The essential journalist news source
Back
15.
January
2021.
Cynnydd Caerdydd tua chael ei chydnabod yn fyd eang fel Dinas sy'n Dda i Blant Unicef


15/1/2020

Disgrifir y cynnydd y mae Caerdydd wedi ei wneud wrth weithio tua dod yn Ddinas sy'n Dda i Blant Unicef a gydnabyddir yn fyd-eang mewn adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd yn ei gyfarfod arDydd Iau 21 Ionawr.

Mae'r adroddiad hefyd yn ceisio cefnogaeth y Cabinet i barhau â'r ymrwymiad i weledigaeth Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd yn y Cyngor a'r tu hwnt ac mae'n cynghori ar y camau nesaf wrth baratoi cydnabyddiaeth posibl fel Dinas sy'n Dda i Blant yn nhymor yr hydref 2021.

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant ym mis Tachwedd 2018, lansiodd Caerdydd ei Strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant, sy'n rhoi hawliau a llais plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau'r ddinas.

Roedd y cynllun gweithredu aml asiantaeth yn ceisio cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n cyfyngu ar eu cyfleoedd mewn bywyd. Roedd hefyd yn gam mawr tuag at Gaerdydd yn cael ei chydnabod fel un o ddinasoedd sy'n Dda i Blant Unicef yn y DU.Mae hon yn rhaglen fyd-eang sy'n dod ag Unicef a llywodraethau lleol ynghyd i roi hawliau plant yn gyntaf ac mae'n cynorthwyo Llywodraethau Lleol a phartneriaid i weithredu dull sy'n seiliedig ar hawliau plant wrth ddylunio, cyflawni, monitro a gwerthuso gwasanaethau a strategaethau lleol i blant.

Yn ystod y cam gweithredu dwy flynedd, gosododd Caerdydd bum nod a chyfres o ymrwymiadau i'w cyflawni drwy'r Strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant:

-         Caiff pob plentyn a pherson ifanc ei werthfawrogi, ei barchu a'i drin yn deg.

-         Rhoddir sylw i lais, anghenion a blaenoriaethau pob plentyn a pherson ifanc.

-         Caiff pob plentyn a pherson ifanc ei fagu mewn cartref diogel a chefnogol.

-         Caiff pob plentyn a pherson ifanc gyfle i gael addysg o safon uchel sy'n hyrwyddo ei hawliau ac yn ei helpu i ddatblygu ei sgiliau a'i dalentau yn llawn.

-         Mae gan blant a phobl ifanc iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol da ac maen nhw'n gwybod sut i gadw'n iach.

Roedd yr adroddiad hefyd yn cydnabod angen cynnwys y plant a phobl ifanc eu hunain wrth gynllunio adfer wedi COVID o ystyried yr effaith mae'r pandemig wedi ei chael ar eu bywydau nhw.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry, "Yn nhymor y gwanwyn 2020, cynhyrchodd Unicef UK adroddiad cynnydd a gydnabu fod Cyngor Caerdydd wedi chwarae rhan arloesol o ran sefydlu Rhaglen Dinasoedd sy'n Dda i Blant yn y DU, a nododd fod tystiolaeth glir yn dangos bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud tua sefydlu, blaenoriaethu a gweithredu dull sy'n seiliedig ar hawliau plant yn niwylliant ac ymrwymiadau'r Cyngor.

"Rydym i gyd yn ymwybodol o'r effaith mae COVID wedi ei chael ar fywydau pobl ifanc a'r potensial y bydd anfantais yn gwreiddio.  Mae'n gwbl hanfodol ein bod fel dinas yn ceisio mynd i'r afael â'r effaith wrth i ni ddatblygu cynlluniau adfer a sicrhau bod plant a phobl ifanc a'u barn yn ganolog yn y broses hon.  Allwn ni ddim gadael i COVID daflu bywydau plant a phobl ifanc oddi ar eu trywydd."

Dywedodd Unicef UK bod sefydlu Gwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd mewn cyfnod byr yn llwyddiant nodedig, sy'n ymateb i bwysigrwydd cael un pwynt sy'n cynnig gwybodaeth gynhwysfawra chefnogaeth i blant a theuluoedd.

Cydnabuont hefyd ymdrechion Caerdydd wrth sefydlu dull sy'n seiliedig ar hawliau plant ym maes addysg trwy'r ddinas, gan gyflymu twf Dyfarniad Ysgolion sy'n Parchu Hawliau a sefydlu sail wybodaeth gadarn a rhwydwaith ar destun hawliau plant yn ysgolion y ddinas.

Cydnabuwyd bod gan Gaerdydd syniadau cryf ynghylch iechyd, yn cynnwys sefydlu bwrdd iechyd pobl ifanc, siarter iechyd sy'n canolbwyntio ar blant, strydoedd sy'n Dda i Blant a ffocws ar bobl ifanc a'r driniaeth a gânt yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

Soniwyd hefyd am feysydd eraill, yn cynnwys ymrwymiad sylweddol gan uwch arweinwyr y Cyngor ac Aelodau Etholedig a'r nifer o staff a ddangosodd fwy o ymwybyddiaeth o hawliau plant a'r ymdrechion gweladwy i sefydlu cynllun cyfathrebu, a gweithio gyda phlant a phobl ifanc i sicrhau ystod eang o ymgysylltu o blith rhanddeiliaid allweddol.


Ychwanegodd y Cynghorydd Merry, "Mae'n glir bod Caerdydd wedi gwneud cynnydd da tuag at wreiddio hawliau plant yn ein strategaethau a'r ffordd rydym yn cynorthwyo ac yn meithrin ein pobl ifanc. I gydnabod hyn, mae Unicef wedi argymell bod y Cyngor yn gwneud cais am gael cydnabyddiaeth fel Dinas sy'n Dda i Blant yn nhymor yr hydref 2021.

"Bydd Caerdydd yn parhau i weithio tua gwireddu ei gweledigaeth gan gynnwys gweithredu'r rhaglen Ysgolion sy'n Parchu Hawliau i wreiddio hawliau plant yn ehangach mewn cymunedau ysgol a chynnal dull ystyrlon o ran cyfranogiad plant a phobl ifanc mewn polisi, strategaethau a gwneud penderfyniadau lle gallai newid effeithio ar eu bywydau.

"Mae cynaliadwyedd hawliau plant yn allweddol er mwyn cael cydnabyddiaeth Unicef yn 2021 a bydd Caerdydd yn gweithio'n galed i weithredu ei chamau nesaf i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys mewn modd ystyrlon yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt."