The essential journalist news source
Back
17.
March
2021.
Treial rheoli chwyn di-glyffosad i ddechrau yng Nghaerdydd
17/3/21

Bydd strydoedd a phalmentydd mewn dwy ardal yng Nghaerdydd yn rhydd o glyffosad eleni fel rhan o dreial i asesu ymarferoldeb dau ddull rheoli chwyn amgen.

Glyffosad yw'r cynhwysyn gweithredol yn y rhan fwyaf o gynhyrchion sydd wedi'u trwyddedu ar gyfer defnydd diogel ar dir cyhoeddus, ac fe'i defnyddir gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol ledled y DU, ac yn helaeth yn y sector amaethyddol. Y dewisiadau amgen di-glyffosad sy'n cael eu treialu yw New Way Weed Spray a Foamstream.

Mae'r cynnyrch glyffosad a ddefnyddir yng Nghaerdydd ar hyn o bryd wedi'i wanhau i 0.00288 miligram o gynhwysyn gweithredol y litr (166 gwaith yn is nag y mae canllawiau'n awgrymu), ac nid oes ganddo labeli peryglon iechyd, ond codwyd pryderon am effaith defnydd glyffosad ar fioamrywiaeth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Bydd y treial hwn yn ein galluogi i archwilio’r posibilrwydd o leihau ein defnydd o glyffosad hyd yn oed ymhellach, gan roi'r data byd go iawn sydd ei angen arnom i helpu i asesu a yw hyn yn rhywbeth y gallem ei gyflwyno'n ymarferol mewn rhannau eraill o'r ddinas."

"Yma yng Nghaerdydd rydym wedi lleihau ein defnydd o chwynladdwyr yn aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf - mae'r gyfradd wanhau a'r dechnoleg sbot-chwynnu a ddefnyddir gan ein contractwyr yn golygu ein bod yn defnyddio tua 80% yn llai o chwynladdwr o gymharu â dulliau blaenorol ar ein ffyrdd a'n palmentydd, ac yn 2020 fe wnaethom ddefnyddio 20% yn llai o chwynladdwr mewn parciau – ond rydym am ystyried a oes mwy y gallwn ei wneud, a bydd y treial cyfyngedig hwn yn ein galluogi i gynnal asesiad llawn o fanteision ariannol, amgylcheddol a gwasanaeth y ddau ddewis amgen o chwynladdwr."

Y ddwy ward a ddewiswyd ar gyfer y treial yw Glan-yr-afon, a Phontprennau a Phentref Llaneirwg. Yng Nglan-yr-afon, defnyddir New Way Weed Spray drwy gydol y tymor tyfu, ac ym Mhontprennau a Phentref Llaneirwg defnyddir technoleg Foamstream.

Mae New Way Weed Spray yn cynnwys crynodiad uchel o asid asetig, sy'n lladd chwyn wrth ddod i gysylltiad â nhw. Un sgil-effaith bosibl o'r dull hwn o reoli chwyn yw arogl cryf a all aros am gyfnod cyfyngedig ar ôl i'r cynnyrch gael ei ddefnyddio, yn dibynnu ar y tywydd.

Mae technoleg Foamstream yn gynnyrch planhigion di-chwynladdwr sy'n cyfuno dŵr poeth ac ewyn bioddiraddadwy a wneir o olew a siwgrau planhigion naturiol. Mae'r ewyn yn gweithredu fel deunydd inswleiddio, gan sicrhau nad yw gwres yn cael ei golli i'r atmosffer a’i fod yn gorchuddio'r planhigyn yn ddigon hir i ladd chwyn. 

Disgwylir i'r treialon ddechrau tua diwedd mis Mawrth/dechrau mis Ebrill, yn dibynnu ar y tywydd.