The essential journalist news source
Back
11.
February
2021.
Maes parcio ym Mharc Cefn Onn i'w gyfyngu i ddeiliaid Bathodyn Glas yn unig

11/02/21

Maes parcio ym Mharc Cefn Onn i'w gyfyngu i ddeiliaid Bathodyn Glas yn unig o'r penwythnos hwn

Mae'r penderfyniad wedi'i wneud yn dilyn trafodaethau gyda Heddlu De Cymru ac mae'n dod ar ôl i ni weld nifer uchel o bobl yn ymweld â'r safle mewn car dros yr wythnosau diwethaf.

Mae parc safonol y Faner Werdd wedi elwa'n ddiweddar o fuddsoddiad sylweddol, gyda'r nod o gynyddu hygyrchedd i bobl â phroblemau iechyd a symudedd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Er bod ffigyrau Covid-19 yn mynd i'r cyfeiriad cywir, mae'n dal yn bwysig iawn bod pawb yn parhau i ddilyn y rheolau - mae hynny'n cynnwys aros yn lleol a pheidio â gyrru i wneud ymarfer corff."