The essential journalist news source
Back
21.
October
2020.
Dwy wobr PawPrints RSPCA i Gartref Cŵn Caerdydd
Mae Cartref Cŵn Caerdydd wedi derbyn dwy wobr PawPrints RSPCA - gwobr Aur yn y categori Cŵn Strae a gwobr Arian yng nghategori Cŵn Cwt.

Rhoddwyd y gwobrau i gydnabod y ffaith bod safon gwaith y Cartref Cŵn wrth roi cŵn mewn cytiau, a'r ffordd y mae’n gofalu am gŵn strae, yn rhagori ar ofynion sylfaenol a statudol y gwasanaeth. Caiff y gwasanaeth ei gefnogi gan elusen leol ‘The Rescue Hotel’ sy’n codi arian i ddarparu gwasanaethau ychwanegol fel ymddygiadwyr cymwysedig ar gyfer cŵn sy’n aros am gael eu hailgartrefu.

Er mwyn addasu i'r heriau sy'n gysylltiedig â Covid-19 mae'r Cartref Cŵn wedi gwneud nifer o newidiadau sydd wedi gwella lles anifeiliaid ymhellach. Mae'r newidiadau'n cynnwys cyflwyno cynllun maethu newydd llwyddiannus, a system apwyntiadau i ymwelwyr sydd wedi galluogi staff i dreulio mwy o amser gyda'r cŵn yn uniongyrchol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd yn poeni'n wirioneddol am y cŵn y maent yn gofalu amdanynt ac mae'r gwobrau hyn yn dyst i'w safonau uchel.

"Mae'r ffaith bod y Cartref Cŵn wedi ennill o leiaf un o'r gwobrau hyn bob blwyddyn ers 2008 yn dangos ymrwymiad y tîm i ofalu am bob un ci sy'n dod i’w ofal yn y ffordd orau bosibl."

Dywedodd Lewis Clark, ymgynghorydd materion cyhoeddus yr RSPCA: "Mae'n wych gweld Cartref Cŵn Caerdydd unwaith eto yn ennill cydnabyddiaeth mor haeddiannol drwy gynllun PawPrints yr RSPCA am fynd i’r ail filltir ar gyfer y cŵn yn eu gofal.

"Maen nhw'n parhau i fynd y tu hwnt i’w dyletswydd wrth ofalu am gŵn strae, ac o ran eu safon cynelu - ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio'n agos gyda Chyngor Caerdydd a'r tîm gwych yng Nghartref Cŵn Caerdydd."

https://www.cardiffdogshome.co.uk/cy/