The essential journalist news source
Back
26.
November
2020.
Bwrdd iechyd i weithredu canolfannau brechu Covid-19 yn adeiladau’r Cyngor ym Mhentwyn a Sblot
Bydd canolfannau brechu Covid-19 yn cael eu sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Pentwyn a chanolfan STAR gynt yn Splott Road fel rhan o gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i ddarparu rhaglen frechu dorfol ar gyfer Caerdydd.

Bydd y bwrdd iechyd yn defnyddio dau leoliad y Cyngor i roi brechlyn i drigolion Caerdydd dros gyfnod o 12 mis.

Nid oes dyddiad wedi'i bennu eto ar gyfer pryd y bydd brechu’n cychwyn, ond bydd gwaith paratoi'r canolfannau yn dechrau er mwyn bod yn barod i agor eu drysau cyn gynted ag y bo eu hangen. Pan fydd y canolfannau ar waith, bydd brechu’n digwydd saith diwrnod yr wythnos.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r bwrdd iechyd wedi dewis y ddau leoliad hyn, y mae'n teimlo bod y cyfleusterau angenrheidiol ynddynt ac maent mewn sefyllfa ddelfrydol yn y ddinas i’w helpu i gyflwyno ei raglen frechu. Mae gallu brechu cymaint o'r boblogaeth â phosibl, cyn gynted â phosibl yn hanfodol – y cyflymaf a’r mwy effeithiol y gellir ei wneud, y mwyaf o fywydau y gellir eu hachub, ond hefyd y cyflymaf y gall Caerdydd ddechrau adfer yn llawn wedi effaith Covid-19.

"Bydd defnyddwyr cofrestredig y ganolfan yn gallu parhau i ddefnyddio cyfleusterau Better eraill yng Nghaerdydd, ond gwyddom y bydd hyn yn anghyfleustra i drigolion sy'n defnyddio Canolfan Hamdden Pentwyn sydd wedi bod ar gau i'r cyhoedd drwy’r pandemig. Fodd bynnag, hoffwn sicrhau'r trigolion hynny y bydd cyfleuster hamdden ym Mhentwyn o hyd, pan fydd hyn i gyd drosodd, ac nad oes angen yr adeilad ar y GIG mwyach.

"Yn wir, er bod yr adeilad ar gau i ddefnyddwyr hamdden er mwyn galluogi creu'r ganolfan frechu dorfol, rydym yn edrych i weld a allwn ni fanteisio ar y cyfle i fuddsoddi rhywfaint i foderneiddio’r cyfleuster.

“Os gallwn ni nodi rhywfaint o arian yn y gyllideb, byddwn ni’n llunio cynlluniau i’w trafod gyda’r gymuned leol ond mae’r opsiynau rydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd yn cynnwys campfa fwy wedi’i huwchraddio, gwelliannau i’r caeau awyr agored, a newidiadau i’r pwll i’w wneud yn well ar gyfer nofio a dysgu sut i nofio.

Mae cyfleusterau hamdden diogel eraill, gan gynnwys Canolfannau Hamdden y Dwyrain, a gafodd ei hadnewyddu yn ddiweddar, a’r Tyllgoed, a weithredir gan GLL, ar gael i drigolion lleol eu defnyddio tra bydd Canolfan Hamdden Pentwyn ar gau. 

Cafodd canolfan STAR gynt ar Splott Road ei chau yn 2016 pan gafodd yr Hyb STAR newydd ei hagor ar Muirton Road. Cafodd y cyfleuster ar Splott Road ei brydlesu i’r bwrdd iechyd ym mis Mawrth ac mae’n cael ei ddefnyddio at ddibenion profi Covid-19 ar hyn o bryd.