The essential journalist news source
Back
11.
February
2021.
Penodi cyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Fitzalan yn brentisiaid ar gyfer ysgol newydd: Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau


11/2/2020

 

 

Mae dau gyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Fitzalan wedi sicrhau cyflogaeth gyda Kier, y contractwr a ddewiswyd i gyflwyno'r ysgol newydd sbon a fydd yn cymryd lle Ysgol Uwchradd Fitzalan bresennol, yn ardal Treganna'r ddinas.

Mae Kaya Emmanuel a Jayden Singh Landa wedi cael eu derbyn ar Raglen Prentisiaeth Gradd Kier, cwrs pum mlynedd sy'n cyfuno profiad gwaith ac astudio ar gyfer cymhwyster BSc cydnabyddedig, tra'n ennill cyflog cystadleuol.

Gan ddechrau ar y safle y mis hwn, bydd y ddau brentis yn gweithio'n rhan o'r tîm sy'n gyfrifol am godi'r ysgol newydd, gan gyflawni amrywiaeth o rolau megis arolygu meintiau, rheoli adeiladu, datblygu busnes a modelu gwybodaeth adeiladu (BIM).

Fel yn-ddisgyblion, mae eu cysylltiad â'r ysgol yn golygu y byddant hefyd yn gweithredu fel llysgenhadon ar gyfer y cynllun, yn gweithio gyda myfyrwyr o'r ysgol i'w helpu i ddysgu am yrfaoedd ym maes adeiladu a'u diweddaru wrth i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo. 

Dywedodd Kaya a Jayden "Rydym yn llawn cyffro o fod ar raglen gradd sylfaen Kier a chael y cyfle i weithio ar yr Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd. Mae'r rhaglen brentisiaeth yn cynnig y gorau o'r ddau fyd, gallwn ennill cyflog a dysgu ar yr un pryd, a gweithio ar adeiladu ysgol newydd i'r gymuned leol a chael blas ar brosiectau Kier eraill - does dim angen gwell!

"Daeth Kier i'n hysgol ychydig flynyddoedd yn ôl a sôn am ambell brosiect lleol a'r diwydiant adeiladu a phenderfynon ni ddarganfod mwy. Cysyllton ni â'r tîm yn Kier a gwnaethon ni wneud cais llwyddiannus am rolau hyfforddai rheoli. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio ar ysgol uwchradd newydd Fitzalan a'r hyn sydd i ddod yn y dyfodol."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, "Mae cysylltiad Kaya a Jayden ag Ysgol Uwchradd Fitzalan yn gwneud y cyfle hwn hyd yn oed yn fwy arwyddocaol ac rwyf wrth fy modd y byddant yn cyfrannu at ddatblygiad newydd eu hen ysgol.

"Mae rhoi cyfleoedd fel hyn i'n pobl ifanc yn flaenoriaeth i Gaerdydd, hyd yn oed yn fwy felly ar ôl y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi dod â heriau ac ansicrwydd newydd i bobl ifanc oherwydd y pandemig.

"Mae Addewid Caerdydd yn dwyn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ynghyd, gan weithio mewn partneriaeth i gysylltu pobl ifanc â'r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael yn y byd gwaith.

Dywedodd Jason Taylor, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Kier Regional Building Gorllewin Lloegr a Chymru; "Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu Kaya a Jayden i Kier, mae gan y ddau ohonynt dalent fawr ac agwedd wych. Drwy ein rhaglen gradd sylfaen, fel cyn-fyfyrwyr yr ysgol byddant yn cefnogi ein gwaith i gyflwyno Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd yn ogystal â chael cyfleoedd i weithio ar safleoedd Kier eraill i ddarparu ystod eang o brofiad adeiladu.

"Ers 2019, rydyn ni wedi bod yn cynnal sgyrsiau gyrfaoedd gyda disgyblion Ysgol Uwchradd Fitzalan ac yn arddangos yr ystod o rolau a phwyntiau mynediad o fewn y diwydiant adeiladu. Rwy'n falch iawn bod hyn wedi arwain at ddau fyfyriwr eithriadol yn ymuno â'n diwydiant ac yn cefnogi ein nod o adael etifeddiaeth barhaol yn yr ardaloedd lle rydyn ni'n gweithio.  Rydyn ni hefyd yn rhan o Addewid Caerdydd, menter sy'n anelu at arddangos yr ystod o gyfleoedd gwaith sydd ar gael i bobl ifanc mewn ysgolion lleol ac mae'r cyfleoedd prentisiaeth newydd hyn i Kaya a Jayden wir yn dangos pam mae lleoliadau profiad gwaith mor bwysig."

Dywedodd Jo Kemp, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Uwchradd Fitzalan: "Yn Fitzalan rydyn ni wedi bod yn gweithio ar brosiect yr ysgol newydd ers 2018 ac mae gweld rhai o'n cyn-ddisgyblion yn gweithio ar y tîm a fydd yn gwireddu ein gweledigaeth yn rhoi boddhad mawr. Bydd cael y prentisiaid hyn i rannu eu stori gyda disgyblion presennol drwy'r cyfleoedd ymgysylltu rydyn ni'n eu cynllunio, yn sicr o ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc sy'n gobeithio cael gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant adeiladu. Rydyn ni'n llawn cyffro nawr bod cam nesaf y datblygiad yn dechrau.

Ysgol newydd Fitzalan yw'r cynllun diweddaraf i'w gyflwyno dan Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg Caerdydd, sy'n werth £284 miliwn.

Mae'r datblygiad yn fuddsoddiad £64.3 miliwn yn y gymuned leol a bydd Ysgol Uwchradd bresennol Fitzalan yn cael ei disodli gan ysgol newydd 10 dosbarth mynediad, a fydd yn cynnwys hyd at 1,500 o fyfyrwyr rhwng 11 ac 16 oed, yn ogystal â chweched dosbarth.

Bydd yr ysgol newydd hefyd yn cynnig cyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr, gan gynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, caeau 3G a phwll nofio dan do newydd yn lle'r pwll nofio presennol sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn helaeth gan ysgolion lleol a grwpiau cymunedol. Bydd y cyfleusterau hyn a rhai eraill yn yr ysgol ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.  

Ar 18 Tachwedd 2020 cymeradwyodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd gynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd a oedd yn cynnwys:

-  
Codi adeilad ysgol uwchradd 3 llawr gyda lle i 1850 o ddisgyblion
-  
Pwll nofio cymunedol newydd
-  
Creu Ardaloedd Chwaraeon Amlddefnydd
-  
Creu 1 cae rygbi/pêl-droed 3G
-  
Creu 1 cae hoci/pêl-droed 3G dan 16 oed
-  
 Maes parcio i staff (47 man parcio) a maes parcio i ymwelwyr (24 man gan gynnwys 8 lle i bob anabl)

Yn amodol ar gaffael, disgwylir i gwaith adeiladu'r ysgol newydd ddod i ben ym mlwyddyn academaidd 2022/2023. 

Nod Addewid Caerdydd yw sicrhau bod pob person ifanc yn y ddinas yn cael swydd yn y pen draw a fydd yn ei alluogi i gyrraedd ei botensial llawn a chyfrannu at dwf economaidd y ddinas.