The essential journalist news source
Back
17.
November
2020.
Datganiad ar y Cyd ar gyfer Caerdydd ac Abertawe - Atyniadau'r Llwybr Iâ

17/11/20

Yn dilyn diweddariad cyngor iechyd cyhoeddus gan swyddfa Prif Swyddog Meddygol Cymru dros y penwythnos, penderfynwyd y bydd atyniadau'r llwybr iâ, a oedd i fod i agor yng nghanol dinasoedd Caerdydd ac Abertawe, yn aros ar gau i'r cyhoedd.

Mae'r ddau awdurdod lleol yn deall y bydd hyn yn siom i breswylwyr a hoffent ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi. Fodd bynnag, diogelwch pawb yn ystod y pandemig yw ein blaenoriaeth o hyd ac mae'n bwysig ein bod yn dilyn y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. Bydd unrhyw un sydd wedi archebu a thalu am slot ar y llwybr iâ yn cael ad-daliad llawn gan y trefnwyr. Nid oes angen i gwsmeriaid wneud unrhyw beth i gael yr ad-daliad, caiff ei weithredu yn awtomatig. Cofiwch y gall gymryd hyd at 5 diwrnod i ymddangos yn eich cyfrif.

Mae'r elfennau bwyd a diod eisoes ar agor. Rhagwelir y bydd yr atyniadau Nadolig eraill yn agor yn y ddwy ddinas yn y dyddiau nesaf.