The essential journalist news source
Back
29.
October
2020.
Diweddariad: Cymorth digidol ychwanegol i blant ysgol Caerdydd


29/10/2020

Cyn diwedd tymor yr Hydref bydd pob ysgol brif ffrwd yng Nghaerdydd yn cael swp o ddyfeisiau Chromebook newydd sy'n cyfateb i grŵp blwyddyn lawn o ddisgyblion yn eu hysgol.  Bydd cyfanswm o 10,000 o ddyfeisiau newydd yn cael eu dosbarthu i ysgolion ledled y ddinas.  Bydd hyn yn helpu ysgolion i ddarparu dysgu ar-lein a dysgu cyfunol, tra y gallai absenoldeb effeithio ar blant oherwydd COVID-19.

 

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd 4,800 Chromebook yn cael eu cyflwyno i ysgolion gyda'r gweddill i'w cyflwyno tua diwedd mis Tachwedd.

 

Mae hyn yn ychwanegol i'r 6,500 o ddyfeisiau digidol a 2,000 o ddyfeisiau band eang 4G sydd eisoes wedi'u darparu i blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd y nodwyd eu bod yn ddifreintiedig yn ddigidol a 3,000 o ddyfeisiau digidol a ddarparwyd i staff addysgu, ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae absenoldeb o'r ysgol oherwydd COVID-19 yn golygu y bydd angen i ddisgyblion dderbyn eu haddysg drwy ddull dysgu cyfunol sy'n cyfuno deunyddiau addysgol ar-lein â dulliau traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth.  Felly, mae'n hanfodol bod darpariaeth ddigidol dda ar gael i ddisgyblion a'n gweithlu. 

"Mae gofynion sy'n ymwneud â hunanynysu a materion a achosir gan gloi neu atal byr yn lleol yn golygu bod cynnydd cyffredinol yn y galw am ddyfeisiau digidol felly drwy gynyddu'n sylweddol y cyflenwad o ddyfeisiau i ysgolion, gobeithiwn helpu i fynd i'r afael ag anghenion plant a phobl ifanc Caerdydd."

 

"Mae sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael gafael ar ddarpariaeth ddigidol wedi bod yn rhan o strategaeth hirdymor ar gyfer Caerdydd, a oedd i fod i gael ei rhoi ar waith yn ddiweddarach eleni ond sydd wedi'i chyflwyno'n gynt yn sgil yr anghenion a grewyd gan y pandemig. Mae'r ateb hirdymor hwn yn golygu bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael yr un cyfleoedd ac na fyddant yn colli allan ar ddysgu a ddarperir ar-lein."