The essential journalist news source
Back
28.
December
2020.
10 eitem i’w hailgylchu rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

28.12.2020

Er y bydd hi'n Nadolig gwahanol iawn i lawer ohonom eleni, mae'n siŵr y bydd gan bawb gryn dipyn o annibendod ar ôl i'r dathliadau ddod i ben.

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\CORPORATE COMMUNICATIONS\Projects\2019-2020\Waste\Christmas\Recycling advice 2019 APP.jpg

Edrychwch ar ein rhestr o 10 eitem Nadoligaidd a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i gael gwared arnynt yn gywir:

  1. Gweddillion cinio Nadolig

 

Dylai esgyrn twrci, ysgewyll a bwyd dros ben arall fynd yn eich cadi gwastraff bwyd.

 

  1. Craceri Nadolig

 

Ni ellir ailgylchu'r rhain a dylent fynd yn eich bin du neu eich bagiau streipiau coch.

 

  1. Hambyrddau mins peis a ffoil a ddefnyddiwyd ar gyfer coginio

 

Gellir ailgylchu ffoil glân, fel hambyrddau mins peis, mewn bagiau gwyrdd. Cofiwch ei sgrynsio yn gyntaf.

 

Bydd ffoil wedi'i orchuddio â bwyd yn halogi deunyddiau eraill a dylid ei roi mewn bin du/bag streipiau coch.

 

 

  1. Cynwysyddion losin plastig/tun, bocsys detholiad siocledi a chalendrau Adfent

 

Gall bocsys detholiad siocledi a chalendrau Adfent fynd yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd (sef y plastig ar y tu mewn a'r cardfwrdd ar y tu allan).

 

Gellir ailgylchu tybiau o losin mewn cynwysyddion plastig neu dun hefyd, felly rhowch nhw yn eich bagiau gwyrdd.

 

Neu gallwch eu hailddefnyddio i storio Lego, crefftau neu fisgedi! Dewch o hyd i ragor o syniadau ar Pinterest.

 

  1. Papur lapio

 

Osgallwch chi ffitio eich papur lapio yn eich bin du neu eich bag streipiau coch, mae hynny'n wych; does dim angen i chi wneud unrhyw beth arall. Rhowch e mas i'w gasglu.

 

Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw bapur lapio dros ben ar ôl llenwi eich bin neu eich bag streipiau coch, yna, ar gyfer yrwythnosau sy'n dechrau ar28 Rhagfyr a 4 Ionawr yn unig, rhowch y deunydd lapio dros ben mewn bag bin du a'i roi wrth ymyl eich bin du neu eich bagiau streipiau coch a bydd ein criwiau'n ei gasglu. Dysgwch fwy am pam rydym yn casglu papur lapio fel hyn yma.

 

Os ydych chi'n chwilio am ddewisiadau ecogyfeillgar yn lle papur lapio traddodiadol, darllenwch ein canllaw yma.

 

 

 

  1. Coed Nadolig go iawn

 

Bydd casgliad gwastraff gardd untro ar gael i chi ym mis Ionawr. Byddwn yn casglu coed Nadolig go iawn ac unrhyw wastraff gardd arall o'ch biniau gwyrdd/sachau gardd.

 

Cesglir coed Nadolig o'r tu allan i'ch bin gwyrdd. Cofiwch dynnu'r holl addurniadau.
 

Gallwch weld dyddiad casglu eich gwastraff gardd yn  https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Pryd-gaiff-fy-miniau-eu-casglu/ionawr-gardd-wastraff/Pages/default.aspx

 

Gallwch hefyd fynd â gwastraff gardd gwyrdd a choed Nadolig go iawn i'n canolfannau ailgylchu trwy gydol y flwyddyn. Trefnwch eich ymweliad â'r ganolfan ymlaen llaw:www.caerdydd.gov.uk/canolfannauailgylchu

 

Mae trefnu eich ymweliad yn cadw niferoedd yn isel, yn helpu i gadw pawb yn ddiogel ar y safle ac yn rheoli ymbellhau cymdeithasol.


 

  1. Cardiau Nadolig

 

Gall cardiau Nadolig plaen fynd i mewn i'ch bagiau ailgylchu gwyrdd. Ni ellir ailgylchu cardiau gyda gliter ac addurniadau, felly bydd angen i'r rhain fynd yn eich bin du neu eich bagiau streipiau coch. Fel arall, beth am eu hailgylchu a'u defnyddio ar gyfer crefftau, tagiau anrhegion neu lyfrnodau?

 

 

  1. Poteli gwin/cwrw gwydr, caniau

 

Rinsiwch boteli a chaniau gwag a'u rhoi yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd.
 

  1. Canllaw teledu'r Nadolig

 

Pan fyddwch wedi gorffen rhoi cylchoedd o amgylch eich hoff raglenni teledu yn eich canllaw, gallwch ei roi yn eich bag gwyrdd i'w ailgylchu.
 

  1. Pecynnu cardfwrdd

 

Os ydyn nhw'n rhy fawr i fynd yn y bagiau, rhowch flychau cardfwrdd wrth ochr eich bagiau gwyrdd i gael eu casglu. Arhoswch am ddiwrnod sych i wneud hyn a chewch wared ar unrhyw bolystyren yn gyntaf.

 

Gallwch hefyd fynd â symiau mawr o gardfwrdd i'r canolfannau ailgylchu. Trefnwch eich ymweliad nesaf yma.

 

Gwiriwch ddyddiadau eich casgliadau gwastraff ac ailgylchu dros gyfnod y Nadolig trwy lawrlwythoApp Cardiff Govneu chwiliwch am eich cod post ar ein gwefan.

 

Cofiwch y dylai ailgychu fod yn arfer am oes, nid dros y ‘Dolig yn unig.