Dyma'r newyddion ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a'r Fro; niferoedd achosion a phrofion COVID-19; a paratoi ar gyfer Storm Christoph.
Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG.
Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i
www.llyw.cymru/coronafeirw
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - 19 Ionawr 2021
Hyd yn hyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhoi cyfanswm o 26,777brechiad.
Y grwpiau blaenoriaeth yw:
Staff Cartrefi Gofal: 1,934
Preswylwyr Cartrefi Gofal: 667
80 oed ac yn hŷn: 3,348
Staff Gofal Iechyd: 14,375
Staff Gofal Cymdeithasol: 3,110
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd ar wefan Cyngor Caerdydd.
Cafwyd y data gan BIPCAF
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (08 Ionawr - 14 Ionawr)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
18 Ionawr 2021, 09:00
Achosion: 1,058
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 288.4 (Cymru: 295.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 5,771
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,572.9
Cyfran bositif: 18.3% (Cymru: 17.0% cyfran bositif)
Paratoi ar gyfer Storm Christoph
Mae tîm priffyrdd y Cyngor yn gweithio'n galed i glirio draeniau a gylïau ledled y ddinas i sicrhau y gall dŵr wyneb ddraenio'n effeithiol o'r rhwydwaith ffyrdd.
Fodd bynnag, wrth i lefelau'r afonydd godi, efallai na fydd modd i ddŵr wyneb gormodol ar ein strydoedd lifo trwy bibellau draeniau llifogydd i'r afonydd os bydd lefelau'r afon yn codi uwchben y man draenio. Mae hyn yn peri i'r dŵr gronni ar ein strydoedd gan nad yw'n gallu draenio i ffwrdd.
Er mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am lifogydd o brif afonydd, bydd ein tîm priffyrdd allan yn gweithio trwy gydol y storm i geisio delio ag unrhyw faterion sy'n codi, clirio llifogydd dŵr wyneb a helpu'r gwasanaethau brys lle gallant.
Mae gennym stoc gyfyngedig o fagiau tywod sy'n cael eu defnyddio lle mae dŵr wyneb yn achosi problem ddifrifol. Argymhellir yn gryf i breswylwyr sy'n byw mewn ardal lle mae perygl o lifogydd gael hyd i'w bagiau tywod eu hunain ymlaen llaw. Byddwn, fel bob amser, yn gwneud ein gorau glas i helpu, ond bydd gwneud eich paratoadau eich hunain o fudd mawr yn yr ymdrech i ddiogelu eich cartref a'ch eiddo.
Mae'n debygol iawn y byddwn yn delio â sawl problem ar draws y ddinas ar yr un pryd. Mae hyn yn golygu bod rhaid blaenoriaethu ymateb ein gweithlu ac ni allwn, yn anffodus, fod ym mhobman ar yr un pryd na gallu ymateb i bob galwad
Mae ein timau allan heddiw, gan weithio'n galed i glirio draeniau mewn mannau gyda phroblemau llifogydd hysbys a sicrhau bod cwlfertau ffrydiau yn glir o sbwriel.
Os oes gennych bryderon am eich eiddo oherwydd cynnydd yn lefel afon, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188, sef gwasanaeth 24 awr a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae gwybodaeth ar gael am Rybuddion Llifogydd Afonydd a sut i ddiogelu eich eiddo, yn ogystal â gwasanaeth am ddim i dderbyn rhybuddion llifogydd dros y ffôn, drwy neges destun neu e-bost drwy fynd i:https://naturalresources.wales/flooding/check-flood-warnings/?lang=cy