The essential journalist news source
Back
27.
November
2020.
Coblynnod Covid yn ceisio cadw Caerdydd yn ddiogel y Nadolig hwn

27/11/20

Cyn bo hir, bydd corachod bach lliwgar Nadolig yn lledaenu hwyl yr ŵyl a negeseuon diogelwch Covid-19 coblyn o bwysig yng nghanol dinas Caerdydd. 

Mewn amrywiaeth o wisgoedd Nadoligaidd bydd gan yr wyth corrach, ochr yn ochr â thîm o 12 stiward diogelwch, neges bwysig i ymwelwyr - cadw Caerdydd yn ddiogel y Nadolig hwn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Rydyn ni eisiau i'r Nadolig yng Nghaerdydd fod yn llawn hwyl yr ŵyl, ac mae'r Coblynnod Covid yn cynnig ffordd gyfeillgar, ysgafn o gyflwyno neges wirioneddol bwysig.

"Y Nadolig yw tymor ewyllys da ac yn unol â'r ysbryd hwnnw bydd y tîm yn gofyn i bobl ddilyn y rheolau a chadw ei gilydd, a Chaerdydd yn ddiogel."

Fel rhan o'r ymgyrch i helpu i gadw Caerdydd yn ddiogel y Nadolig hwn, cynghorir ymwelwyr i:

  • Gynllunio'ch taith o flaen llaw- a gwybod i ble rydych chi'n bwriadu mynd. Os ydych chi'n mynd i'r Marchnadoedd Nadolig traddodiadol, Canolfan Dewi Sant neu'r arcedau Edwardaidd a Fictoraidd, mae cynllunio teithiau o flaen llaw yn ffordd dda o gadw'n ddiogel y Nadolig hwn.
  • Meddyliwch pryd byddwch chi'n mynd -mae'rpenwythnosau'n tueddu i fod yn brysurach, felly er mwyn siopa heb y torfeydd, ystyriwch ymweld yn ystod yr wythnos.
  • Cadwch eich pellter -cadw pellter o 2 fetr rhyngoch chi ac eraill yw un o'r ffyrdd gorau o gadw'n ddiogel y Nadolig hwn. Gall pawb chwarae eu rhan yn hyn drwy ddilyn y marciau ar y stryd.
  • Gwisgwch eich mwgwd o hyd -mae gwisgo gorchudd wyneb y tu mewn bellach yn ofyniad cyfreithiol ym mhob man cyhoeddus dan do, ond ar gyfer Nadolig mwy diogel yng Nghaerdydd ystyriwch ei wisgo y tu allan hefyd, yn enwedig mewn ciwiau.
  • Meddyliwch am eraill -Mae'r Nadolig yn gyfnod o ewyllys da i bob dyn (a menyw) a'r ffordd orau o gadw Cymru'n ddiogel y Nadolig hwn yw i bawb chwarae eu rhan, dilyn y rheolau a gwneud eu gorau i gadw ei gilydd yn ddiogel.

I gael rhagor o wybodaeth am gadw'n ddiogel yng Nghaerdydd y Nadolig hwn, ewch i:https://www.croesocaerdydd.com/