The essential journalist news source
Back
29.
March
2021.
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 29 Mawrth

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a dyddiaduron ‘Diff Un Flwyddyn yn Ddiweddarach, ffilm fer yn dangos hanesion o fywyd dan glo.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 29 Mawrth

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:247,556(Cyfanswm ddoe: 4,570)

 

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4

  • Staff cartrefi gofal: 4,293 (Dos 1) 3,675 (Dos 2)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,161 (Dos 1) 1,662 (Dos 2)
  • 80 a throsodd: 19,092 (Dos 1) 848 (Dos 2)
  • Staff gofal iechyd rheng flaen: 26,356 (Dos 1) 21,954 (Dos 2)
  • Staff gofal cymdeithasol: 9,339 (Dos 1) 7,215 (Dos 2)
  • 75-79: 14,115 (Dos 1) 1,827 (Dos 2)
  • 70-74: 20,346 (Dos 1) 12,106 (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 9,490 (Dos 1) 5,941 (Dos 2)

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7 

  • 65-69: 17,087 (Dos 1) 670 (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 38,793 (Dos 1) 2,946 (Dos 2)
  • 60-64: 13,043 (Dos 1) 1,646 (Dos 2)


Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (18 Mawrth - 24 Mawrth)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

28 Mawrth 2021, 09:00

 

Achosion: 123

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 33.5 (Cymru: 38.1 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,566

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,517.0

Cyfran bositif: 2.2% (Cymru: 2.8% cyfran bositif)

 

Dyddiaduron ‘Diff Un Flwyddyn yn Ddiweddarach: Ffilm fer yn dangos hanesion o fywyd dan glo

Mae profiadau ac emosiynau plant yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod clo cyntaf oherwydd y coronafeirws wedi cael eu cofnodi mewn ffilm fer.

Flwyddyn ar ôl dechrau'r cyfnod clo ledled y wlad fis Mawrth diwethaf pan gaeodd ysgolion, dechreuodd addysg gartref ac roedd angen i aelwydydd aros gartref, mae'r prosiectDyddiaduron ‘Diff- a wahoddodd bobl ifanc ar draws y ddinas i ddogfennu sut roedd eu bywydau wedi newid trwy gydol y pandemig, wedi arwain at fideo 30 munud sy'n cyflwyno'r cyfraniadau.

Lansiwyd y prosiect gan Addewid Caerdydd, menter gan y Cyngor sy'n dwyn ynghyd y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion, diwydiant a darparwyr addysg, i godi ymwybyddiaeth o ehangder y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a datblygu sgiliau plant a phobl ifanc i lunio twf swyddi yn y dyfodol. Cefnogwyd y prosiect gan Screen Alliance Wales, Cymdeithas Adeiladu'r Principality a Phrifysgol De Cymru.

Gwahoddwyd plant a phobl ifanc i gyflwyno dyddiadur fideo byr, gludwaith lluniau neu gofnodion dyddiadur ysgrifenedig yn dangos sut yr oeddent yn cadw'n brysur, y sgiliau newydd yr oeddent yn eu datblygu o gartref a sut yr oeddent yn cadw mewn cysylltiad ag aelodau'r teulu a ffrindiau er mwyn rhoi cyfle iddynt rannu eu profiadau yn ystod y cyfnod heriol hwnnw.

Mae ffilm fer bellach wedi'i chynhyrchu gan fyfyrwyr cynhyrchu cyfryngau ym Mhrifysgol De Cymru, un o bartneriaid y prosiect, i ddathlu'r prosiect a phawb a gyfrannodd ato. Bydd darnau o'r ffilm fer yn ymddangos ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor ac Addewid Caerdydd. Gellir gweld y fersiwn lawn yma:  https://www.youtube.com/watch?v=jDj53UcGzug

Gan weithio gydag Amgueddfa Caerdydd, bydd y fideos hefyd yn cael eu cadw i helpu cenedlaethau'r dyfodol i ddeall sut beth oedd byw yn y cyfnod digynsail hwn i blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd. Bydd yr agwedd hon ar y prosiect yn cael ei datblygu pan fydd yr amgueddfa'n gallu ailagor eto.

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26204.html