Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: ffensio grisiau'r Basn Hirgrwn ym Mae Caerdydd; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.
Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i
Ffensio grisiau'r Basn Hirgrwn ym Mae Caerdydd
Mae grisiau'r Basn Hirgrwn ym Mae Caerdydd yn cael eu ffensio i annog pobl i beidio ag ymgynnull mewn grwpiau ar adeg pan fo cyfyngiadau Covid-19 yn dal i fod ar waith.
Mae'r ffensys, a gaiff eu codi cyn y penwythnos, yn cael eu gosod gan Gyngor Caerdydd yn dilyn trafodaethau gyda Heddlu De Cymru.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r tywydd gwell dros yr ychydig benwythnosau diwethaf wedi golygu bod niferoedd cynyddol o bobl yn ymgynnull ym Mae Caerdydd.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn parhau i ufuddhau i'r rheolau, ond mae'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan. Y peth olaf y mae unrhyw un ohonom ei eisiau yw i'r holl waith da ddadwneud y gostyngiad yn nifer yr achosion cadarnhaol yng Nghaerdydd a ninnau wedi gwneud mor dda."
Codwyd ffensys tebyg yr haf diwethaf yn dilyn y sawl achos o bobl yn ymgynnull ar y grisiau y bu rhaid galw ar yr heddlu i'w gwasgaru, a defnyddio staff ychwanegol y cyngor i wneud gwaith glanhau enfawr a gostiodd filoedd o bunnoedd i drethdalwyr.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 09 Mawrth
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:170,757(Cyfanswm ddoe: 3,204)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4
- Staff cartrefi gofal: 4,128 (Dos 1) 2,353 (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 2,123 (Dos 1) 743 (Dos 2)
- 80 a throsodd: 18,959 (Dos 1) 223 (Dos 2)
- Staff gofal iechyd rheng flaen: 24,370 (Dos 1) 16,062 (Dos 2)
- Staff gofal cymdeithasol: 8,356 (Dos 1) 4,199 (Dos 2)
- 75-79: 14,015 (Dos 1) 537 (Dos 2)
- 70-74: 20,107 (Dos 1) 3,273 (Dos 2)
- Yn glinigol agored i niwed: 9,185 (Dos 1) 820 (Dos 2)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7
- 65-69: 15,614 (Dos 1) 204 (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 15,303 (Dos 1) 1,183 (Dos 2)
- 60-64: 7,488 (Dos 1) 125 (Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (26 Chwefror - 04 Mawrth Chwefror)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
08 Mawrth 2021, 09:00
Achosion: 158
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 43.1 (Cymru: 43.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,391
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 924.2
Cyfran bositif: 4.7% (Cymru: 4.7% cyfran bositif)