Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Gaerdydd, sy'n cwmpasu:'muriau gwyrdd' wedi'u gosod ar ddau adeilad yn y ddinas;cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.
Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i
'Muriau gwyrdd' wedi'u gosod ar ddau adeilad yn y ddinas
Mae 'muriau gwyrdd' wedi'u gosod ar ddau adeilad yng Nghaerdydd sy'n eiddo i'r cyngor i wella ansawdd aer a bioamrywiaeth mewn ardaloedd lle nad oes llawer o fannau gwyrdd, os o gwbl.
Mae'r sgriniau sydd wedi'u llenwi ag iorwg, sy'n helpu i gael gwared ar lygredd niweidiol o'r aer ac sy'n cefnogi amrywiaeth eang o bryfed peillio brodorol drwy greu cwsgfannau iddynt a ffynhonnell o fwyd yn y gaeaf, wedi'u gosod ar Ganolfan Gymunedol Dusty Forge yn Nhrelái ac Ysgol Gynradd Kitchener yn Nhreganna. Bydd planhigion dringo ychwanegol, gan gynnwys gwyddfid, barf yr hen ŵr a phys pêr yn cael eu hychwanegu at y sgriniau drwy gydol y flwyddyn, gan wella'r manteision i fioamrywiaeth.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Bydd y muriau gwyrdd hyn yn rhoi help llaw gwerthfawr i fywyd gwyllt, ac mae astudiaethau wedi dangos y gallant hefyd helpu i wella ansawdd aer lleol.
"Gall prosiectau Seilwaith Gwyrdd trefol o'r math hwn ein helpu i gyflawni nodau ein Strategaeth Aer Glân, a byddant yn chwarae rhan bwysig wrth i ni barhau ar ein taith tuag at fod yn Gaerdydd Un Blaned, gan gymryd camau i ateb heriau deuol yr hinsawdd a'r argyfyngau bioamrywiaeth rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd."
Sicrhawyd cyllid ar gyfer y 'muriau' trwy raglen 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur' Llywodraeth Cymru gan Bartneriaeth Natur Leol newydd Caerdydd.
Mae rhaglen monitro ansawdd aer yn cael ei rhoi ar waith i fesur effaith y muriau ar ansawdd aer, ac mae prosiect gwyddor dinasyddion sydd â'r nod o ymgysylltu â'r gymuned leol a monitro newidiadau mewn bioamrywiaeth hefyd yn cael ei ddatblygu, mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Natur.
Mae partneriaid eraill sy'n ymwneud â'r prosiect yn Dusty Forge yn cynnwys Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) a Grow Cardiff.
Mae'r prosiect yn Ysgol Gynradd Kitchener yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â staff a disgyblion yr ysgol a Gwyrddio Glan-yr-afon.
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 26 Chwefror
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn,yn y ddwy ardal awdurdod lleol:137,626.
Grwpiau Blaenoriaeth 5-7:
65-69: 11,036
Chyflwr Iechyd Sylfaenol: 5,778
60-64: 7,107
Cafwyd y data gan BIPCAF
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (15 Chwefror - 21 Chwefror)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
25 Chwefror 2021, 09:00
Achosion: 362
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 98.7 (Cymru: 75.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,923
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,069.2
Cyfran bositif: 9.2% (Cymru: 6.8% cyfran bositif)