriwr yn y cyfrifiad hefyd. Dylai myfyrwyr ei gwblhau ar gyfer eu cyfeiriad arferol yn ystod y tymor. Os ydyn nhw'n byw gartref ar hyn o bryd, bydd angen eu cynnwys yn y cyfrifiad ar gyfer y cartref hwnnw hefyd."

Bydd pob cartref wedi cael llythyr drwy'r post ar ddechrau mis Mawrth gyda chyfarwyddiadau ar gyfer cymryd rhan. Os ydych chi wedi colli'r llythyr neu os oes gennych chi ail gyfeiriad nad ydych chi wedi ymweld ag ef, ewch icyfrifiad.gov.uk i ofyn am god mynediad ar lein ar gyfer eich cyfeiriad drwy neges destun. Mae'r holl help sydd ei angen arnoch ar lein, neu gallwch ymweld ag un o ganolfannau cymorth lleol y cyfrifiad lle y gallwch chi gael help

i lenwi eich ffurflen.