The essential journalist news source
Back
9.
November
2020.
• Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad i oleuo’r wybren uwch Caerdydd ar Ddiwrnod y Cadoediad “Heb ei Debyg”
Ar gyfer 11 Tachwedd, Diwrnod y Cadoediad heb ei debyg, bydd CBRhG yn goleuo’r awyr uwch Caerdydd i goffáu’r 1.7 miliwn o feirwon rhyfel yn y Gymanwlad fel rhan o weithgareddau Coffa #ShineOn. 

#ShineOn yw digwyddiad Coffa cynhwysol, hygyrch a digidol CBRhG sydd am ddim ac yn agored i bawb.

Drwy brofiad rhithiol ar wefan CBRhG, gan ddefnyddio cofnodion helaeth y Comisiwn a’i gyfleuster chwilio, gall y cyhoedd enwi sêr ar ôl un o’r 1.7 miliwn o’r Gymanwlad a fu farw ac sydd dan ofal CBRhG. Yna mae CBRhG yn annog pawb i oedi am ennyd am 7pm 11 Tachwedd 2020 i gamu tu allan i’w cartrefi, edrych ar y sêr a chofio’r rhai a fu farw.

Mewn rhai lleoliadau allweddol, gan gynnwys llain beddau rhyfel CBRhG ym Mynwent Cathays Caerdydd, bydd goleuadau’n lliwio awyr y nos ar noson y Cadoediad o fynwentydd a chofebion CBRhG, nid i annog torfeydd, ond i ddangos, hyd yn oed yn ystod y cyfnod tywyll hwn, na chaiff golau’r cofio fyth ei ddiffodd.

Bydd y goleuadau i'w gweld am filltiroedd ac anogir y rhai sy'n byw'n lleol i edrych i'r awyr am 7pm a gwylio o ddiogelwch eu cartref. Nid denu torfeydd yw’r nod gyda’r goleuo hwn.

Mae Mynwent Cathays Caerdydd yn orffwysfa i dros 700 o filwyr y Gymanwlad a’r Cynghreiriaid o’r ddau Ryfel Byd. Er bod pobl o Awstralia, Canada a Seland Newydd ymhlith y sawl a gynrychiolir, mae dros hanner y meirwon rhyfel sydd yma yn feibion ac yn ferched i deuluoedd lleol.

Eglurodd Cyfarwyddwr Cyffredinol CBRhG, Mr Barry Murphy: "Ers dros ganrif, rydym wedi ymgynnull ar yr un pryd ar yr un diwrnod, i blygu ein pennau ac i feddwl am y rhai a aberthodd eu bywydau drosom ni, yn ystod y ddau ryfel byd. Ond mae eleni’n wahanol.

"Er na allwn ddod at ein gilydd yn bersonol, gallwn barhau i wneud yn siŵr bod golau eu henwau'n parhau’n ddisglair. Nid dim ond am un diwrnod, ond am yr holl ddyddiau (a nosweithiau) i ddod.  Felly, eleni, ar Ddiwrnod y Cadoediad, byddwn yn edrych i fyny at y sêr gyda’r nos i gofio'r rhai a syrthiodd. Pob un o'r 1.7 miliwn ohonynt. 

"Rwy’n annog y cyhoedd i ymuno â ni drwy ddewis enwi seren i goffáu rhywun ac edrych i fyny i awyr y nos am 7pm ar 11.11.20 i gofio'r person hwnnw a phob un a fu farw yn ystod y ddau ryfel byd. Gyda'n gilydd, gallwn wneud yn siŵr bod eu henwau’n parhau i ddisgleirio yn y cof."

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Profedigaeth, y Cyng. Michael Michael, "Mae Diwrnod y Cadoediad yn amser i fyfyrio ar yr aberth enfawr a wnaed gan y dynion a'r menywod sydd wedi gwasanaethu, ymladd a marw dros ein gwlad. Eleni, mae i'r ymdeimlad hwnnw o fyfyrio, ac aberth ystyr ychwanegol, ond mae amgylchiadau'n golygu nad yw llawer o bobl wedi gallu coffáu yn y modd yr hoffent ei wneud.

"Rydym yn falch o allu cefnogi'r weithred goffa unigryw hon ym Mynwent Cathays a gobeithiwn y bydd trigolion yn ymuno â ni wrth i ni edrych ar y sêr i gofio'r rhai a syrthiodd a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n parhau i ddisgleirio."

I ymuno â menter Cofio CBRhG, ewch i www.cwgc.org/ShineOn ac enwi seren er cof.

Crëwyd Shine On mewn ymateb i amgylchiadau unigryw'r cyfnod coffa hwn.  Ni fydd torfeydd wrth y Senotaff na'r cofebion rhyfel, ac ni fydd llawer ohonom yn ein mannau gwaith arferol i gynnal distawrwydd o ddwy funud ymhlith ein gilydd. Er gwaethaf hyn, mae CBRhG am sicrhau ar Ddiwrnod y Cadoediad ein bod yn dal i gymryd yr amser i gofio'r rhai a syrthiodd.

Mae CBRhG wedi ymrwymo i goffáu'r 1.7 miliwn o ddynion a menywod y Gymanwlad a fu farw yn ystod y rhyfeloedd byd ac mae’n gyfrifol am ofalu am gofebion a mynwentydd rhyfel y Gymanwlad a'u cynnal mewn 23,000 o leoliadau mewn dros 150 o wledydd a thiriogaethau.