Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Caerdydd, yn cwmpasu: trefniadau gwasanaethau cymunedol hanfodol; achosion a phrofion COVID-19;Achosion Ysgolion; helpu pobl i gadw mewn cysylltiad gartref; a clirio cyn y Nadolig? Dysgwch beth i'w wneud gyda'ch sbwriel.
Os bydd yr amcanestyniadau presennol yn parhau, yna erbyn wythnos y Nadolig byddwn yn gweld mwy na phedair gwaith nifer yr achosion o heintio newydd bob dydd ag yr oeddem yn ei weld ddechrau Rhagfyr.
#CadwchGaerdyddYnDdiogel
Darllenwch y rheolau ar-lein
https://llyw.cymru/coronafeirws
Diweddariad ar y Coronafeirws: Trefniadau gwasanaethau cymunedol hanfodol
Bydd newidiadau i wasanaethau cymunedol y Cyngor yng Nghaerdydd yn dod i rym yr wythnos nesaf wrth i'r ddinas wynebu'r argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus gydag achosion cynyddol o COVID-19.
Mae trefniadau gwasanaethau'n cael eu haddasu unwaith eto, oherwydd y cyfraddau heintio sy'n peri pryder yn y ddinas ac i sicrhau bod y Cyngor yn gwneud popeth o fewn ei allu i leihau lledaeniad y coronafeirws.
Mae hyn yn cael ei wneud cyn y cyfyngiadau Lefel 4 a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru a fydd yn dechrau ar ôl y Nadolig gyda'r nod o sicrhau y gall gwasanaethau allweddol ar draws y ddinas barhau i weithredu, ar adeg o bwysau cynyddol ar weithlu'r Cyngor ei hun o ganlyniad i ba mor gyflym mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo.
Gwastraff ac Ailgylchu
Mae trefniant gwastraff ac ailgylchu yn aros yn ddigyfnewid. Mae Canolfannau Ailgylchu'n parhau i fod ar agor, oni bai bod rheoliadau Llywodraeth Cymru yn newid ac yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu cau. Rhaid cadw lle i ddefnyddio'r canolfannau ailgylchu. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth:https://www.cardiff.gov.uk/CanolfannauAilgylchu
Hybiau
Bydd pedwar o'n hybiau yn y ddinas yn parhau ar agor ar gyfer apwyntiadau sy'n ymwneud â materion brys yn unig ac i gynnig y gwasanaeth Clicio a Chasglu llyfrau o Ddydd Llun 21 Rhagfyr. Bydd gweddill yr hybiau a'r llyfrgelloedd ar gau.
Bydd Hyb y Llyfrgell Ganolog, The Powerhouse, Hyb Llaneirwg a Hyb Trelái a Chaerau ar agor i gwsmeriaid sydd ag apwyntiadau wedi'u trefnu ymlaen llaw ar gyfer gwasanaethau fel cymorth i mewn i waith, cyngor ariannol a chymorth gyda thai a budd-daliadau ac i ddefnyddio'r gwasanaeth Clicio a Chasglu llyfrau.
Dylai cwsmeriaid sydd angen cymorth ffonio Llinell Gyngor y Cyngor ar 029 2087 1071. Gall ymgynghorwyr gynnig amrywiaeth o gyngor a chymorth dros y ffôn, felly efallai na fydd angen ymweld â hyb.
Bydd sesiynau a gweithgareddau wyneb yn wyneb a oedd wedi dechrau cael eu cynnal mewn hybiau a llyfrgelloedd yn cael eu gohirio ond bydd gweithgareddau a sesiynau cymdeithasol, iechyd a llesiant ar-lein a drefnir gan y gwasanaeth yn parhau ac ar gael drwy'r wefan Digwyddiadau Hybiau newydd ynwww.hybiaucaerdydd.co.uk
Gwasanaeth Clicio a Chasglu
Er y bydd gwasanaethau Clicio a Chasglu ar gael trwy apwyntiad yn unig, caiff defnyddwyr llyfrgelloedd eu hannog i gael gafael ar yr ystod eang o wasanaethau digidol sydd ar gael am ddim gan wasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd gan gynnwys e-lyfrau, e-lyfrau llafar, e-gylchgronau a phapurau newydd ar-lein. Ewch iwww.caerdydd.gov.uk/gweithgareddauwrthynysuam fanylion.
Bydd trigolion yn dal i allu casglu bagiau ailgylchu gwyrdd neu fagiau gwastraff bwyd o'r pedwar hyb drwy gnocio ar y drws - bydd staff yno i roi bagiau i chi.
Banciau Bwyd
Bydd banciau bwyd yn y ddinas ar agor tan Ragfyr 23, a byddant yn ailagor ar Ragfyr 29. Ewch i https://cardiff.foodbank.org.uk/christmasopening/ i gael mwy o wybodaeth am oriau agor y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Bydd talebau banc bwyd ar gael trwy ffonio'r Adviceline neu ymweld ag un o'r pedair Hyb agored. Gall y Adviceline nawr ddarparu talebau digidol os oes gan breswylwyr SmartPhone, gan leihau nifer y bobl sy'n gorfod teithio i gasglu taleb papur.
Parseli bwyd brys
Gellir dosbarthu parseli bwyd brys i gartrefi sy'n hunanynysu ac sydd heb yr arian i brynu bwyd a hanfodion. Dylai trigolion ffonio'r Llinell Gynghori os oes angen help.
Atgyweirio Tai
Dim ond mewn argyfwng neu os yw'r gwaith yn waith brys y bydd gwaith atgyweirio'n cael ei wneud ar dai cyngor y ddinas. Gofynnir i unrhyw denantiaid sydd wedi trefnu gwaith atgyweirio brys roi gwybod i'r Cyngor os ydynt wedi profi'n bositif neu os oes ganddynt unrhyw symptomau o'r coronafeirws cyn i weithredwr fynychu.
Digartrefedd
Bydd y Cyngor yn parhau i roi cymorth hanfodol i unigolion a theuluoedd digartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Bydd y Gwasanaeth Dewisiadau Tai a Digartrefedd yn parhau drwy apwyntiad yn unig. Dylai unrhyw un sydd angen cymorth ffonio 02920 570750 neu e-bostiocanolfandewisiadautai@caerdydd.gov.uk.
Heblaw mewn amgylchiadau eithriadol, dim ond aelodau o'r cyhoedd sydd ag apwyntiad yn barod a gaiff fynd i'r Ganolfan Dewisiadau Tai ar Hansen Street.
Bydd llawer o wasanaethau'r cyngor yn parhau heb unrhyw newidiadau ar hyn o bryd.
Sut i gael gafael ar help a chymorth
- Gall Llinell Gyngor y Cyngor gynnig amrywiaeth eang o gyngor a mynediad i dalebau banc bwyd/parseli bwyd brys. Ffoniwch 029 2087 1071 neu e-bostiwchhybcynghori@caerdydd.gov.uk
- Gwasanaeth Byw'n Annibynnol y Cyngor yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cymorth a chyngor i bobl hŷn a phobl anabl. Gellir cysylltu â nhw ar 029 2023 4234.
- Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn cynnig ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae'r gwasanaeth ar gael dros y ffôn ar 03000 133 133, drwy e-bostCyswlltCChD@caerdydd.gov.uk neu ewch iwww.teuluoeddcaerdydd.co.uk
- Dylai unrhyw un sy'n pryderu am ddiogelwch plentyn gysylltu â'r Hyb Diogelu Amlasiantaethol (MASH) ar 029 2053 6490 neu y tu allan i oriau ar 029 2078 8570. Os yw plentyn mewn perygl uniongyrchol o gael ei niweidio, ffoniwch 999.
Ar gyfer pob ymholiad cyffredinol am wasanaethau'r Cyngor, cysylltwch â C2C ar 029 2087 2088.
Oriau agor y Llinell Gynghori a Hybiau (apwyntiadau brys yn unig) dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd:
Noswyl Nadolig, 24 Rhagfyr: 9am tan 1pm
Dydd Nadolig: AR GAU
28 Rhagfyr (Gŵyl y Banc - Gŵyl Steffan): AR GAU
Dydd Mawrth 29 Rhagfyr: 9am - 6pm
Dydd Mercher 30 Rhagfyr: 9am - 6pm
Dydd Iau 31 Rhagfyr: 9am tan 1pm
Dydd Calan, 1 Ionawr: Ar Gau
Dydd Sadwrn 2 Ionawr: 9am - 5.30pm
Dydd Llun 4 Ionawr ymlaen: ORIAU AGOR ARFEROL
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (07 Rhagfyr - 13 Rhagfyr)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:
17 Rhagfyr
Achosion: 2,214
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 603.4 (Cymru: 562.2 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 10,540
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 2,872.7
Cyfran bositif: 21.0% (Cymru: 21.9% cyfran bositif)
Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers
Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:
https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/
Achosion Ysgolion
Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Mae 24 o disgyblion Blwyddyn 11 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Radur
Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gynradd Radur. Mae 51 o ddisgyblion Blwyddyn 5 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi'n gysylltiadau agos i'r achosion o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff. Mae 22 o ddisgyblion Blwyddyn 5 wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Ysgol Gynradd Kitchener
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Kitchener. Mae 11 o ddisgyblion Blwyddyn 4 ac un aelod o staff wedi cael cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd .
Ysgol Gynradd Glan-yr-afon
Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Glan-yr-afon. Mae 15 o ddisgyblion Blwyddyn 1 a 2 a dau aelod staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos o COVID-19 a gadarnhawyd.
Helpu pobl i gadw mewn cysylltiad gartref
Mae gwasanaethau cyngor digidol i drigolion ledled y ddinas yn cefnogi lles pobl hŷn ac agored i niwed drwy eu helpu i gadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Mae cyfoeth o ddigwyddiadau, gweithgareddau a sesiynau cymdeithasol ar gael ar lwyfannau digidol bob dydd, gan ddod â gwasanaethau i gartrefi pobl, ar adeg pan fo'r gallu i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau wyneb yn wyneb yn parhau'n gyfyngedig.
Mae gwasanaethau fel Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd, Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, tîm cymorth digidol Dysgu Oedolion a'r gwasanaeth Cynghori wedi gwneud popeth y gallan nhw i gynyddu'n sylweddol y cynnig digidol i gwsmeriaid dros y naw mis diwethaf. Mae timau wedi buddsoddi cryn dipyn o amser ac ymdrech mewn atebion digidol i sicrhau bod rhai o ddinasyddion mwyaf agored i niwed y ddinas yn gallu cael gafael ar wasanaethau i helpu i fynd i'r afael ag allgáu cymdeithasol.
Mae sesiynau diweddaru digidol, sesiynau ymarfer corff rhithwir, sesiynau cyd-ganu a hyd yn oed ŵyl Nadolig wedi dwyn pobl ynghyd, a'u helpu i greu cysylltiadau a ffrindiau newydd o'u cartrefi.
Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25499.html
Clirio cyn y Nadolig? Dysgwch beth i'w wneud gyda'ch sbwriel
Sicrhewch na fyddwch dan ormod o straen gyda'n hawgrymiadau ar gyfer ymholiadau ailgylchu cyffredin cyn y Nadolig:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25502.html
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar ailgylchu a gwastraff, ewch i'n tudalen cyngor defnyddiol dros gyfnod yr ŵyl:www.caerdydd.gov.uk/ailgylchunadolig