The essential journalist news source
Back
8.
January
2021.
Cau'r Man Troi ar ben Ffordd Churchill hyd at Stryd Ogleddol Edward

 

Bydd rhan ogleddol Ffordd Churchill ar gau ddydd Llun 11 Ionawr am hyd at dair wythnos fel y gellir cynnal asesiadau ymchwilio tir o dan y ffordd, fel rhan o'r cynllun arfaethedig i ailagor camlas gyflenwi'r dociau.

Bydd y ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad o 8am o'r gyffordd â Stryd Ogleddol Edward hyd at y man troi sy'n cwrdd â Heol y Frenhines.

Tra bydd Ffordd Churchill ar gau, bydd rhaid i weithredwyr bysus a thacsis ddargyfeirio i lawr Stryd Ogleddol Edward a bydd rhaid i fusnesau, cerbydau danfoniadau a brys gael at Heol y Frenhines drwy'r bolardiau, oddi ar Heol Casnewydd ac ymadael â Heol y Frenhines drwy Stryd y Castell.

Cynhelir mynediad i bob maes parcio oddi ar y stryd ar Stryd Ogleddol Edward.

Mae'r bwriad i ailagor camlas gyflenwi'r dociau yn rhan o gynllun newydd cyffrous a gyhoeddwyd cyn y Nadolig, a allai weld Boulevard de Nantes; Stuttgarter Strasse; Plas Dumfriesa Rhodfa'r Orsaf yn cael ei ailfodelu i ddisodli rhwydwaith ffyrdd 'hen ffasiwn'. Bydd hefyd yn gwella cysylltiadau cerdded a beicio rhwng y ganolfan ddinesig yn Neuadd y Ddinas, Stryd y Castell a chanol y ddinas.

Fel rhan o'r cynnig hwn, gellid adeiladu sgwâr cyhoeddus a gofod digwyddiadau newydd hefyd oddi ar Boulevard de Nantes a Ffordd y Brenin.

Cynhyrchwyd pecyn gwybodaeth a gwefan bwrpasol i roi gwybodaeth am gynllun Cwr y Gamlas ar gyfer trigolion lleol, busnesau ac aelodau o'r cyhoedd:    https://keepingcardiffmoving.co.uk/cy/project/dwyrain-canol-y-ddinas/

Churchill Way image