The essential journalist news source
Back
11.
March
2021.
Canolfan Hamdden Pentwyn ar ei newydd wedd i gael ei rhedeg fel cyfleuster cymunedol gan Gleision Caerdydd
Datgelwyd cynlluniau i Gleision Caerdydd redeg Canolfan Hamdden Pentwyn fel cyfleuster hamdden cymunedol, yn dilyn gwaith adnewyddu helaeth a fydd yn cynnwys pwll nofio newydd, ardal campfa, cae 3G a chaffi.

Mae'r cynigion, sy'n rhan o adolygiad gan Gyngor Caerdydd o'r gwasanaethau hamdden a ddarperir gan GLL / Better Caerdydd, wedi'u cynllunio i wella cynaliadwyedd hirdymor y contract hamdden y cytunwyd arno gyda'r cyngor yn 2016, a byddai hefyd yn gweld y felodrom yng Nghanolfan Hamdden Maendy yn cael ei dynnu o'r contract gyda'r fenter gymdeithasol ddielw, a felodrom newydd yn cael ei adeiladu yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ym Mae Caerdydd.

Mae symud y felodrom i'r Bae yn galluogi cyflwyno Ysgol Uwchradd Cathays newydd ar y safle. Mae'r adroddiad yn nodi y bydd y felodrom newydd yn cael ei "adeiladu ac yn weithredol" cyn i'r cyfleuster presennol gael ei gau. Ni fyddai hyn yn effeithio ar Ganolfan Hamdden Maendy ei hun a byddai'n parhau i fod ar agor i'r cyhoedd, ac yn ei lleoliad presennol. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae darparwyr hamdden ledled y DU wedi wynebu heriau ariannol difrifol o ganlyniad i Covid-19 ac nid yw GLL yn eithriad. Yr hyn y mae'r cynigion hyn yn ei wneud yw defnyddio'r heriau hynny fel cyfle i ailystyried sut mae gwasanaethau hamdden yn gweithredu yng Nghaerdydd, mynd i'r afael â rhai materion hirsefydlog, a sicrhau, wrth i'r ddinas wella o effaith Covid-19, fod gan breswylwyr fynediad i'r cyfleusterau hamdden fforddiadwy o ansawdd uchel y maent yn eu haeddu.

"Cyn y Nadolig fe wnaethon ni ymrwymo i ddefnyddio'r cyfnod presennol, tra bod Canolfan Hamdden Pentwyn yn cael ei defnyddio fel canolfan frechu dorfol, i sicrhau dyfodol hirdymor y ganolfan a buddsoddi mewn gwella cyfleusterau yno. Bydd y bartneriaeth newydd arfaethedig â Gleision Caerdydd yn ein galluogi i gyflawni'r gwelliannau hynny, adennill yr arian rydym yn bwriadu ei fuddsoddi, a chael gwared ar gyfleuster hen ffasiwn sy'n gwneud colled o'r contract GLL, fel y gallant ganolbwyntio ar ddarparu'r math o gyfleusterau hamdden o ansawdd uchel a welir mewn cyfleusterau sydd newydd eu hadnewyddu fel Canolfan Hamdden y Dwyrain a Chanolfan Hamdden y Tyllgoed."

Os caiff ei gymeradwyo yng Nghyfarfod Cabinet y Cyngor ddydd Iau 18 Mawrth byddai'r cynigion yn gweld yr ardaloedd i fyny'r grisiau yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn yn cael eu cadw i'w defnyddio gan Gleision Caerdydd. Byddai'r ardal i lawr y grisiau yn cael ei hail-gynllunio i ddarparu campfa traws-ffit well, pwll nofio 25m newydd, cadw'r brif neuadd, ystafelloedd cymunedol, consesiwn arlwyo newydd, a rhywfaint o le swyddfa i'w ddefnyddio gan y Gleision.

Er bod yr adeilad yn cael ei brydlesu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro tan fis Chwefror 2022, yn amodol ar ganiatâd cynllunio, gallai gwaith ar ardaloedd o'r ganolfan sydd angen buddsoddiad fwyaf, fel y pwll nofio, sydd y tu allan i'r ardal sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer brechiadau Covid-19, gael ei wneud ar unwaith.

Yn yr awyr agored, y bwriad yw gosod cae 3G yn lle'r cae glaswellt bresennol, a chae 3G bach newydd. Gellir chwarae ar gaeau 3G 52 wythnos y flwyddyn a gallant ddarparu ar gyfer yr un nifer o gemau â phedwar cael glaswellt. Bydd y cyfleuster 3G newydd hefyd wedi'i gynllunio i fodloni meini prawf strwythur a rheoliadau tir Cynghrair Cymru, gan alluogi clybiau lleol i ddringo'n uwch ym mhyramid pêl-droed Cymru.

Mae'r adroddiad yn nodi bod Gleision Caerdydd wedi cynnig datblygu'r safle fel Hyb Rygbi Cymunedol ac y byddant yn darparu mynediad cymunedol i wasanaethau Gleision Caerdydd fel meddygol a ffisiotherapi, yn ogystal â sicrhau bod cyfleoedd dysgu a phrentisiaethau ar gael.

Mae'r adroddiad hefyd yn cynnig, er mwyn gwella effeithlonrwydd a galluogi defnyddio adnoddau'n well, fod canolfannau a weithredir gan GLL ledled Caerdydd yn symud i system dalu awtomataidd heb arian parod, ac yn disodli'r gwasanaeth derbynyddion presennol gyda gwasanaeth concierge newydd.

Ni ragwelir unrhyw ddiswyddiadau gorfodol o ganlyniad i'r cynigion.