The essential journalist news source
Back
16.
November
2020.
Llechi cyfrifiadurol am ddim i drigolion Caerdydd sydd ar incwm isel

16/11/20

Mae gwasanaeth Cynghori Cyngor Caerdydd bellach yn lansio Cynllun Rhoi Llechen Gyfrifiadurol am ddim gyda mynediad i'r rhyngrwyd i unigolion sydd heb ddyfais na chysylltiad rhyngrwyd gartref.

Bydd pob dyfais yn cael ei lwytho gydag amrywiaeth o apiau a llwybrau byr perthnasol i sicrhau y gallant wneud y gorau o bob dyfais. 

Mae amrywiaeth o weithgareddau digidol a gwasanaethau cymorth wrth law hefyd i'w harchwilio, gan gynnwys; Cyrsiau a Hyfforddiant Dysgu Oedolion Ar-lein, Clwb Swyddi Digidol gyda'r Gwasanaethau i Mewn i Waith a llu o weithgareddau Iechyd a Lles a gynhelir gan y gwasanaeth Hybiau a Llyfrgelloedd.

Dim ond i drigolion Caerdydd sy'n bodloni'r meini prawf isod y mae'r dyfeisiau hyn ar gael:

Y rhai heb fynediad i ddyfais ddigidol neu fand eang gartref A

Mae eu hiechyd a'u llesiant yn dioddef gan eu bod yn teimlo'n ynysig NEU

Maent am gael hyfforddiant neu am chwilio am waith ar-lein A

Maent yn derbyn budd-daliadau neu ar incwm isel 

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau:  "Gall cael mynediad i'r rhyngrwyd fod yn achubiaeth yn ystod y cyfnod ansicr hwn.  Mae cymaint o gymorth a chyngor ar-lein ar gael er mwyn helpu i ddod o hyd i waith, cael cyngor os ydynt yn profi caledi ariannol neu ar gyfer y rhai sydd am gadw'n brysur a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein. 

Ar adeg pan fo mwy o bobl yn aros gartref, nod y cynllun yw helpu pobl i gadw mewn cysylltiad â'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, yn ogystal â chynnal cysylltiadau cymdeithasol i gefnogi eu llesiant."  

I wneud cais am lechen, dylai trigolion cymwys Caerdydd gysylltu â'r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071. Gall cynghorwyr helpu unigolion i gael gafael ar ddyfais y gallant ei defnyddio gartref am ddim.  Mae ceisiadau'n amodol ar gymhwysedd ac oherwydd y nifer penodol o ddyfeisiau, ni roddir gwarant o dderbyn dyfais.