15/12/20
Caiffbusnesau hamdden a lletygarwchsydd wedi cael eu gorfodi i gau oherwydd cyfyngiadau diweddaraf Llywodraeth Cymru ac sydd heb wneud cais am grant cychwynnol y cyfnod clo byr, wneud cais am y cymorth ariannol canlynol yn seiliedig ar werth ardrethol eu heiddo:
- Bydd eiddo sydd â gwerth ardrethol o £12,001 neu lai, yn gymwys i gael taliad o £3,000
- Mae eiddo rhwng £12,001 a £150,000 yn gymwys i gael taliad o £5,000.
NID OES ANGEN ifusnesau hamdden a lletygarwcha wnaeth gais ac a gafodd eu derbyn ar gyfer grant cychwynnol y cyfnod clo byr wneud cais, gan y bydd taliad yn cael ei wneud i'r busnesau hyn yn uniongyrchol ar sail manylion eu cais gwreiddiol.
Mae taliad dewisol o £2,000 hefyd ar gael i fusnesau nad ydynt yn atebol i dalu ardrethi busnes i Gyngor Caerdydd sydd wedi'u gorfodi neu y mae'n ofynnol iddynt gau o ganlyniad i'r cyfyngiadau cenedlaethol a roddwyd ar waith ar gyfer busnesau lletygarwch, neu sydd wedi gweld trosiant yn gostwng gan o leiaf 40% o ganlyniad uniongyrchol i'r cyfyngiadau diweddaraf. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, gyrwyr tacsis sydd wedi'u trwyddedu yng Nghaerdydd a all ddangos effaith y cyfyngiadau ar incwm.
Bydd y cynllun yn agor am 12 o'r gloch heddiw (15/12/20). I wneud cais am y grantiau sydd ar gael, ewch i wefan: