The essential journalist news source
Back
18.
November
2020.
Cymeradwyo cynlluniau i Ysgol Uwchradd newydd Fitzalan

 

18/11/2020

Heddiw mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd ar dir ger Stadiwm Lecwydd yn ardal Treganna. 

Mae'r datblygiad yn fuddsoddiad gwerth £63.5m yn y gymuned leol a bydd Ysgol Uwchradd bresennol Fitzalan yn cael ei disodli gan ysgol fynediad 10 dosbarth newydd, a fydd yn cynnwys hyd at 1,500 o fyfyrwyr rhwng 11 ac 16 oed, ynghyd â chweched dosbarth.

Bydd yr ysgol newydd hefyd yn cynnig cyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr, gan gynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, caeau 3G a phwll nofio dan do newydd yn lle'r pwll nofio presennol sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn helaeth gan ysgolion lleol a grwpiau cymunedol. Bydd y cyfleusterau hyn a rhai eraill yn yr ysgol ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.  

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae hyn yn nodi'r cam nesaf yng ngwaith datblygu'r project diweddaraf i gael ei gyflawni dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B £284m Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

"Mae manteision disodli Ysgol Uwchradd Fitzalan, sydd mewn cyflwr gwael ac sy'n agosáu at ddiwedd ei hoes weithredol yn, o ran dysgu ac addysgu.  Fodd bynnag, bydd ysgol o'r radd flaenaf gydag amwynderau modern hefyd yn cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous i bobl leol, ac yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn yr ardal gyfagos.

"Bu'r ymgynghoriad cyhoeddus yn y cyfnod cyn cymeradwyo cynllunio yn rhan allweddol yn natblygiad yr ysgol newydd a dangosodd adborth calonogol gan aelodau o'r cyhoedd eu cydnabyddiaeth o'r cyfleoedd a fydd ar gael i'r gymuned leol."

Dywed Jason Taylor, cyfarwyddwr gweithrediadau Kier Regional Building Western & Wales: "Rydym wrth ein boddau bod y cynlluniau wedi'u cymeradwyo ar gyfer ysgol uwchradd Fitzalan a gallwn gefnogi Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru drwy ddarparu ysgol a fydd yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf i'w disgyblion a'i staff. Mae gennym brofiad helaeth yn y sector addysgol a thrwy raglen ysgolion yr 21ainganrif rydym wedi helpu i drawsnewid lleoliadau addysg gynradd ac uwchradd trwy dde Cymru.

"Rydym yn llwyr gefnogi uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac rydym yn ymrwymo i adael etifeddiaeth barhaol yn yr ardaloedd lle rydym yn adeiladu, sy'n golygu y byddwn yn darparu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth yn ogystal ag ymgysylltu â thrigolion lleol trwy gydol cyfnod adeiladu ysgol uwchradd Fitzalan,."

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cais Cynllunio am bedair wythnos rhwng 7 Gorffennaf a 4 Awst 2020 a gwahoddwyd y cyhoedd i rannu eu barn.

Mae'r caniatâd cynllunio llawn wedi'i roi ar gyfer y canlynol:

  • Codi adeilad ysgol uwchradd 3 llawr i ddarparu lleoedd i 1850 o ddisgyblion
  • Pwll nofio cymunedol newydd
  • Darparu 2 AChA
  • Darparu 1 cae 3G rygbi/pêl-droed
  • Darparu 1 cae hoci/pêl-droed dan 16 oed
  • Maes parcio i staff (47 o fannau parcio) a maes parcio i ymwelwyr (24 man gan gynnwys 8 lle i bob anabl)
  • Ardaloedd chwarae arwyneb galed a meddal

 

Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r datblygiad ym mis Mawrth 2020. Roedd y rhain yn cynnwys y gwaith canlynol a fydd yn cael ei gwblhau yn ystod haf 2021.  

  • Ail-leoli'r Gromen Aer i dir y tu ôl i Stadiwm Lecwydd;
  • Cae pêl-droed glaswellt newydd o safon Haen 2, (heb lifoleuadau);
  • Cae pêl-droed rygbi 3G newydd;
  • Ail-leoli'r cae taflu;
  • Codi adeilad ystafelloedd newid 2 lawr (gyda 3 ystafell ddosbarth gymunedol ar y llawr cyntaf ac 1 ar y llawr gwaelod);
  • Codi adeilad ystafelloedd newid un llawr;
  • Cae 5 (i'w ddefnyddio ar gyfer criced);
  • Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA 16 a 17; a
  • Darparu maes parcio newydd a stondinau beiciau ar gyfer parcio cymunedol. 

Yn amodol ar gaffael, disgwylir i gwaith adeiladu'r ysgol newydd ddod i ben ym mlwyddyn academaidd 2022/2023.