15.02.2021
Yn dilyn ein gwaith i gael gwared ar ailgylchu a gwastraff gardd rydym am roi gwybod i breswylwyr bod ôl-groniad o finiau gwastraff gardd a choed Nadolig nad ydym wedi gallu eu clirio o hyd.
Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ni ymestyn casgliadau gwastraff gardd a choed i ddydd Sadwrn, dydd Llun a dydd Mawrth.
Ein bwriad yw casglu yn yr ardaloedd canlynol dros y diwrnodau hyn:
- Dydd Sadwrn, 16 Ionawr- Treganna, Llandaf, Ystum Taf, Felindre, Cyncoed, Pentwyn a Phlasnewydd.
- Dydd Llun, 18 Ionawr - Pontprennau, Pentref Llaneirwg, Trowbridge a Llanrhymni.
- Dydd Mawrth, 19 Ionawr - Rhiwbeina, Llanisien a Llys-faen.
Mae'r gwasanaeth wedi gweithio'n eithriadol o galed i ddal i fyny lle bo hynny'n bosibl. Mae pob ffrwd wastraff arall yn cael ei chasglu yn ôl yr amserlen. Yn anffodus, oherwydd bod staff yn sâl gyda COVID a bod llawer o wastraff Nadolig eleni, nid ydym wedi gallu clirio'r holl wastraff gardd cyn gynted ag y byddem wedi hoffi. Ymddiheurwn i drigolion am yr anghyfleustra a diolchwn iddynt am eu hamynedd parhaus.
Gadewch eich gwastraff gardd heb ei gasglu a choed Nadolig ar y stryd a bydd y timau glanhau yn eu casglu cyn gynted ag y gallant.
Ni fyddwn yn defnyddio camau gorfodi mewn cysylltiad â chyflwyno gwastraff yn ystod y cyfnod hwn pan fo gwastraff mewn rhai ardaloedd eto i'w gasglu.
Diolch am ddarllen.