The essential journalist news source
Back
5.
November
2020.
Diweddariad COVID-19: 5 Tachwedd

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd, a diweddariad ar achosion COVID-19 sy'n effeithio ar ysgolion.

Arhoswch gartref i achub bywydau.

Darllenwch y rheolau ar-lein

https://llyw.cymru/coronafeirws

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod Diwethaf

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r data'n gywir ar:

4 Tachwedd

 

Achosion: 1,049

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 285.9 (Cymru: 260.7 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,296

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,443.4

Cyfran bositif: 19.8% (Cymru: 19.1% cyfran bositif)

 

Prifysgol Caerdydd - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/coronavirus/covid-19-case-numbers

Prifysgol De Cymru - Nifer yr achosion o COVID-19:

https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/newyddion/trosolwg-coronafeirws/

 

Y diweddaraf am ysgolion yr effeithir arnynt gan COVID-19: 5.11.20

Ysgol Gynradd Crist y Brenin

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Crist y Brenin. Mae 29 o ddisgyblion o'r Dosbarth Derbyn a 5 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.  

Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig

Mae dau achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-graig. Mae 57 o ddisgyblion Blwyddyn 2, 55 o ddisgyblion Blwyddyn 6 ac 11 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19.  

Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf

Mae achos positif o COVID-19 wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf. Mae 32 o ddisgyblion Blwyddyn 7 wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunan-ynysu am 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu nodi fel cysylltiadau agos i'r achos a gadarnhawyd o COVID-19. Nid oes angen i unrhyw aelodau o staff hunan-ynysu gan fod mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith.