05/03/21
Dyma ddiweddariad gan Gyngor Gaerdydd, yn cynnwys: y gyllideb gymeradwy, canolfan frechu newydd sy'n cael ei hadeiladu yn y Pentref Chwaraeon, diweddariad ar ysgolion, a chyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a'r Fro.
Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch iwww.llyw.cymru/coronafeirws
Cytuno ar y gyllideb ôl-bandemig a luniwyd i ‘roi wb' i Gaerdydd ac i ddiogelu gwasanaethau hanfodol
Mae cyllideb adfer ôl-bandemig i Gaerdydd gwerth miliynau o bunnoedd - wedi ei llunio er mwyn helpu i greu swyddi newydd, darparu cartrefi cyngor newydd, adeiladu ysgolion gwell a diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol - wedi ei chytuno gan Gyngor Caerdydd.
Bydd miliynau nawr yn cael eu gwario yn helpu i godi'r ddinas ar ei thraed eto wrth iddi geisio gwella o effeithiau'r pandemig.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Hon fydd un o'r cyllidebau pwysicaf y mae'r cyngor hwn wedi ei phennu. Mae COVID-19 wedi effeithio arnom i gyd a bydd yn effeithio ar ein dyfodol am flynyddoedd lawer i ddod. Wedi dweud hynny, mae ein dinas wedi gwneud gwaith hynod, yn dod ynghyd, i geisio atal lledaeniad y feirws. Ar hyn o bryd rydym yn brwydro'r ail don, ond mae gobaith ar y gorwel wrth i'r rhaglen frechu barhau i gael ei chyflwyno. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn edrych tua'r dyfodol, gan gynllunio sut rydym yn gwella wedi'r pandemig a sut rydym yn paratoi ein dinas ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau.
"Mae'n rhaid i'r cyngor hwn fod ar flaen y gad o ran rhoi Caerdydd yn ôl ar waith. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i greu swyddi y mae mawr eu hangen, gan adeiladu ysgolion gwell a chartrefi cyngor newydd i'r rhai mwyaf anghenus. Rydym hefyd am helpu i ailfywiogi arlwy diwylliannol y ddinas wrth adeiladu Caerdydd werddach a glanach - dinas sy'n addas ar gyfer y dyfodol - gyda llawer i edrych ymlaen ato mewn byd ôl-bandemig, ac mae angen i ni wneud hyn wrth ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi chwarae rhan mor hanfodol yn cefnogi ein trigolion drwy gydol y pandemig."
Neithiwr fe gytunwyd ar gynlluniau gwariant pum mlynedd sylweddol i helpu Caerdydd i adfer yn llwyddiannus wedi'r pandemig, gan gynnwys:
- Buddsoddiad o £387 miliwn mewn tai cymdeithasol gan gynnwys cartrefi cyngor newydd;
- £251 miliwn ar adeiladau ysgol newydd;
- £234 miliwn mewn mentrau datblygu economaidd, gan gynnwys yr arena newydd, y pentref chwaraeon rhyngwladol ac ailddatblygiad Glanfa'r Iwerydd;
- £61 miliwn i ddatblygu llwybrau beicio a gwella seilwaith trafnidiaeth a llwybrau teithio llesol;
- Buddsoddiad gwerth £54.7m yn adeiladwaith ysgolion presennol;
- £41.8m ar gyfer gwneud addasiadau i'r anabl i helpu pobl i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain
- Buddsoddiad gwerth £41m mewn Asedau Seilwaith Priffyrdd
- £32.7m ar gyfer gwella cymdogaethau;
- £25m ar gyfer prosiectau cynaliadwyedd ynni gwyrdd;
- £21.9 miliwn ar gyfer cyflawni prosiectau i fynd i'r afael â digartrefedd
- £18m i gefnogi ailgylchu ac adeiladu cyfleuster ailgylchu newydd yng ngogledd y ddinas;
- £18 miliwn i fynd i'r afael â llifogydd ac erydu arfordirol;
- Buddsoddiad gwerth £9.7m mewn parciau a meysydd chwarae;
- Buddsoddiad gwerth £5.4m mewn canolfannau hamdden;
- Buddsoddiad gwerth £4.3m mewn darpariaeth seibiant i blant a llety i Blant sy'n Derbyn Gofal
- Buddsoddiad gwerth £3.2m mewn canolfannau ieuenctid a lles.
Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26024.html
Bydd Canolfan Brechu Torfol Newydd yn agor ar gyfer poblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn agor pedwaredd Canolfan Brechu Torfol fel rhan o'i raglen Brechu Torfol i ddiogelu ei phoblogaeth oedolion rhag Covid-19 cyn gynted â phosibl.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg i gynyddu'r gallu i frechu a bydd y Ganolfan Brechu Torfol newydd yn Bayside yn galluogi rhoi hyd at 2,500 o frechiadau ychwanegol y dydd, gan ddibynnu ar gyflenwad y brechlynnau. Bydd y ganolfan newydd ar gael tua diwedd mis Mawrth.
Mae'r ganolfan newydd yn cael ei datblygu ar hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Bydd lleoliad y safle ar gael i bobl yng Nghaerdydd a hefyd i drigolion Dwyrain y Fro.
Y ganolfan yw'r bedwaredd i gael ei hagor yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ac mae pob un o'r 60 Meddygfa Deulu ar draws y ddwy sir hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen, a bydd Fferyllfeydd Cymunedol hefyd yn ymuno â'r rhaglen o fis Ebrill.
Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/26026.html
Prawf COVID-19 positif yn Ysgol Gynradd Springwood
Nodwyd prawf positif ar un disgybl oedran Dosbarth Derbyn yn Ysgol Gynradd Springwood yn Llanedern. Cynghorwyd 24 disgybl a 4 aelod o staff i hunan-ynysu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu hadnabod fel cysylltiadau agos â'r achos COVID-19 a gadarnhawyd.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 5 Mawrth
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 134,749 (Cyfanswm ddoe: 1,485)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4
- Staff cartrefi gofal: 4,265 (Dos 1) 2,061 (Dos 2)
- Preswylwyr cartrefi gofal: 1,884 (Dos 1) 527 (Dos 2)
- 80 a throsodd: 18,910 (Dos 1) 185 (Dos 2)
- Staff gofal iechyd rheng flaen: 24,193 (Dos 1) 13,545 (Dos 2)
- Staff gofal cymdeithasol: 8,391 (Dos 1) 2,936 (Dos 2)
- 75-79: 20,043 (Dos 1) 2,709 (Dos 2)
- 70-74: 20,043 (Dos 1) 2,709 (Dos 2)
Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7
- Yn glinigol agored i niwed: 9,199 (Dos 1) 582 (Dos 2)
- 65-69: 14,893 (Dos 1) 164 (Dos 2)
- Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 10.070 (Dos 1) 766 (Dos 2)
- 60-64: 7,775 (Dos 1) 91(Dos 2)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser