Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: tirnodau Caerdydd i'w goleuo'n felyn i nodi blwyddyn ers dechrau'r cyfnod cloi; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.
Tirnodau Caerdydd i'w goleuo'n felyn i nodi blwyddyn ers dechrau'r cyfnod cloi
Gyda'r nos ar 23 Mawrth bydd nifer o dirnodau Caerdydd yn cael eu goleuo'n felyn i gofio'r rhai a gollodd eu bywydau i Covid-19.
Bydd Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas, a Chofeb Scott yn llyn Parc y Rhath yn cael eu goleuo ar y dyddiad arwyddocaol hwn, sy'n nodi blwyddyn ers i gyfyngiadau'r cyfnod cloi ddechrau.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Flwyddyn yn ôl, dydw i ddim yn meddwl y gallai neb ohonom fod wedi dychmygu anferthedd yr hyn yr oeddem i gyd ar fin ei ddioddef. Er bod pandemig Covid-19 wedi bod yn heriol i bob un ohonom, i ormod o deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid, mae wedi bod yn brofiad dinistriol.
"Fel cymdeithas, byddwn yn ailadeiladu o'r caledi a achoswyd gan y pandemig ac mae cyflwyno'r brechlyn yn llwyddiannus yn rhoi rhesymau i ni fod yn obeithiol ac yn optimistaidd, ond ni allwn fyth ddod â'r rhai a oedd yn annwyl ac sydd wedi'u colli yn ôl. Maen nhw'n haeddu cael eu cofio, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd y foment hon i'w hanrhydeddu."
Mae'r ymgyrch i oleuo adeiladau ledled Cymru yn cael ei threfnu gan Deuluoedd Cymru Covid-19, grŵp Facebook a sefydlwyd gan deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig. Mae arddangosfa flodau, ar ffurf calon felen - symbol y grŵp - hefyd wedi'i phlannu mewn gwely blodau, y tu allan i Gastell Caerdydd.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Gyda'r ymdrech frechu yn mynd rhagddi rwy'n obeithiol y gallwn droi ein sylw at adferiad ac adnewyddu yn fuan ond, wrth i ni nodi blwyddyn ers dechrau cyfyngiadau'r cyfnod clo, mae goleuo'r tirnodau hyn yn felyn yn un ffordd fach y gallwn ni, fel dinas, dalu ein teyrnged i ddioddefwyr Covid-19."
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: "Er bod y dyfodol yn edrych yn fwy disglair nag y bu ers peth amser, dylai heddiw ein hatgoffa o'r pris dynol ofnadwy a dalwyd yn sgil Covid-19. Mae coronafeirws yn dal i fod gyda ni, ond diolch i weithredoedd pob unigolyn a arhosodd gartref, ac a gadwodd eu pellter, na chafodd mwy o fywydau eu colli.
"Yn anffodus, ni allwn ddod ag unrhyw un yn ôl, ond gallwn atal mwy o bobl rhag marw a byddwn yn annog pawb i barhau i ddilyn y rheolau, hyd yn oed wrth iddyn nhw gael eu lleddfu."
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 16 Mawrth
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:195,815(Cyfanswm ddoe: 4,194)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4
- Staff cartrefi gofal: 4,223 (Dos 1) 3,148 (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 2,132 (Dos 1) 1,137 (Dos 2)
- 80 a throsodd: 19,025 (Dos 1) 337 (Dos 2)
- Staff gofal iechyd rheng flaen: 25,169 (Dos 1) 18,818 (Dos 2)
- Staff gofal cymdeithasol: 8,831 (Dos 1) 5,535 (Dos 2)
- 75-79: 14,063 (Dos 1) 951 (Dos 2)
- 70-74: 20,241 (Dos 1) 5,612 (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 9,332 (Dos 1) 2,731 (Dos 2)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7
- 65-69: 16,607 (Dos 1) 315 (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 23,617 (Dos 1) 1,602 (Dos 2)
- 60-64: 10,033 (Dos 1) 334 (Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (05 Mawrth - 11 Mawrth)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
15 Mawrth 2021, 09:00
Achosion: 119
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 32.4 (Cymru: 40.0 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 4,273
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,164.6
Cyfran bositif: 2.8% (Cymru: 3.7% cyfran bositif)