The essential journalist news source
Back
4.
December
2020.
Cyngor da ar leihau gwastraff papur lapio dros y Nadolig

Dyma ein canllawiau ecogyfeillgar ar gyfer prynu papur lapio eleni.

Gwnewch y newidiadau bach hyn i helpu i leihau eich ôl troed carbon yn hwyrach ymlaen:

  1. Defnyddiwch bapur brown wedi'i ailgylchu, sydd ar gael o'ch Swyddfa Bost neu siop grefftau leol, oherwydd gellir ei ailgylchu. Defnyddiwch setiau stampiau i'w addurno a chreu eich dyluniadau Nadolig unigryw eich hun.

 

  1. Yn lle prynu rhubanau ac ati metalig, gwnewch addurniadau gyda phapur newydd, chwiliwch am diwtorialau ar YouTube i'ch helpu.

 

  1. Defnyddiwch ddail a chelyn i addurno anrhegion. Gwnewch yn siŵr y gellir rhoi'r eitemau yr ydych yn eu defnyddio yn eich gwastraff gardd, sy'n cael ei gasglu unwaith yn unig ym mis Ionawr, ar ôl i'r anrheg gael ei agor.

 

  1. Cyflwynwch eich anrhegion mewn bagiau anrhegion yn lle hynny. Storiwch nhw gyda'r goeden Nadolig a'u hailddefnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

  1. Peidiwch ag anghofio'r cardiau a labeli Nadolig - anfonwch gardiau plaen heb rubanau, addurniadau neu gliter gan na ellir ailgylchu'r eitemau hyn neu os yn bosibl, sicrhewch fod y derbynnydd yn gallu eu tynnu cyn eu rhoi yn eu bagiau gwyrdd i'w casglu.  Fel arall, anfonwch e-gerdyn Nadolig.

 

Os ydych yn bwriadu rhoi cychwyn ar lapio anrhegion, nodwch ein bod wedi gwneud newidiadau i sut rydych yn cael gwared ar bapur lapio.

Yn aml mae gan bapur lapio gynnwys inc uchel iawn, mae'n cynnwys ychwanegion heblaw papur fel glitter, plastigau, siapiau lliw aur ac arian na ellir eu hailgylchu. Mae eraill yn denau iawn ac yn cynnwys dim ond ychydig o ffibrau o ansawdd da i'w hailgylchu. Mae'r cynnyrch hwn yn aml yn cael ei wrthod yn ystod y broses ailgylchu. Yn y gorffennol gwnaethom ei wahanu oddi wrth ddeunydd arall yn ein cyfleuster ailgylchu, ond nid yw hyn yn bosibl mwyach oherwydd mesurau pellter cymdeithasol.

Fel rhan o'n hymrwymiad i wella ansawdd y deunydd sydd ar gael i'w ailgylchu, ni fyddwn yn derbyn papur lapio mwyach - oni bai ei fod yn bapur lapio brown plaen - mewn bagiau ailgylchu gwyrdd.

Fodd bynnag, rydym yn deall bod gan breswylwyr lawer iawn o bapur lapio dros gyfnod y Nadolig, felly rydym yn cynnig dewis arall.

Os gallwch chi ffitio'ch papur lapio yn eich bin du neu fag stribed coch, mae hynny'n wych, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall. Dim ond ei adael allan i'w gasglu.

Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw bapur lapio gormodol ar ôl llenwi'ch bin neu'ch bag stribed coch, wedyn am wythnosau'n dechrau 28ain Rhagfyr a 4ydd Ionawr yn unig, rhowch y papur lapio gormodol hwn mewn bag bin du a'i roi wrth ymyl eich bin du neu bagiau stribed coch a bydd ein criwiau yn ei gasglu.

Peidiwch â rhoi unrhyw beth heblaw papur lapio a chynhyrchion lapio eraill e.e., bwâu, llinyn ac ati yn y bagiau hyn, oherwydd efallai na fydd y criwiau yn eu codi os ydyn nhw'n cynnwys gwastraff cartref neu wastraff cyffredinol arall.

 

• Gallwch chi ailgylchu papur lapio brown plaen yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd o hyd, ond tynnwch unrhyw sellotape, bwâu a thagiau ac ati i gael gwared â'ch gwastraff cyffredinol.

 

• Dim ond ar eich wythnos casglu gwastraff gyffredinol y bydd y bagiau â gwastraff lapio nad ydynt yn ffitio i'ch biniau du neu fagiau stribed coch yn cael eu casglu - yr un diwrnod â'ch casgliad bin du neu fagiau stribed coch.

• Ni fydd bagiau ailgylchu gwyrdd sy'n cynnwys unrhyw bapur lapio nad yw'n lapio brown plaen yn cael eu casglu. Fel y nodwyd uchod gallwch chi roi papur lapio brown plaen mewn bagiau ailgylchu gwyrdd gydag deunyddiau ailgylchadwy eraill.

 

Rhannwch y neges hon gyda'ch teulu, ffrindiau a chymdogion a gydag unrhyw un rydych chi'n eu hadnabod nad ydyn nhw ar gyfryngau cymdeithasol.

Os ydych chi'n archebu ymweliad â'n canolfannau ailgylchu dros gyfnod y Nadolig, ewch â'ch papur lapio wedi’i defnyddio gyda chi. Archebwch eich ymweliad yma: https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/canolfannau-ailgylchu/Pages/default.aspx