29/10/2020
Bydd Caerdydd yn elwa o strydoedd glanach o dan gynlluniau newydd i newid y ffordd y cesglir gwastraff ac a deunyddiau ailgylchadwy ar draws y ddinas.
Dywed Cyngor Caerdydd y bydd cyflwyno rowndiau casglu newydd ar draws y ddinas yn arwain at:
- Gasgliadau gwastraff ac ailgylchu'r strydoedd erbyn 3.45pm;
- Strydoedd glanach; a
- Diwedd y dryswch i breswylwyr pan fydd diwrnodau casglu yn cael eu gwthio i'r diwrnod nesaf ar wythnosau Gŵyl y Banc.
O dan y drefn newydd bydd y Cyngor yn mabwysiadu model casglu un sifft pedwar diwrnod yr wythnos. Bydd hyn yn galluogi casgliadau rhwng 6am a 3.45pm ar ddyddiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener.
Bydd pob casgliad preswyl ar ailgylchu, gwastraff bwyd a gwastraff cyffredinol ar ddydd Llun yn peidio.
Disgwylir i'r system newydd fod ar waith erbyn mis Chwefror, 2021. Bydd yn golygu y bydd yn rhaid ail-gydbwyso rowndiau casglu ar draws y ddinas gyda thua 85,000 o eiddo yn gweld newidiadau i'w diwrnodau casglu presennol.
Bydd preswylwyr yn cael gwybod am union fanylion y newidiadau drwy lythyr ym mis Ionawr. Bydd gwybodaeth ar gael bryd hynny hefyd ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y cyngor, ar wefan y cyngor ac ar ap y cyngor.
Dwedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân ac Ailgylchu: "Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu gwneud y newid hwn ac rwyf am ddiolch i'r Undebau a'n staff sydd wedi cytuno i'r trefniant newydd. Maent wedi gwneud gwaith rhagorol yn cadw'r ddinas yn lân drwy'r pandemig, ond gwyddom y bydd y system newydd hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n trigolion ac y bydd yn gwella golwg strydoedd a glendid ar draws y ddinas.
"Ar hyn o bryd mae casgliadau'n rhedeg rhwng 6am a 10pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae honno'n ffenestr enfawr i wastraff fod allan ar y stryd, pan all gwylanod neu blâu ymosod arno. Bydd y system gasglu newydd hon yn gweld gwastraff oddi ar y stryd cyn 3.45pm ar y pedwar diwrnod yr wythnos y byddwn yn ei gasglu. Bydd pobl yn dychwelyd adref o'r gwaith i strydoedd glanach heb fagiau na gwastraff allan ar y stryd. Dylai wneud gwahaniaeth enfawr ar draws y ddinas."
Er mwyn gwneud i'r system gasglu newydd weithio bydd angen 24 o lorïau sbwriel ychwanegol. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn rhedeg 39 ond bydd y fflyd yn awr yn cynyddu i 68, gan gynnwys cerbydau wrth gefn.
Bydd y cynllun cyfathrebu yn gweld preswylwyr yn derbyn:
- Llythyr i bob cartref yn esbonio pam fod y newidiadau'n digwydd a'r hyn mae'n ei olygu i'w diwrnod casglu.
- Taflen yn atgoffa preswylwyr o'r eitemau cywir i'w rhoi mewn bagiau ailgylchu gwyrdd/cynwysyddion gwastraff gardd
- Cerdyn gyda gwybodaeth am y newidiadau y gall y preswylydd eu cadw i'w pinio ar hysbysfwrdd neu eu rhoi yn y cartref i'ch atgoffa
- Cyfryngau cymdeithasol wedi'u targedu ar draws y ddinas a straeon ar wefannau'r cyngor
- Gwybodaeth am y newidiadau ym mhob un o'r hybiau
- Gwybodaeth ddigidol ar wefan Caerdydd, Ap Gov Caerdydd, ac ar sgyrsfot ar-lein y cyngor.
Disgwylir newidiadau i ddiwrnodau casglu Wardiau ym mis Chwefror 2021 - Dyddiadau terfynol i'w cyhoeddi. Er mwyn bod yn weithredol effeithlon, efallai y bydd angen casglu rhai strydoedd yn Sblot, y Mynydd Bychan a Phen-y-lan ar ddiwrnod gwahanol i weddill y ward. Bydd yr holl aelwydydd yr effeithir arnynt yn cael eu hysbysu gan lythyr.
Ward | Diwrnod Casglu Cyfredol | Diwrnod Casglu Newydd | Eiddo |
Creigiau | Dydd Llun | Dydd Mawrth | 2255 |
Sain Ffagan | Dydd Llun | Dydd Mawrth |
|
Radur/Pentre-poeth | Dydd Llun | Dydd Mawrth | 2736 |
Y Tyllgoed | Dydd Llun | Dydd Mawrth | 5321 |
Pentyrch | Dydd Llun | Dydd Mawrth | 1519 |
Trelái | Dydd Llun | Dydd Mawrth | 5890 |
Caerau | Dydd Llun | Dydd Mawrth | 4304 |
Tongwynlais | Dydd Llun | Dydd Gwener | 701 |
Treganna | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | 6698 |
Ystum Taf | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | 3221 |
Llandaf | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | 3770 |
Grangetown | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | 6548 |
Glanyrafon | Dydd Mawrth | Dydd Mercher | 6117 |
Butetown | Dydd Mawrth | Dydd Iau | 1754 |
Gabalfa | Dydd Mercher | Dydd Mercher | 2407 |
Cathays | Dydd Mercher | Dydd Mercher | 5781 |
Plasnewydd | Dydd Mercher | Dydd Iau | 7858 |
Cyncoed | Dydd Mercher | Dydd Gwener | 4161 |
Pentwyn | Dydd Mercher | Dydd Gwener | 5340 |
Pen-y-lan | Dydd Mercher | Dydd Gwener | 5195 |
Pentref Llaneirwg | Dydd Iau | Dydd Iau | 4717 |
Trowbridge | Dydd Iau | Dydd Iau | 6396 |
Llanrhymni | Dydd Iau | Dydd Iau | 4580 |
Adamsdown | Dydd Iau | Dydd Iau | 3826 |
Tredelerch | Dydd Iau | Dydd Iau | 3585 |
Sblot | Dydd Iau | Dydd Iau | 5747 |
Pontprennau | Dydd Iau | Dydd Gwener |
|
Y Mynydd Bychan | Dydd Gwener | Dydd Mawrth | 5089 |
Yr Eglwys Newydd a Felindre | Dydd Gwener | Dydd Mawrth | 6824 |
Rhiwbeina | Dydd Gwener | Dydd Gwener | 5117 |
Llanisien | Dydd Gwener | Dydd Gwener | 6901 |
Llys-faen | Dydd Gwener | Dydd Gwener | 1454 |
|
|
|
|
|
|
| 85301 |