3/11/20
Mae’r Cyngor yn gofyn i bobl Grangetown rannu eu barn ar ailddatblygiad arfaethedig ystâd Trem y Môr.
Yn dilyn ymgysylltiad
helaeth â thrigolion ar yr ystâd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae ymgynghoriad cymunedol
ehangach yn cael ei gynnal ar
hyn o bryd yn gwahodd trigolion sy’n byw gerllaw, pobl sy'n gweithio yn y ward,
busnesau a sefydliadau lleol i wneud sylwadau ar gynlluniau i adfywio'r rhan
hon o Grangetown i ddarparu tai newydd i breswylwyr presennol a newydd.
Bydd ailddatblygu'r ystâd yn creu cyfuniad o dai ac eiddo fforddiadwy o
ansawdd uchel ac eiddo i'w gwerthu ar y farchnad agored, yn ogystal â gwell
cysylltedd i bobl sy'n byw yn yr ardal â thrafnidiaeth gyhoeddus, cyfleusterau
lleol, mannau cyhoeddus a rhannau eraill o'r ddinas. Mae'r cynigion adfywio yn
cyfrannu at darged y Cyngor o ddarparu 2,000 o gartrefi cyngor newydd y mae
mawr eu hangen ar gyfer y ddinas.
Cynhyrchwyd uwchgynllun yn dangos sut y gellid ailddatblygu'r ystâd yn
ogystal â'r manylion ar gyfer cam cyntaf yr ailddatblygiad sy'n canolbwyntio ar
amnewid y bloc twr uchel presennol.
Mae'r Cyngor yn awyddus i glywed gan drigolion yr
ystâd eto yn ogystal â phobl o'r gymuned ehangach am y cynlluniau a fyddai'n
creu tua 400 o gartrefi newydd, gan gynnwys llety i bobl hŷn, ac ardal
gyhoeddus fwy dymunol. Oherwydd effaith y pandemig cenedlaethol ni all y cyngor gynnal
digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd wyneb yn wyneb ac felly mae proses
ymgynghori ar-lein ar y gweill trwy gydol mis Tachwedd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y
Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae Trem y Môr yn gymuned gref a bywiog o fewn
Grangetown ond mae nifer o broblemau o ran cyflwr yr ystâd bresennol felly rydyn
ni’n awyddus i fwrw ymlaen gyda’r adfywiad cyffrous hwn er budd yr ardal gyfan.
"Bydd ein cynigion yn creu amgylchedd lleol
mwy deniadol i bawb, gyda phensaernïaeth drawiadol a phwyslais cryf ar greu
lleoedd ac ymgorffori seilwaith arloesol, gwyrdd.
"Gan ddefnyddio dulliau adeiladu cwbl gyfoes, bydd y cynlluniau hyn
yn creu eiddo fforddiadwy o ansawdd uchel gyda safonau ynni uchel i helpu i
fynd i'r afael â'r galw sylweddol am dai yn y ddinas. Rydyn
ni wedi ymrwymo i gynnwys pobl leol drwy gydol proses ddylunio a datblygu'r
cynllun cyffrous hwn ac rydyn ni am annog trigolion, busnesau ac unrhyw un sydd
â diddordeb yn y maes hwn i rannu eu barn gyda ni."
Gall pobl ddarganfod mwy a dweud eu dweud ar y cynigion drwy ymweld â
Mae arolwg ar-lein hefyd ar gael yn https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=159645982140
Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan dd