Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; gwaith adeiladu yn dechrau ar adeilad newydd i Ysgol Uwchradd Fitzalan; pencadlys BBC Cymru yn y Sgwâr Canolog i ddod yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang; a mwy o laswellt Caerdydd i dyfu tan fis Medi.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 19 Mawrth
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:208,095(Cyfanswm ddoe: 3,981)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4
- Staff cartrefi gofal: 4,245 (Dos 1) 3,365 (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 2,137 (Dos 1) 1,317 (Dos 2)
- 80 a throsodd: 19,045 (Dos 1) 460 (Dos 2)
- Staff gofal iechyd rheng flaen: 25,426 (Dos 1) 20,018 (Dos 2)
- Staff gofal cymdeithasol: 8,973 (Dos 1) 6,047 (Dos 2)
- 75-79: 14,085 (Dos 1) 1,331 (Dos 2)
- 70-74: 20,267 (Dos 1) 6,837 (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 9,379 (Dos 1) 3,282 (Dos 2)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7
- 65-69: 16,974 (Dos 1) 433 (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 27,064 (Dos 1) 1,964 (Dos 2)
- 60-64: 12,488 (Dos 1) 686 (Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (08 Mawrth - 14 Mawrth)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
18 Mawrth 2021, 09:00
Achosion: 122
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 33.3 (Cymru: 43.7 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 4,584
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,249.4
Cyfran bositif: 2.7% (Cymru: 3.9% cyfran bositif)
Gwaith adeiladu yn dechrau ar adeilad newydd i Ysgol Uwchradd Fitzalan
Heddiw, cynhaliwyd seremoni torri'r dywarchen yn rhithiol i nodi dechrau'r gwaith o adeiladu'r Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd, sy'n gynllun sydd wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru drwy'r rhaglen Fuddsoddi i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.
Cynhaliwyd y digwyddiad lleol anffurfiol i nodi carreg filltir y prosiect. Yn bresennol roedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS i gynrychioli'r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd wrth gyflawni'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Er mwyn cyfyngu ar nifer y gwesteion ar y safle ac i gefnogi'r ymgyrch i gadw Cymru'n ddiogel ac aros gartref i ddiogelu bywydau rhag COVID-19, ymunodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a Phennaeth Ysgol Uwchradd Fitzalan, Cath Bradshaw â'r digwyddiad drwy ddulliau rhithwir.
Ymunodd gwesteion eraill, gan gynnwys disgyblion o'r ysgol, cynrychiolwyr o ysgolion cynradd lleol, gwleidyddion lleol a swyddogion o Gyngor Caerdydd a Kier, y contractwr a ddewiswyd i adeiladu'r ysgol newydd, â'r digwyddiad rhithiol hefyd, gan roi cyfle iddynt gymryd rhan wrth ddathlu cychwyn y prosiect buddsoddi hwn.
Gwahoddwyd cyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Fitzalan, Kaya Emmanuel a Jayden Singh Landa, sydd ill dau wedi sicrhau prentisiaethau gyda Kier ac sy'n gweithio ar y safle fel rhan o'r tîm sy'n gyfrifol am adeiladu'r adeilad ysgol newydd, i helpu i dorri'r dywarchen yn ystod rhan fyw o'r seremoni rithwir.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26148.html
Hwb sylweddol i Gaerdydd - Pencadlys BBC Cymru yn y Sgwâr Canolog i ddod yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer newyddiaduraeth gwyddoniaeth a hinsawdd a'r diwydiannau creadigol
Croesawodd arweinydd Cyngor Caerdydd y newyddion heddiw y bydd y BBC yn ehangu ei weithrediadau y tu allan i Lundain, gyda newidiadau hanesyddol wedi'u cynllunio ar gyfer sut y bydd y sefydliad yn darparu Darlledu Sector Cyhoeddus yn y dyfodol.
Dywedodd y Cyng. Huw Thomas: "Mae hyn yn newyddion da iawn i Gaerdydd. Bydd cyfleoedd gwaith cyffrous, newydd yn cael eu creu, nid yn unig yn y BBC, ond ledled y ddinas. Swyddi a fydd o fudd i'r sector cynhyrchu a'r diwydiannau creadigol sydd eisoes yn ffynnu yn y ddinas.
"Mae penderfyniad y BBC yn cyfiawnhau strategaeth diwydiannau creadigol y cyngor hwn a'n penderfyniad i adfywio'r Sgwâr Canolog ac i osod BBC Cymru fel tenant angori'r datblygiad. Mae'n dangos bod y strategaeth yn talu ar ei ganfed. Mae'n amlwg bod sector creadigol Caerdydd yn adeiladu enw rhagorol a chwbl haeddiannol."
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26141.html
Mwy o laswellt Caerdydd i dyfu tan fis Medi
Bydd natur yng Nghaerdydd yn cael hwb eleni gyda mwy o drefniadau 'un toriad', lle nad yw'r glaswellt yn cael ei dorri tan fis Medi.
Mae safleoedd newydd yn cael eu cyflwyno mewn parciau ac ar briffyrdd diogel, fel rhan o ymateb Un Blaned y Cyngor i'r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, ac maent yn cwmpasu ardal o 3.8 hectar.
Mae'r ardaloedd ychwanegol hyn yn golygu bod 87 hectar o dir y cyngor yn cael ei reoli fel hyn bellach (sy'n cyfateb i tua 161 o gaeau pêl-droed).
Mae mwy na 9 o'r 87 hectar yn cael eu rheoli drwy ddull 'torri a chodi' ychwanegol, i waredu'r toriadau glaswellt o'r ardal a gwella'r amodau ar gyfer blodau a bioamrywiaeth ymhellach.
Darllenwch fwy yma: