The essential journalist news source
Back
21.
January
2021.
Estyn yn cyhoeddi adolygiad cadarnhaol o ddull Caerdydd o gefnogi ysgolion a dysgwyr yn ystod y pandemig

 

21/1/ 2021 

Canfu gwerthusiad fod arweinyddiaeth strategol barhaus, cyfathrebu cryf a phwyslais ar weithio mewn partneriaeth i gefnogi athrawon, plant a phobl ifanc yn rhan o ddull Cyngor Caerdydd o helpu dysgwyr yn y ddinas yn ystod pandemig COVID-19. 

Mae'r arolygaeth addysg, Estyn, wedi cynnal adolygiad ledled y genedl o ddulliau awdurdodau lleol o gefnogi ysgolion rhwng mis Mawrth a mis Hydref 2020 ac mae canlyniadau'r adolygiad hwn wedi'u cyhoeddi'r mis hwn.

Mae'r dadansoddiad o ymateb Caerdydd i'r heriau yr oedd ei hysgolion a'i hunedau cyfeirio disgyblion yn eu hwynebu yn seiliedig ar adborth gan arweinwyr ysgolion/unedau cyfeirio disgyblion, swyddogion cyngor, athrawon, disgyblion a'u teuluoedd. Mae'r adolygiad yn canolbwyntio ar y gwaith cychwynnol a gafodd ei wneud i ymdrin â'r angen i gau ysgolion ym mis Mawrth ac wedyn yr angen i ailagor ysgolion ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb llawn-amser o fis Medi 2020 ymlaen.

Mae'r adolygiad yn nodi dwy egwyddor graidd a yrrodd ymateb Caerdydd i'r cyfnod cloi cyntaf sef yr angen i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau'r sector preifat a'r sector cyhoeddus i ddod o hyd i atebion i broblemau a achoswyd gan yr argyfwng ac i gydweithio fel awdurdod lleol i gyflawni cyfrifoldeb rhianta corfforaethol y Cyngor.

Tynnir sylw hefyd at flaenoriaeth yr awdurdod i sicrhau iechyd, diogelwch a lles ei dîm corfforaethol, staff ysgolion, dysgwyr a'u teuluoedd a'r ffaith iddo barhau i roi cymorth hanfodol i ysgolion trwy wasanaethau allweddol fel iechyd a diogelwch, trafnidiaeth, adnoddau dynol a gwasanaethau plant. 

Mae'r adroddiad yn nodi yr oedd Caerdydd mewn sefyllfa dda o ran cynnig dysgu digidol gan mai hi oedd yr awdurdod cyntaf i gyflwyno'r defnydd o Hwb fel llwyfan dysgu digidol i athrawon a dysgwyr pan gafodd ei lansio.  Oherwydd buddsoddiad sylweddol y Cyngor mewn offer a mynediad i'r rhyngrwyd i blant a phobl ifanc mewn angen, gyda tua 6,500 o liniaduron a chyfrifiaduron llechen, yn ogystal â 2,000 o ddyfeisiau symudol band eang 4G wedi'u dosbarthu i ddysgwyr yng ngham cyntaf y pandemig, roedd modd i ddisgyblion barhau i ddysgu gartref. 

Mae cyfathrebu cryf yn agwedd allweddol trwy gydol yr adolygiad gyda phwyslais ar gyngor ac arweiniad rheolaidd a hygyrch i benaethiaid, llywodraethwyr, dysgwyr a'u teuluoedd.

Mae'r prif bwyntiau eraill yn cynnwys trefniadau ar gyfer gofal plant i gefnogi gweithwyr allweddol a phlant agored i niwed pan oedd yr ysgolion ar gau, cymorth ariannol i deuluoedd â phlant sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim trwy dalu'n uniongyrchol i gyfrifon banc rhieni, prosiectau arloesol i gefnogi disgyblion oedd yn pontio i gam nesaf eu haddysg neu i gyflogaeth a chymorth parhaus i ddysgwyr agored i niwed.

Gan ganolbwyntio ar ailagor ysgolion ym mis Medi, mae'r adolygiad yn disgrifio dull a gydlynir o gefnogi ysgolion i ailagor yn ddiogel, yn enwedig, arweiniad, systemau a phrosesau defnyddiol i'w helpu i roi mesurau amddiffynnol cymesur ar waith i blant a staff. Mae'r Cyngor wedi parhau i fuddsoddi mewn technoleg ddigidol mewn ysgolion yn unol â'i gynllunio strategol.

Mae Estyn yn nodi sut defnyddiodd Caerdydd y profiad o'i hymateb ei hun i'r pandemig i ystyried sut i adeiladu momentwm trwy'r cyfleoedd sydd wedi codi, er mwyn gwella dysgu ac addysgu ac i gefnogi lles pob dysgwr. 

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:  "Rwy'n falch iawn bod yr adolygiad hwn gan Estyn yn cydnabod ymdrechion aruthrol pawb ers mis Mawrth y llynedd i gefnogi ein cymunedau ysgol yn y ddinas yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

"Mae gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau allanol a dull gweithredu ar y cyd ym mhob un o wasanaethau'r awdurdod wedi bod yn allweddol o ran sicrhau y gallwn ni gadw ein disgyblion a'n staff yn ddiogel, ac mae dysgu wedi parhau er gwaethaf yr heriau.  Mae cymorth i ddysgwyr agored i niwed wedi bod ar flaen ein meddyliau trwy gydol y cyfnod hwn ac mae'n dda gweld bod hyn wedi'i gydnabod yn adolygiad Estyn.

"Er bod y 10 mis diwethaf wedi bod y rhai mwyaf anodd erioed i bob un o'n cymunedau dysgu, mae'r ffaith bod y perthnasau rhwng yr ysgolion a'r Cyngor wedi cryfhau'n beth cadarnhaol iawn.  Mae llawer o'n huchelgeisiau digidol wedi'u symud ymlaen yn fawr oherwydd yr amgylchiadau a dyma fantais arall i ni, a llwyfan cadarn a fydd yn ein galluogi i symud ymlaeneto."