Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Gaerdydd, sy'n cwmpasu: rhagor o Hybiau a llyfrgelloedd yn agor ar gyfer apwyntiadau; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a crynodeb o achosion ysgol a niferoedd hunanynysu yr wythnos hon.
Rhagor o Hybiau a llyfrgelloedd yn agor ar gyfer apwyntiadau yn unig
Bydd rhagor o Hybiau a llyfrgelloedd ar draws y ddinas yn ailagor yr wythnos nesaf, gan gynnig gwasanaethau ar apwyntiad yn unig.
O ddydd Llun, 29 Mawrth, bydd 12 cyfleuster arall yn agor yn ogystal â Hyb y Llyfrgell Ganolog, Hyb Llaneirwg, Hyb Trelái a Chaerau a'r Powerhouse, sydd wedi bod ar agor ar gyfer argyfyngau drwy gydol y cyfnod cloi diweddaraf.
Mae'r cyfleusterau sy'n ailagor yn cynnwys Hyb Partneriaeth Tredelerch, Hyb Llanrhymni, Llyfrgell Treganna, Hyb y Tyllgoed, Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays, Hyb Ystum Taf a Hwb Gabalfa, Hyb Grangetown, Hyb Rhydypennau, Llyfrgell Radur, Hyb yr Eglwys Newydd, Llyfrgell Rhiwbeina a Hyb Llanisien. Mae gwybodaeth am yr oriau agor ar gael yma:
Bydd mynediad i'r llyfrgelloedd a'r hybiau ar gyfer apwyntiadau wedi'u trefnu o flaen llaw (ac eithrio mewn achosion brys) ar gyfer gwasanaethau i Mewn i Waith, tai, budd-daliadau, gwasanaethau cyngor ar arian a chyfrifiaduron mynediad cyhoeddus.
Dylai cwsmeriaid ffonio'r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu e-bostio hybcynghori@caerdydd.gov.uk am help neu i drefnu apwyntiad.
Bydd gwasanaeth clicio a chasglu'r llyfrgelloedd ar waith ar sail apwyntiad hefyd i ddychwelyd a chasglu llyfrau. Gall cwsmeriaid archebu teitlau neu ddetholiad o lyfrau sy'n seiliedig ar eu diddordebau a'u hoff genres ar gatalog ar-lein Llyfrgelloedd Caerdydd (https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/en_GB/card_en) neu drwy ffonio llinell ffôn y llyfrgell (029 2087 1071, opsiwn 2). Bydd staff yn cadarnhau slot amser i gasglu llyfrau o'r hyb, ac mae angen dychwelyd y llyfrau i'r un hyb trwy apwyntiad yn unig.
Gall preswylwyr gasglu bagiau ailgylchu gwyrdd a gwastraff bwyd o'r hybiau a'r llyfrgelloedd heb drefnu apwyntiad.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae cadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel yn flaenoriaeth wrth i ni ailagor ein hybiau a'n llyfrgelloedd yr wythnos nesaf. Gall cwsmeriaid ddisgwyl yr un mesurau diogelwch yr ydym i gyd wedi dod yn gyfarwydd â nhw bellach, gan gynnwys cadw pellter diogel oddi wrth eraill, gwisgo gorchudd wyneb y tu mewn oni bai ein bod wedi'u heithrio a defnyddio hylif diheintio dwylo i helpu i atal lledaeniad y coronafeirws.
"Mae ein gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd wedi parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i breswylwyr drwy gydol y 12 mis diwethaf, hyd yn oed pan fu rhaid cau rhai o'n hadeiladau, ac rydym yn falch o allu cynnig rhai gwasanaethau wyneb yn wyneb unwaith eto, pan na fu'n bosibl i ni gefnogi cwsmeriaid dros y ffôn neu drwy e-bost.
"Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau ar-lein fel clybiau swyddi digidol, sgyrsiau i Mewn i Waith dros y we, sesiynau iechyd a lles a gweithgareddau ar-lein sydd wedi bod yn ffordd amhrisiadwy o ymgysylltu â chwsmeriaid yn ystod y cyfnodau cloi.
"Mae gwefan ddigwyddiadau'r Hybiau yn www.hybiaucaerdydd.co.uk yn cynnwys ystod eang o weithgareddau ar-lein am ddim i bob oedran felly rydym yn annog cwsmeriaid i gael golwg."
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 26 Mawrth
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:234,011(Cyfanswm ddoe: 4,346)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4
- Staff cartrefi gofal: 4,276 (Dos 1) 3,649 (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 2,152 (Dos 1) 1,649 (Dos 2)
- 80 a throsodd: 19,084 (Dos 1) 605 (Dos 2)
- Staff gofal iechyd rheng flaen: 26,141 (Dos 1) 21,552 (Dos 2)
- Staff gofal cymdeithasol: 9,221 (Dos 1) 6,972 (Dos 2)
- 75-79: 14,108 (Dos 1) 1,807 (Dos 2)
- 70-74: 20,331 (Dos 1) 9,807 (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 9,466 (Dos 1) 5,700 (Dos 2)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7
- 65-69: 17,048 (Dos 1) 632 (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 37,059 (Dos 1) 2,702 (Dos 2)
- 60-64: 12,980 (Dos 1) 1,364 (Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (15 Mawrth - 21 Mawrth)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
25 Mawrth 2021, 09:00
Achosion: 120
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 32.7 (Cymru: 38.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 5,056
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,378.0
Cyfran bositif: 2.4% (Cymru: 3.1% cyfran bositif)
Crynodeb o achosion ysgol a niferoedd hunanynysu yr wythnos hon
20/3/2021 Ysgol Gynradd Creigiau
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Creigiau. Mae 25 o ddisgyblion Blwyddyn 3 ac 1 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
23/3/2021Ysgol Uwchradd Fitzalan
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Fitzalan. Mae 37 o ddisgyblion Blwyddyn 12 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
24/3/2021Ysgol Gynradd Stacey
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Stacey. Mae 24 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 2 aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
25/3/2021 Ysgol Gynradd Mount Stuart
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi eu cadarnhau yn Ysgol Gynradd Mount Stuart. Mae 25 disgybl Meithrin, 30 disgybl ym Mlwyddyn 4 a thri aelod o staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod wedi iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos â'r achosion a gadarnhawyd.
25/3/2021 Ysgol Gynradd Glanyrafon
Mae achos positif o COVID-19 wedi ei gadarnhau yn Ysgol Gynradd Glanyrafon. Mae 13 disgybl Meithrin a thri aelod o staff wedi eu cynghori ganIechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod wedi iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos â'r achos a gadarnhawyd.
26/3/2021 Ysgol Gynradd Kitchener
Mae achos positif o COVID-19 wedi ei gadarnhau yn Ysgol Gynradd Kitchener.
Mae 28 o ddisgyblion Blwyddyn 3 a dau aelod o staff wedi eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod wedi iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.