The essential journalist news source
Back
13.
January
2021.
Sam Warburton am godi £500,000 i Gartref Cŵn Caerdydd
Mae’r chwaraewr rygbi penigamp o Gymru, Sam Warburton, wedi ennill llawer o deitlau yn ystod ei yrfa - y Gamp Lawn, y Chwe Gwlad, capten ieuangaf erioed Cwpan y Byd - a nawr ei fod wedi ymddeol, Cennad Cartref Cŵn Caerdydd.

Y rôl newydd hon y mae Sam yn canolbwyntio arni nawr ac mae wedi dechrau gweithio gyda’r elusen gofrestredig leol The Rescue Hotel i geisio codi £500,000 i ailwampio’r cytiau cŵn yng Nghartref Cŵn Caerdydd sy’n gofalu am hyd at 1,000 o gŵn strae o Gaerdydd y flwyddyn.

Gansiarad am yr ymdrech i godi arian, dywedodd Sam: “Mae cŵn wedi bod yn rhan o fy nheulu i drwy gydol fy mywyd. Mae dau o’n cŵn ni wedi dod o Gartref Cŵn Caerdydd ac maen nhw wedi rhoi gymaint o hapusrwydd i ni.

"Un o'r pethau roeddwn i wastad eisiau ei wneud ar ôl gorffen fy ngyrfa’n chwarae rygbi oedd helpu'r cartref cŵn lleol.  Mae’r cŵn yn y cartref i gyd yn haeddu bywyd da a dwi wir eisiau chwarae fy rhan o ran sicrhau hynny iddyn nhw.

“Mae rhai cŵn yn aros yno am 12 mis nes y byddan nhw’n dod o hyd i’w cartref parhaol, felly gobeithio y gallwn ni godi cymaint o arian â phosibl a chreu amgylchedd braf iddyn nhw aros ynddo.

“Hyd yn oed os gallwch chi ond roi 50c neu bunt, ar y cyd, pe bai pob person sy’n hoffi cŵn yn gwneud hynny, byddai hynny’n wych.”

Cefnogir y Cartref Cŵn, sydd wedi derbyn o leiaf un Wobr PawPrints yr RSPCA bob blwyddyn ers 2008 i gydnabod ei safonau, gan ‘The Rescue Hotel’, elusen a sefydlwyd ym mis Ebrill y llynedd i godi arian am wasanaethau ychwanegol, fel ymddygiadwyr cymwys i gŵn sy’n aros am gartref a gwasanaethau a redir gan Gyngor Caerdydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd wrth eu bodd â chŵn, ac mae’n gwneud gwaith gwych, gan roi lefel o ofal sy’n llawer mwy na’r lefel o ofal y mae angen i’r gwasanaeth statudol hwn ei rhoi yn gyfreithiol, ond nid yw'n gyfrinach bod angen ailwampio’r cytiau cŵn.

"Gyda'r gefnogaeth hon gan Sam, a'r ymddiriedolwyr gwych yn The Rescue Hotel, gobeithio yn fuan y bydd y Cŵn yr ydyn ni’n gofalu amdanynt yn gallu elwa o amgylchedd cyfforddus, di-straen a fydd yn eu galluogi i ffynnu nes y gallwn ni ddod o hyd i gartref parhaol iddyn nhw.”

I gyfrannu, ewch i: https://www.justgiving.com/campaign/therescuehotel

Gallwch hefyd ddilyn The Rescue Hotel ar y cyfryngau cymdeithasol @therescuehotelcdh (Instagram a Facebook) neu @therescuehotel (Twitter), neu ewch i'w gwefan yn www.therescuehotel.com

Rhif elusen gofrestredig The Rescue Hotel yw 1189079.