05/11/20
e symbolau pabi wedi'u paentio ar ffyrdd ochr wrth ymyl cofebion rhyfel mewn un ar ddeg o leoliadau ledled Caerdydd, fel arwydd o barch at y milwyr sydd wedi gwasanaethu, ymladd a marw dros eu gwlad.
Mae'r pabïau coch, gyda'r capsiwn dwyieithog 'Yn angof ni chânt fod' oddi tanynt, yna i atgoffa pawb sy'n pasio i dalu teyrnged ar Sul y Cofio.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Eleni, oherwydd y pandemig parhaus a'r cyfyngiadau ar niferoedd, prin yw'r cyfleoedd i bobl ymweld â gorymdeithiau, gosod torchau a thalu teyrnged.
"Mae'r marciau wedi'u rhoi ar ffyrdd ochr ar draws y ddinas fel symbol, felly gallwn gyda'n gilydd dalu teyrnged i bawb sydd wedi gwasanaethu a cholli eu bywydau mewn gwrthdrawiadau, ddoe a heddiw.
"Gyda'r golled drist o fywyd yn ystod y pandemig eleni, mae hefyd yn gyfle i feddwl am bawb y mae'r coronafeirws wedi effeithio arnynt, yn enwedig staff, nyrsys a meddygon sy'n ymladd y feirws ar y rheng flaen mewn ysbytai ledled y wlad.
"Oherwydd y cyfyngiadau sydd ar waith oherwydd y pandemig, prin oedd y cyfle hefyd i gasglu arian a rhoi i Apêl y Pabi. Gellir gwneud hyn ar-lein ac rwy'n annog pawb iroios ydynt yn gallu gwneud hynny."
Bydd pob un o'r marciau llawr yn eu lle erbyn fory (5 Tachwedd), a chânt eu darparu a'u hariannu gan Roman Road Markings. Mae dau farc wedi'u paentio ar ffyrdd ochr ger y Gofeb Ryfel Genedlaethol yng Ngerddi Alexandra, yn ogystal ag yn Grangetown, Llandaf, yr Eglwys Newydd, Llys-faen, Llaneirwg, Radur, Tredelerch a Rhiwbeina.
OherwyddRheoliadau Coronafeirws Llywodraeth Cymru sy'n gosod cyfyngiadau ar gasgliadau cyhoeddus awyr agored, ni fydd mynediad cyhoeddus i'r Gofeb Ryfel Genedlaethol a Gerddi Alexandra o'i hamgylch fore Sul, 8 Tachwedd.
Mae trefniadau wedi'u gwneud eleni a fydd yn caniatáu i aelodau o'r cyhoedd gymryd rhan yng Ngwasanaeth Coffa Cenedlaethol Cymru, yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.
Am y tro cyntaf, bydd y gwasanaeth ar gael i'w wylio'n fyw ar sianel YouTube Cyngor Caerdydd. Bydd y darllediad yn dechrau o 10.50am ddydd Sul 8 Tachwedd ynwww.youtube.com/cardiffcouncil.
Bydd y darllediad o'r Gofeb Ryfel Genedlaethol yng Nghaerdydd yn dangos gwasanaeth bach â mesurau ymbellhau cymdeithasol, a gynhelir gan y Parchedig Ganon Stewart Lisk.
Darllenwch fwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/25097.html
Mae'r marciau ffordd wedi'u gosod yn y lleoliadau canlynol:
- Gerddi Alexandra
- Homesdale Streef - Gerddi'r Faenor
- Lawnt y Gadeirlan - Llandaf
- Penlline Road - Yr Eglwys Newydd
- Lisvane Road - Llys-faen
- Chapel Row - Llaneirwg
- Heol Isaf - Radur
- Wentloog Road - Tredelerch
- Lôn Ucha - Rhiwbeina
- Beaumaris Road - Tredelerch