26.01.2021
Rydyn ni'n newid ein diwrnodau casglu gwastraff ac ailgylchu i gynnig gwasanaeth gwell sy'n fwy effeithlon a chost-effeithiol yn yr hirdymor.
O ddydd Llun, 22 Chwefror, mae'n bosib y bydd diwrnod, wythnos neu amser eich casgliadau'n newid.
Bydd llythyr yn dod drwy'r drws yn ystod yr wythnosau nesaf yn esbonio popeth.
Yn ycyfamser, edrychwch ar ddeng peth y mae angen i chi eu gwybod am y newidiadau a sut y gallant effeithio arnoch chi:
- Beth yw'r newidiadau?
Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn casglu gwastraff o gartrefi trigolion ar sail system dwy shifft o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae'r shifftiau hyn o 6am tan 2pm ac o 2pm tan 10pm.
Dan y system newydd, sy'n dechrau ar ddydd Llun, 22 Chwefror, bydd casgliadau gwastraff o gartrefi trigolion yn cael eu cynnal o ddydd Mawrth i ddydd Gwener a bydd yr holl wastraff yn cael ei gasglu oddi strydoedd y ddinas erbyn 3.30pm.
Bydd y newidiadau i'r drefn casglu gwastraff yn golygu y bydd y diwrnod casglu a/neu wythnos casglu ar gyfer gwastraff cyffredinol a gwastraff gardd yn newid i 75% o gartrefi'r ddinas. Bydd y newidiadau'n effeithio ar bob gwasanaeth casglu ymyl y ffordd, gan gynnwys gwastraff swmpus a gwastraff hylendid.
- Felly mae'r newidiadau ar gyfer pob math o wastraff, ailgylchu (bagiau gwyrdd); gwastraff bwyd, gwastraff cyffredinol a gwastraff gardd gwyrdd?
Ydyn, i'r rhai y bydd y newidiadau'n effeithio arnyn nhw, bydd y diwrnod casglu yn newid ar gyfer pob math o wastraff.
Bydd y dyddiau rydyn ni'n casglu eich gwastraff hylendid a gwastraff swmpus yn newid hefyd.
- Pam fod y cyngor yn gwneud y newidiadau hyn a beth yw'r manteision?
Mae'r rowndiau casglu wedi'u hail-fodelu er mwyn gwella effeithlonrwydd a darparu gwell gwasanaeth i'r cyhoedd. Y manteision fydd:
- Byddwn yn ceisio casglu'r gwastraff i gyd o gartrefi preswylwyr erbyn 3.30pm. Bydd hyn yn golygu bod gwastraff yn cael ei adael ar y strydoedd am gyfnod llawer byrrach, gan roi llai o gyfle i adar ac anifeiliaid rwygo bagiau sydd â gwastraff bwyd wedi ei gyflwyno ynddyn nhw'n anghywir. Bydd hyn yn helpu i gadw ein strydoedd yn lanach.
- Bydd y timau casglu gwastraff yn gweithio ar yr un pryd â'n staff mecaneg, fydd yn golygu y bydd modd datrys problemau gyda cherbydau yn gyflymach nag o'r blaen.
- Bydd y casgliadau gwastraff i gyd yn digwydd pan fydd ein canolfan gyswllt ar agor, a bydd hynny'n gwella'r gwasanaeth a ddarperir i gwsmeriaid.
- Er y bydd ein criwiau casglu gwastraff yn gweithio oriau hirach bob dydd - bydd ganddynt gyfnodau gorffwys priodol a byddant yn gweithio patrwm pedwar diwrnod yn gweithio, a thri diwrnod bant. Bydd hyn yn helpu staff i orffwyso, mewn sy'n rôl gorfforol iawn. Pan fyddan nhw'n gweithio, byddan nhw hefyd yn treulio llai o amser yn gweithio yn y tywyllwch, a bydd hynny'n gwella eu diogelwch a diogelwch defnyddwyr y ffordd
- Gan nad oes casgliadau ar ddydd Llun, ni fydd unrhyw oedi i gasgliadau ar wythnosau Dydd Llun Gŵyl y Banc, a bydd criwiau casglu hefyd yn gweithio ar ddydd Gwener y Groglith. Bydd hyn yn effeithio ar y gwyliau banc nad ydyn nhw ar ddydd Llun ond bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi i breswylwyr am y trefniadau hyn yn nes at yr amser.
- Sut y byddwch yn cyfleu'r newidiadau a ble galla i ddod o hyd i'r wybodaeth?
Bydd llythyr yn cael ei anfon i holl gartrefi'r ddinas o 26 Ionawr ymlaen. Hyd yn oed os yw eich diwrnod casglu gwastraff yn aros yr un fath, byddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau eich diwrnod casglu o 22 Chwefror ymlaen.
Bydd y llythyr hefyd yn cynnwys taflen gyda'ch diwrnod casglu newydd, ochr yn ochr â chanllaw ailgylchu syml ar gyfer y cynllun casglu ymyl y ffordd.
Byddwch hefyd yn gallu gweld eich diwrnod casglu newydd, a pha fath o wastraff i'w roi allan bob wythnos ar ap Cardiff Gov ac yn www.caerdydd.gov.uk/casgliadau drwy roi cyfeiriad a chod post eich eiddo. Gallwch hefyd ofyn i'n Sgyrsfot Bobi yn www.caerdydd.gov.uk/gofynibobi
Caiff y wybodaeth ei diweddaru ar y gwiriwr post cod ar-lein ar gyfer pob eiddo, ar ôl iddynt gael eu casgliad gwastraff yr wythnos hon, (o dydd Llun 25 Ionawr i ddydd Gwener 29 Ionawr).
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gallwch ofyn i galendr casglu gael ei bostio i'ch cartref drwy gysylltu â Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 2087 2088.
Bydd gwybodaeth yn cael ei phostio ar dudalennau Twitter, Facebook ac Instagram y Cyngor a bydd datganiad i'r wasg ynghylch y newidiadau yn cael ei anfon i'r cyfryngau.
Oherwydd y cyfyngiadau COVID-19, ni all y Cyngor gynnal unrhyw sesiynau allgymorth, ond darperir gwybodaeth i gynghorwyr lleol a chynghorau cymuned i'w rhannu â chymunedau ledled y ddinas.
- Fe gawsoch drafferth i gasglu'r holl wastraff Nadolig, dros wythnos lawn. Sut byddwch chi'n llwyddo i gasglu holl wastraff Caerdydd mewn pedwar diwrnod?
Ar hyn o bryd mae ein criwiau casglu yn gweithio dwy sifft, rhwng 6am a 2pm a 2pm a 10pm gan ddefnyddio'r un cerbydau casglu gwastraff. O dan y system newydd bydd gennym 24 o gerbydau casglu sbwriel ychwanegol ac ugain yn rhagor o staff llawn-amser yn gweithio patrwm sifft sengl hirach dros bedwar diwrnod. Bydd hyn yn ein galluogi i gasglu holl wastraff y ddinas dros y pedwar diwrnod. Effeithiwyd yn ddifrifol ar ein casgliadau Nadolig hefyd gan staff yn mynd yn sâl ac yn gorfod hunanynysu oherwydd COVID-19.
- Fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar fflatiau?
Byddan. Bydd eiddo unigol o fewn blociau o fflatiau hefyd yn derbyn llythyr ac mae cwmnïau rheoli perthnasol a gwasanaethau gofalwyr yn cael eu hysbysu. Bydd gwastraff ac ailgylchu o fflatiau yn cael eu casglu gan griw pwrpasol. Y nod yw sicrhau bod ganddyn nhw bob amser y wybodaeth angenrheidiol am godau mynediad a lleoliadau storfeydd biniau.
- Pam nad oes unrhyw newidiadau mewn rhai ardaloedd, tra bo rhai yn fy ardal i?
Bydd y diwrnod casglu gwastraff yn newid i 75% o gartrefi'r ddinas. Bu'n rhaid ailddyrannu pob ward sydd â chasgliad ar ddydd Llun ar hyn o bryd i ddiwrnod gwahanol. Felly mae'r rowndiau wedi'u hail-fodelu ar y sail honno i wella effeithlonrwydd.
- Mae gennyf gasgliad gwastraff â chymorth, sut bydd y newidiadau'n effeithio arna i?
Ni fydd y trefniadau ar gyfer casglu gwastraff ac o ble y cesglir eich gwastraff yn newid, ond byddwch yn derbyn llythyr yn eich hysbysu os yw eich diwrnod casglu gwastraff, a/neu eich wythnos gasglu wedi newid. Cofiwch ei ddarllen pan ddaw. Os nad ydych wedi derbyn llythyr erbyn 12 Chwefror, yna cysylltwch â C2C ein gwasanaethau i gwsmeriaid cwsmeriaid ar 2087 2088 a byddwn yn trefnu i lythyr newydd gael ei anfon i'ch cyfeiriad.
- Beth os nad yw'r newidiadau'n effeithio ar ble rwy'n byw, a fyddaf yn dal i gael llythyr?
Byddwch, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch p'un a yw eich diwrnod casglu gwastraff yn newid ai peidio.
- Dydw i ddim wedi derbyn llythyr, beth ddylwn ei wneud?
Bydd angen rhywfaint o amser arnom i anfon y llythyrau hyn i bob cartref. Os nad ydych wedi derbyn llythyr erbyn 12 Chwefror, yna cysylltwch â C2C ein gwasanaethau i gwsmeriaid ar 2087 2088 a byddwn yn trefnu i lythyr newydd gael ei anfon i'ch cyfeiriad.
Cofiwch, gallwch hefyd wirio eich diwrnod casglu newydd drwy edrych ar ein calendrau casglu digidol ar ap Cardiff Gov, yn www.caerdydd.gov.uk/casgliadau a thrwy ofyn i'n bot sgwrsio yn www.caerdydd.gov.uk/gofynibobi
A oes unrhyw gwestiynau eraill yr hoffech i ni eu hateb?
Os oes gennych fwy o gwestiynau gofynnwch i Bobi, ein sgyrsfot
, yn www.caerdydd.gov.uk/gofynibobi.
Dilynwch ni ar Facebook - @cardiff.council1-a Twitter - @CyngorCaerdydd/ @cardiffcouncili gael y newyddion diweddaraf.