Back
20.
December
2020.
Gwybodaeth am y cyfnod cloi diweddaraf (20/12/20)
20/12/20
Yn sgil y cyhoeddiad am y Cyfnod Clo a wnaed gan y Prif Weinidog ddoe (19/12/20), mae'r cyfleusterau canlynol yn cau ar unwaith:
- Canolfan Hamdden Trem y Môr
- Canolfan Rafftio Dŵr Gwyn (DGRhC)
- Ysgol Farchogaeth Caerdydd
- Cyrtiau chwaraeon awyr agored
- Parciau sglefrio a champfeydd awyr agored
- Mae Meistr yr Harbwr wedi rhoi'r Hysbysiad i Forwyr ar waith sy'n cyfyngu ar fordwyo i mewn ac allan o'r bae
- Meysydd parcio'r Morglawdd a'r Wenallt
Bydd y cyfleusterau canlynol yn aros ar agor nes clywir yn wahanol:
- Canolfannau ailgylchu Clos Bessemer a Ffordd Lamby ar gyfer trefniadau a wnaed ymlaen llaw ac apwyntiadau yn unig
- Marchnad Caerdydd, ar gyfer nwyddau hanfodol yn unig
- Ardaloedd chwarae i blant a geir mewn parciau
- Mae'r trefniadau ar gyfer Hybiau, Llyfrgelloedd canolfannau a threfniadau cymunedol ar gael i'w gweld ymahttps://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25505.html
Contact
Newyddion CaerdyddCategory