The essential journalist news source
Back
22.
January
2021.
Coffáu Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru gartref

22/01/21

Bydd recordiad o Seremoni Genedlaethol Cymru eleni i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost ar gael ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd.

Caiff ei gyhoeddi ar 27 Ionawr 2021 i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost,  mae'r recordiad o wasanaeth rhyng-ffydd a gynhelir gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk, Caplan Anrhydeddus i Gyngor Caerdydd.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru wedi cynnal Seremoni Genedlaethol Cymru ar y cyd i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost Cymru yn Neuadd y Ddinas.  Oherwydd cyfyngiadau cenedlaethol y Coronafeirws, ni fydd digwyddiad Neuadd y Ddinas yn cael ei gynnal eleni, felly bydd coffâd wedi'i recordio ar gael ar-lein i gynnig cyfle i bobl gymryd rhan gartref.

Bydd y recordiad ar gael o 11.00am Ddydd Mercher 27 Ionawr 2021 ar  www.youtube.com/cardiffcouncil.

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ddiwrnod rhyngwladol i gofio dioddefwyr yr Holocost a hil-laddiadau eraill. Mae'r diwrnod yn anrhydeddu'r goroeswyr ac yn cofio'r rheiny a fu farw. Fe'i cynhelir ar 27 Ionawr bob blwyddyn, pen-blwydd rhyddhau carchar Auschwitz.

Thema Diwrnod Cofio'r Holocost 2021 yw 'Byddwch y goleuni yn y tywyllwch', cais gan Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost i bawb ystyried gwahanol fathau o 'dywyllwch', er enghraifft, erledigaeth sy'n seiliedig ar hunaniaeth, gwybodaeth anghywir, gwadu cyfiawnder; a gwahanol ffyrdd o fod ‘y goleuni', er enghraifft, ymwrthedd, gweithredoedd o undod, achub a thynnu sylw at gelwyddau. Mae'r Ymddiriedolaeth yn gwahodd aelodau o'r cyhoedd i oleuo cannwyll yn eu ffenestri am 8pm Ddydd Mercher, 27 Ionawr, gan greu eiliad genedlaethol i oleuo'r tywyllwch.

Ymhlith y cyfranwyr i Seremoni Genedlaethol Cymru eleni mae Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, Prif Weinidog Cymru, Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, a'r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Rod McKerlich.

Dwedodd Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Rod McKerlich: "Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn dod ag erchyllterau'r Holocost a hil-laddiadau i lygad y meddwl.  Mae'n ein hatgoffa'n rymus nad yw gweithredoedd mor erchyll o erledigaeth, sy'n cael eu gyrru gan wrth-semitiaeth, hiliaeth, senoffobia a gwahaniaethu, wedi'u cyfyngu i dudalennau hanes, ond yn drist iawn yn parhau heddiw. Efallai na fyddwn yn gallu ymgasglu'n gorfforol eleni, ond rydym yn dal i ddod at ein gilydd i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2021, gan ailddatgan ein cyfrifoldeb cyffredin i ymladd y drygioni hwn."

Dwedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rydym yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost i gofio'r dioddefwyr ac anrhydeddu goroeswyr yr Holocost a phob hil-laddiad ers hynny. Rhaid i'r erchyllterau hyn gael lle parhaol yn ein cof, fel ein bod ni a chenedlaethau'r dyfodol yn deall yr achosion ac yn myfyrio ar y canlyniadau. Gyda'n gilydd, yn y coffâd blynyddol hwn, safwn yn erbyn y rhai sy'n credu bod hil, crefydd, anabledd neu rywioldeb rywsut yn gwneud bywyd yn werth llai na'u bywyd nhw. Wrth oleuo'r tywyllwch rydym yn dangos ein penderfyniad i fynd i'r afael ag erledigaeth, cam-wybodaeth, a gwadu cyfiawnder."

Dwedodd y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru: "'Eleni rydym yn gorfod nodi Diwrnod Cofio'r Holocost yn wahanol ond mae'n bwysig ein bod yn nodi'r cerrig milltir ingol hyn, i fyfyrio ar sut y gallwn ddysgu o'r digwyddiadau ofnadwy hyn a gwneud popeth o fewn ein gallu, fel unigolion, cymunedau a ffrindiau, i ddangos undod â'r rhai sy'n dal i ddioddef erledigaeth."

Cynhelir Seremoni Goffa'r Deyrnas Gyfunol ar gyfer Diwrnod Cofio Cenedlaethol yr Holocost am 7pm ar 27 Ionawr 2021. I gofrestru i wylio'r seremoni, ewch i  hmdt.geteventaccess.com/registration.

I gefnogi ennyd genedlaethol Goleuo'r Tywyllwch, bydd adeiladau a thirnodau'n cael eu goleuo'n borffor.