Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: Canolfan Brechu Torfol y Bae yn agor ei drysau; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a lansio llwybrau stori awyr agored newydd sy'n Ystyriol o Blant ar draws y ddinas.
Canolfan Brechu Torfol y Bae yn agor ei drysau
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi agor pedwaredd Canolfan Brechu Torfol heddiw yn rhan o'i raglen Brechu Torfol i ddiogelu ei phoblogaeth oedolion rhag Covid-19 cyn gynted â phosibl.
Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg i gynyddu'r gallu i frechu, bydd y Ganolfan Brechu Torfol newydd ym Mae Caerdydd yn galluogi rhoi hyd at 3,500 o frechiadau ychwanegol y dydd, gan ddibynnu ar gyflenwad y brechlynnau.
Mae'r ganolfan newydd wedi'i lleoli yn hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Bydd lleoliad y safle ar gael i bobl yng Nghaerdydd a hefyd i drigolion Dwyrain y Fro.
Agorodd y ganolfan gwta 3 wythnos ar ôl cadarnhau'r ganolfan fel pedwaredd Canolfan Brechu Torfol Caerdydd a Bro Morgannwg a gyhoeddwyd yma.
Mae'r 60 o Feddygfeydd Teulu yn y ddwy sir i gyd yn cymryd rhan yn y rhaglen hefyd, a bydd Fferyllfeydd Cymunedol hefyd yn ymuno â'r rhaglen o fis Ebrill.
Hyd yma mae'r Bwrdd Iechyd wedi darparu dros 229,500 o frechlynnau, gyda 174,151 o'r rhain yn ddosau cyntaf. Caiff yr holl ddosau cyntaf yn y grwpiau 1-9 eu rhoi erbyn 19 Ebrill fel ag y cynlluniwyd.
Cyngor teithio i gyrraedd Canolfan Frechu Dorfol Bayside yn Grangetown
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 25 Mawrth
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:229,660(Cyfanswm ddoe: 3,448)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4
- Staff cartrefi gofal: 4,272 (Dos 1) 3,629 (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 2,150 (Dos 1) 1,636 (Dos 2)
- 80 a throsodd: 19,075 (Dos 1) 552 (Dos 2)
- Staff gofal iechyd rheng flaen: 26,042 (Dos 1) 21,437 (Dos 2)
- Staff gofal cymdeithasol: 9,184 (Dos 1) 6,872 (Dos 2)
- 75-79: 14,106 (Dos 1) 1,776 (Dos 2)
- 70-74: 20,321 (Dos 1) 9,354 (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 9,456 (Dos 1) 5,508 (Dos 2)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7
- 65-69: 17,033 (Dos 1) 601 (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 36,434 (Dos 1) 2,532 (Dos 2)
- 60-64: 12,950 (Dos 1) 1,179 (Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Lansio llwybrau stori awyr agored newydd sy'n Ystyriol o Blant ar draws y ddinas
Bydd cyfres o lwybrau adrodd straeon awyr agored newydd sbon ar draws y ddinas yn dechrau agor i'r cyhoedd o ddiwedd y mis hwn.
Wedi'u cyflwyno fel rhan o raglen Dinas Sy'n Dda i Blant Caerdydd, mae'r pedwar llwybr pwrpasol wedi'u creu gan y storïwr o Gaerdydd Tamar Williams, pob un yn darlunio hanesion am fythau a chwedlau Cymreig.
Nod y fenter yw cynyddu cyfleoedd chwarae yn yr awyr agored drwy annog plant a theuluoedd i gael hwyl yn yr awyr agored wrth ymgysylltu â'r amgylchedd o'u cwmpas. Yn ogystal â mynd â phlant ar daith drwy'r stori drwy godau QR, byddant hefyd yn cael eu hannog i wneud rhwbio rhisgl, adeiladu gyda ffyn a darganfod lleoedd cyfrinachol o fewn y parciau.
Bydd y llwybr cyntaf yn agor i'r cyhoedd o ddydd Sadwrn 27 Mawrth ac mae wedi'i leoli ym Mharc Bute, gan ddechrau gyda chod QR wrth fynedfa Stryd y Castell ger Ystafelloedd Te Pettigrew.
Bydd tri llwybr arall yn cael eu lansio yn ddiweddarach yn y gwanwyn, sydd wedi'u lleoli ym Mae Caerdydd, Fferm y Fforest a Pharc Cefn Onn. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg, mae'r straeon wedi'u cofnodi mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru.
Darllenwch fwy yma: