Dyma'r newyddion ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: niferoedd achosion a phrofion COVID-19 yng Nghaerdydd, y data ar gyfer y saith diwrnod diwethaf (10 Ionawr - 16 Ionawr); cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a'r Fro Morgannwg; a pob practis meddyg teulu yng Nghaerdydd bellach yn cynnig brechlyn COVID-19.
Aros gartref
Achub bywydau
Diogelu'r GIG
Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch iwww.llyw.cymru/coronafeirws
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (10 Ionawr - 16 Ionawr)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
20 Ionawr 2021, 09:00
Achosion: 1,037
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 282.6 (Cymru: 281.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 5,652
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,540.5
Cyfran bositif: 18.3% (Cymru: 16.7% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - 21 Ionawr 2021
Hyd yn hyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhoi cyfanswm o 31,624brechiad.
Y grwpiau blaenoriaeth yw:
Staff Cartrefi Gofal: 2,044
Preswylwyr Cartrefi Gofal: 924
80 oed ac yn hŷn: 4,473
Staff Gofal Iechyd: 15,747
Staff Gofal Cymdeithasol: 3,651
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd ar wefan Cyngor Caerdydd.
Cafwyd y data gan BIPCAF
Pob Practis Meddyg Teulu yng Nghaerdydd bellach yn Cynnig Brechlyn COVID-19
Mae pob un o'r 60 practis ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gwahodd trigolion sy'n 80 oed ac yn hŷn i gael eu brechu yn eu meddygfa leol, gyda disgwyl i'r rhai hynny dros 75 gael eu gwahodd yn fuan.
Mae'r practisiau hyn yn chwarae rôl bwysig wrth gyfrannu at Raglen Frechu Dorfol y Bwrdd Iechyd, gyda'r nod o gadw poblogaeth Caerdydd a'r Fro yn ddiogel.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gynnig y dos cyntaf o'r brechlyn i bawb yng ngrwpiau blaenoriaeth un i bedwar JCVI erbyn canol mis Chwefror, yn dibynnu ar gyflenwad y brechlyn i'r rhanbarth.
Mae'n golygu y bydd preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn, staff gofal iechyd ar y rheng flaen, y rhai hynny sy'n hynod agored i niwed yn glinigol a phawb dros 70 oed yn gallu disgwyl gwahoddiad i gael eu dos cyntaf o'r brechlyn o fewn ychydig wythnosau.
Caiff pawb sy'n gymwys i gael y brechlyn wahoddiad uniongyrchol gan eu Practis Meddyg Teulu neu'r Bwrdd Iechyd felly does dim angen i bobl gysylltu. Mae darpariaethau ar gyfer y cleifion hynny sy'n gaeth i'w cartrefi hefyd yn cael eu nodi a chysylltir â'r unigolion hynny'n uniongyrchol.
Darllenwch fwy yma: